Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ffeithiau allweddol am y Deyrnas Unedig

Os ydych yn chwilio am ffeithiau allweddol am y DU a'i thiriogaethau tramor, mae ffynonellau gwybodaeth da ar gael ar-lein a thu hwnt.

Y 'Deyrnas Unedig' neu 'Prydain'?

Teitl llawn y wlad hon yw 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon':

  • mae Prydain Fawr yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban
  • mae’r Deyrnas Unedig (DU) yn cynnwys Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban

Defnyddir ‘Prydain’ yn anffurfiol, fel arfer i olygu’r Deyrnas Unedig.

Nid yw Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw yn rhan o'r DU. Mae’r term daearyddol ‘Ynysoedd Prydain’ yn cynnwys y DU, Iwerddon i gyd, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Poblogaeth

Ganol 2003, roedd 59.6 miliwn o bobl yn byw yn y DU. Yr oed cyfartalog oedd 38.4, cynnydd ar y ffigur o 34.1 yn 1971. Mae mwy o bobl yn y DU dros 60 oed (12.4 miliwn), na sydd o blant o dan 16 oed (11.7 miliwn).

Mae poblogaeth y DU yn tyfu. Tyfodd o 232,100 o bobl yn y flwyddyn i ganol 2003, ac roedd y twf yn 0.4 y cant ymhob blwyddyn ers canol 2001. Mae poblogaeth y DU wedi cynyddu 6.5 y cant yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, o 55.9 miliwn ganol 1971. Dyma un o'r poblogaethau mwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n cyfrif am 13 y cant o'r cyfanswm.

Cynhelir cyfrifiad poblogaeth bob deng mlynedd. Gellir gweld yr ystadegau ar gyfer y cyfrifiad diwethaf (2001) ar-lein. Gellir cael manylion llawn, yn cynnwys ffurflenni cyfrifiadau unigol ar gyfer y cyfrifiadau a gynhaliwyd yn 1901, a chyn hynny.

Brasluniau ystadegol o'r DU

Mae'r Adran Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi cyfres o ffeithlenni ar-lein ar wahanol themâu sy'n cyfuno data o Gyfrifiad 2001 a ffynonellau eraill i roi darlun o'r testun, a darparu dolenni at ragor o wybodaeth.

Ffynonellau cyfeirio

UK 2005 - The Official Yearbook

UK 2005 - The Official Yearbook of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland - dyma gyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a gellir ei lwytho oddi ar y we yn rhad ac am ddim ar ffurf PDF.

Mae'r rhifyn diweddaraf yn trafod llywodraeth, cysylltiadau rhyngwladol, amddiffyn, addysg a hyfforddiant, y farchnad waith, diogelwch cymdeithasol, iechyd, troseddu a chyfiawnder, crefydd, diwylliant, cyfathrebu a'r cyfryngau, chwaraeon, amgylchedd, tai, cynllunio ac adfywio, trafnidiaeth, yr economi, cyllid cyhoeddus, masnach a buddsoddi rhyngwladol, gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, amaethyddiaeth, pysgota a choedwigaeth, gweithgynhyrchu ac adeiladu, ynni ac adnoddau naturiol, a gwasanaethau ariannol.

Y Cyngor Prydeinig

Y Cyngor Prydeinig yw sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cyfleoedd addysgol a chysylltiadau diwylliannol ac sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant y DU dramor.

VisitBritain

Mae VisitBritain yn hyrwyddo Prydain dramor ac yn y DU fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae VisitBritain yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r byrddau croeso cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban i hyrwyddo delwedd ddeniadol o Brydain.

Tiriogaethau tramor a Dibynwledydd y Goron

Mae'r 14 o Diriogaethau Tramor Prydain, sydd wedi'u lledaenu ar draws y byd, yn gymunedau amrywiol. Maent yn amrywio o ynys fechan Pitcairn gyda'i 47 o breswylwyr, sydd yng nghanol y Môr Tawel, i Bermuda, gyda'i phoblogaeth o 62,059 ac sy'n un o brif ganolfannau ariannol y byd.

Dyma'r Tiriogaethau Tramor: Anguilla, Tiriogaeth Antarctig Prydain, Bermuda, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Malfinas, Gibraltar, Montserrat, St Helena a'i Dibynwledydd (Ynys Ascension a Tristan da Cunha), Ynysoedd Turks a Caicos, Ynys Pitcairn, Ynysoedd De Georgia a De Sandwich, Canolfannau Milwrol Sofran ar ynys Cyprus.

Nid yw Dibynwledydd y Goron yn rhan o'r Deyrnas Unedig ond yn ddibynwledydd y Goron sy'n llywodraethu'u hunain. Dibynwledydd y Goron yw Ynys Manaw, Beilïaeth Jersey a Beilïaeth Guernsey.

Additional links

Gwyliau, gwaith ac astudio ym Mhrydain

Syniadau am wyliau, canllaw i leoliadau, dyddiadur digwyddiadau, a chynigion a hyrwyddiadau arbennig

Allweddumynediad llywodraeth y DU