Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod i Gyllid & Thollau EM am newid mewn amgylchiadau neu mewn incwm

Gall newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar faint o dreth y byddwch yn ei thalu. Mae'n bosibl y bydd yn effeithio hefyd ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth gewch chi. Felly, mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM yn gynnar - er mwyn atal gordaliadau neu dandaliadau y bydd angen eu cywiro'n ddiweddarach.

Effaith newidiadau ar fudd-daliadau neu gredydau treth

Gall newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth. Darllenwch fwy ar y tudalennau isod.

Mae gweddill y dudalen hon yn delio gyda'r broses o roi gwybod am newidiadau sy'n effeithio ar eich treth.

Newid cyfeiriad

Os ydych yn symud, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn atal colli'r canlynol neu atal y canlynol rhag cyrraedd yn hwyr:

  • taliadau sy'n ddyledus i chi
  • ffurflenni pwysig yn gofyn am fanylion am eich incwm a'ch lwfansau - gallai darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i Gyllid a Thollau EM eich atal rhag gorfod talu gormod neu rhy ychydig o dreth
  • hysbysiadau, megis hysbysiadau cod a hysbysiadau dyfarniadau credydau treth - os derbyniwch y rhain mewn pryd byddwch yn gallu apelio os ydych yn anghytuno

Gallech hefyd osgoi cosbau a gordaliadau awtomatig am anfon eich ffurflen dreth i mewn yn hwyr neu dalu treth yn hwyr oherwydd i'r ffurflenni fynd i'r man anghywir.

Ni fydd eich cyflogwr na'r gyflogres yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod wedi newid cyfeiriad.

Newid i incwm

Os ydych ar PAYE (Talu Wrth Ennill) ond ddim yn llenwi ffurflen dreth fel arfer

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM am newidiadau i incwm nad ydynt yn gysylltiedig â PAYE. Er enghraifft, newidiadau i incwm cynilion neu incwm a dderbyniwch y tu allan i'ch swydd neu bensiwn, neu ddechrau cael incwm rhent.
Efallai y bydd eich Cyllid a Thollau EM yn gallu newid eich cod treth er mwyn i chi allu talu’r swm iawn o dreth drwy PAYE.

Fodd bynnag mewn rhai achosion efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi lenwi ffurflen treth a thalu unrhyw dreth ychwanegol drwy Hunanasesiad. Byddant yn ysgrifennu atoch a rhoi gwybod os ydynt angen i chi lenwi ffurflen dreth ar wahân.

Os yw eich incwm trethadwy wedi gostwng, efallai y dylech dderbyn ad-daliad.

Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer ac os nad ydych ar PAYE

Os bydd cynnydd yn eich incwm yn golygu bod eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfans personol (ac unrhyw lwfans person dall y mae gennych hawl iddo), rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM.

Efallai y bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus drwy Hunanasesiad.

Os ydych eisoes yn llenwi ffurflen Hunanasesiad

Os cewch ostyngiad sylweddol mewn incwm neu os ydych yn disgwyl gostyngiad o'r fath, gallwch roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth yn syth; efallai y gallant addasu'ch taliadau ar gyfrif at i lawr i adlewyrchu'r swm diwygiedig.

Enillion uwchben eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf

Rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os ydych yn gwneud unrhyw enillion cyfalaf sy'n fwy na'r lwfans Treth Enillion Cyfalaf am y flwyddyn dreth gyfredol. Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth os nad ydych eisoes yn gwneud hynny. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, os gwerthwch gyfranddaliadau neu ail eiddo.

Dechrau neu stopio derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth

Os byddwch chi’n dechrau neu stopio derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth, fel Lwfans Ceiswyr Gwaith, Lwfans Gofalwr neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, efallai y bydd yn effeithio ar eich bil treth.

Po gynharaf y byddwch yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM a rhoi gwybod iddynt, po gynharaf y gallant addasu’ch cod treth i wneud yn sicr eich bod bob amser yn talu beth sy’n ddyledus.

Os bydd eich budd-daliadau cwmni yn newid

Does dim rhaid i gyflogwr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, onid yw'n gar cwmni.

Er mwyn osgoi cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn, gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM yn syth am unrhyw fuddion eraill y byddwch yn dechrau'u cael (er enghraifft yswiriant meddygol neu gymorthdaliadau benthyca). Gallwch hefyd roi gwybod am newidiadau i fuddion yr ydych eisoes yn eu cael. Bydd Cyllid a Thollau EM yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu'r dreth ychwanegol drwy PAYE yn gynt.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Mae pwy y mae angen i chi gysylltu ag ef o fewn Cyllid a Thollau EM yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU