Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Symud yn ôl i’r DU: rhestr wirio

O gofrestru'ch plant mewn ysgolion i roi trefn ar eich sefyllfa dreth, dyma rai o'r pethau y dylech eu hystyried wrth baratoi i symud yn ôl i'r DU.

Treth, budd-daliadau, pensiynau ac Yswiriant Gwladol

  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM pa bryd y byddwch chi'n dod yn ôl, a chanfod beth fydd y gofynion treth ar ôl dychwelyd i'r DU
  • sicrhau gyda'r wlad lle rydych chi'n byw nad oes gennych chi unrhyw dreth yn ddyledus cyn i chi adael
  • ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cysylltwch â Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM (Gwasanaethau Rhyngwladol)
  • cysylltwch â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch eich pensiwn a'ch budd-daliadau, gan roi manylion iddynt am eich bwriad i ddychwelyd, a'ch manylion cyswllt dramor ac yn y DU

Iechyd

  • cofrestrwch gyda meddyg teulu a deintydd yn y DU
  • rhowch wybod i unrhyw gwmnïau yswiriant meddygol ac yswiriant teithio preifat os oes gennych chi bolisïau â hwy
  • rhowch wybod i'ch meddyg teulu, i'ch deintydd ac i'ch gweithwyr iechyd eraill yn y wlad y byddwch chi'n ei gadael, a holwch a yw hi'n bosibl anfon eich cofnodion i'ch gweithwyr iechyd newydd yn y DU

Eich cartref

  • trefnwch werthu eich eiddo neu derfynu eich prydles fel sy'n briodol, a threfnwch sut i symud eich pethau
  • cysylltwch â'r cyngor lleol yn yr ardal y byddwch chi'n symud iddi - bydd angen i'r adran treth gyngor a'r uned gofrestru etholiadol wybod pa bryd y byddwch chi'n dychwelyd i'r DU, a chael eich cyfeiriad yn y DU
  • rhowch wybod i'ch cwmnïau gwasanaethau eich bod yn symud a rhowch gyfeiriad iddynt allu anfon eich biliau terfynol a gwybodaeth am unrhyw daliadau neu ad-daliadau sy'n ddyledus; bydd angen i chi hefyd drefnu i gael cyfrifon ar gyfer gwasanaethau unwaith i chi ddod o hyd i gartref yn y DU
  • rhowch wybod i'ch banc, cymdeithas adeiladu neu unrhyw sefydliad ariannol y mae gennych chi bolisi neu gytundeb â hwy eich bod yn symud
  • ail-gyfeiriwch eich post

Eich plant

  • rhowch wybod i'r awdurdodau addysg eich bod yn gadael y wlad
  • cyn dychwelyd i'r DU, cysylltwch â'r awdurdod addysg lleol perthnasol ynghylch cael llefydd mewn ysgolion

Additional links

Gwyliau, gwaith ac astudio ym Mhrydain

Syniadau am wyliau, canllaw i leoliadau, dyddiadur digwyddiadau, a chynigion a hyrwyddiadau arbennig

Allweddumynediad llywodraeth y DU