Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gwyno wrth Gyllid a Thollau EM

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich ymwneud â Chyllid a Thollau EM yn syml ac ni ddylai achosi unrhyw anawsterau nac anghyfleustra. Fodd bynnag, gall camgymeriadau ac oedi ddigwydd, neu efallai y byddwch yn anhapus gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos. Beth bynnag y bo'r broblem, mae gennych hawl i gwyno am wasanaeth gwael.

Sut mae cwyno

Beth bynnag y bo natur eich cyswllt â Chyllid a Thollau EM, os ydych wedi cael profiad gwael, gorau po gyntaf i chi roi gwybod iddynt am hynny er mwyn iddynt allu gwneud rhywbeth amdano.

Pa un a yw eich cwyn yn ymwneud ag oedi afresymol, camgymeriad y gellid bod wedi'i osgoi yn eich barn chi, neu sut y cawsoch eich trin, mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac unioni pethau cyn gynted ag y bo modd.

Y camau cyntaf

Fel cam cyntaf, y peth gorau fel arfer yw siarad â’r person rydych chi wedi bod yn ymdrin gyda, neu i ffonio un o linellau cymorth Cyllid a Thollau EM. Bydd hyn fel arfer yn ddigon i unioni'r mater, ond os ydych yn dal yn anhapus, mae gan Gyllid a Thollau EM drefn gwyno ffurfiol.

Trefn gwyno

Sut i gwyno

Ysgrifennwch at, neu gofynnwch am gael siarad â'r Rheolwr Cwynion yn y swyddfa dan sylw. Cewch wneud eich cwyn drwy lythyr, dros y ffôn, drwy ffacs neu'n bersonol. Dywedwch wrthynt eich bod yn anhapus ac am gwyno. Os ydych yn ysgrifennu, rhowch y gair 'Cwyn' ar ben eich llythyr neu ffacs.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu, neu'n fodlon rhoi:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y rhif cyfeirnod diwethaf a ddefnyddiodd Cyllid a Thollau EM wrth gysylltu â chi
  • rhif ffôn cyswllt

Rhowch grynodeb o'r hyn a aeth o'i le yn eich barn chi a beth y dylai Cyllid a Thollau EM ei wneud i unioni'r sefyllfa. Byddant yn edrych ar eich pryderon ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl - fel arfer o fewn 15 diwrnod.

Byddai Cyllid a Thollau EM yn disgwyl datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn.

Cymryd eich cwyn yn bellach

Os ydych yn anhapus â'r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM edrych ar eich cwyn unwaith eto. Bydd rhywun arall sy’n delio â chwynion yn:

  • edrych o'r newydd arno, ac ar y modd yr ymdriniwyd ag ef
  • rhoi penderfyniad terfynol i chi

Os ydych dal yn anfodlon gallwch ofyn i'r Dyfarnwr edrych ar eich cwyn.

Dyfarnwr

Mae’r Dyfarnwr yn ganolwr teg a diduedd, yn annibynnol ar Gyllid a Thollau EM ac yn darparu ei wasanaeth am ddim.

Swyddfa'r Dyfarnwr
8th Floor
Euston Tower
286 Euston Road
London
NW1 3US

Ffôn: 030 0057 1111 neu 020 7667 1832
Ffacs: 030 0057 1212 neu 020 7667 1830

Ombwdsmon

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y deliodd Cyllid a Thollau EM a'r Dyfarnwr gyda'ch cwyn, gallwch ofyn i AS gyfeirio'ch achos at yr Ombwdsmon Seneddol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Seneddol neu ffoniwch Linell Gymorth yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar 0845 015 4033. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd ofyn i'ch AS godi'ch achos gyda Gweinidogion y Trysorlys neu Gyllid a Thollau EM.

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi'n cwyno

Mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i'ch helpu os ydych am gwyno a byddant yn eich trin mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol. Byddant:

  • byddant yn dweud wrthych eu bod wedi derbyn eich cwyn, rhoi enw'r sawl sy'n delio gyda'ch cwyn a gadael i chi wybod pryd i ddisgwyl ateb
  • byddant yn trin eich cwyn o ddifrif a'i chadw'n gyfrinachol
  • ni fyddant yn eich trin chi'n wahanol i bobl eraill am eich bod wedi cwyno
  • ni fyddant yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm

Hawlio costau yn ôl

Efallai y gallwch hawlio costau rhesymol yn ôl, costau yr ydych wedi gorfod eu talu o ganlyniad uniongyrchol i gamgymeriadau neu oedi afresymol gan Gyllid a Thollau EM, megis:

  • postio
  • galwadau ffôn
  • ffioedd proffesiynol

Os yw camgymeriadau neu oedi afresymol o du Cyllid a Thollau EM wedi peri llawer o boendod neu drallod ichi, efallai y gallant roi tâl bachan yn gydnabyddiaeth ac i ymddiheuro am hyn. Gallant hefyd wneud taliad ychwanegol os ymdriniwyd â'ch cwyn mewn ffordd annerbyniol neu os cymerwyd amser afresymol o hir i ddelio â'ch cwyn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU