Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth os byddwch chi’n anghytuno â phenderfyniad gan Gyllid a Thollau EM

Os ydych chi'n credu bod Cyllid a Thollau EM wedi gwneud penderfyniad anghywir neu afresymol, mae'n bosib y gallwch herio'r penderfyniad hwnnw. Gallwch naill ai wneud hyn eich hun neu awdurdodi cynghorydd proffesiynol i wneud hynny ar eich rhan.

Beth os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad gan Gyllid a Thollau EM?

Os ydych chi'n anfodlon â phenderfyniad gan Gyllid a Thollau EM, dilynwch y dolenni isod i ganfod beth y mae angen i chi ei wneud a phryd. Mae'r broses yn amrywio yn ôl y math o benderfyniad yr ydych yn anghytuno ag ef.

Hunanasesu, Talu Wrth Ennill, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a mwy

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad gan Gyllid a Thollau EM a pha opsiynau sydd ar gael i chi ar ôl i chi apelio, gan gynnwys gwybodaeth am beth y dylech ei wneud os na allwch chi a Chyllid a Thollau EM ddod i gytundeb.

Credydau treth

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad yn ymwneud â'ch credydau treth, mae'n bosib y bydd gennych hawl i apelio. Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn 30 diwrnod i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Credyd Treth.

Budd-dal Plant

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad yn ymwneud â'ch Budd-dal Plant, mae'n bosib y bydd gennych hawl i apelio. Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn mis i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant.

Penderfyniadau yn ymwneud â chael eich nwyddau a atafaelwyd yn ôl gan Gyllid a Thollau EM

Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gwrthod dychwelyd nwyddau a atafaelwyd i chi neu'n pennu amodau ar eu dychwelyd a chithau'n anghytuno â hwy, mae gennych hawl i ofyn am gael adolygu'r penderfyniad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU