Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gysylltu â Chyllid a Thollau EM

Wrth gysylltu â Chyllid a Thollau EM, bydd yn arbed amser ac ymdrech i chi os ydych yn gwybod â phwy i gysylltu. Os byddant yn ysgrifennu atoch, dylech fel arfer ymateb i bwy bynnag a anfonodd y llythyr. Os oes gennych ymholiad mwy cyffredinol, dyma rai ffyrdd o ddod o hyd i'r enw cyswllt iawn.

Ymholiadau cyffredinol

Mae gan Gyllid a Thollau EM wahanol bwyntiau cyswllt, yn dibynnu ar natur eich ymholiad.

Desgiau cymorth ar gyfer gwasanaethau ar-lein

Os ydych yn cael problemau neu angen rhagor o gymorth wrth ddefnyddio gwasanaeth ar-lein, cysylltwch ag un o'r desgiau cymorth arbenigol.

Llinellau cymorth dros y ffôn

Mae gan Gyllid a Thollau EM amrywiaeth eang o linellau cymorth arbenigol.

Dyma rai o'r prif linellau cymorth:


Llinell gymorth ar gyfer Rhif Oriau agor

Ymholiadau profedigaeth ar gyfer Threth Incwm a Hunanasesiad

0845 300 0627

rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn

Budd-dal Plant

0845 302 1444

rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

TAW, tollau cartref a thollau tramor

0845 010 9000

rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Ymholiadau Treth Incwm

0845 300 0627

rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

0845 302 1479

rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Profiant a Threth Etifeddu

0845 302 0900

rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Hunanasesiad

0845 900 0444

rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn

Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

0345 300 3900

rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn

Ymddiriedolaethau

0845 604 6455

rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Os ydych yn preswylio dramor a bod gennych ymholiad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, dilynwch y ddolen isod i’r Llinell Gymorth i Bobl nad ydynt yn Preswylio yn y DU.

Cyngor wyneb-yn-wyneb

Os bydd arnoch angen gweld rhywun yn bersonol - er enghraifft os oes gennych anghenion penodol, bydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad yng Nghanolfan Ymholiadau Cyllid a Thollau EM. Efallai y byddwch am geisio ffonio un o Linellau Cymorth Cyllid a Thollau EM yn gyntaf. Os na all y llinell gymorth ateb eich ymholiad, gall y teleffonydd drefnu apwyntiad i chi yng Nghanolfan Ymholiadau Cyllid a Thollau EM.

Mae gan ein Canolfannau Ymholiadau amrywiaeth o oriau agor.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM dros e-bost

Os bydd arnoch angen rhoi gwybod am newid enw neu gyfeiriad, gallwch anfon e-bost at Gyllid a Thollau EM. Cael gwybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM drwy’r post

Os gwyddoch pa swyddfa Cyllid a Thollau EM sy’n delio gyda’ch materion treth, yna dylech gysylltu â’r swyddfa honno. Gellir dod o hyd i’r cyfeiriad post ar unrhyw ffurflenni neu lythyrau gan Gyllid a Thollau EM. Os na allwch ddod o hyd i gyfeiriad swyddfa Cyllid a Thollau EM, dilynwch y ddolen isod i weld at bwy y dylech ysgrifennu.

Ffurflenni, taflenni a chanllawiau

Mae Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi llawer o daflenni 'plain English' sy'n ateb y cwestiynau treth a thollau mwyaf cyffredin. Gallwch lwytho'r rhan fwyaf o'r rhain yn syth oddi ar eu gwefan - ynghyd â'r ffurflenni hawlio mwyaf cyffredin a'r rhan fwyaf o dudalennau a nodiadau cymorth y ffurflen dreth lawn.

Archebu ffurflenni neu daflenni i'w postio atoch

Os oes angen llawer o gopïau o ffurflenni arnoch a chithau heb argraffydd, gallwch eu harchebu ar-lein a gofyn am iddynt gael eu postio atoch.

Ymholiadau ynghylch hawlio treth yn ôl ar log banc neu gymdeithas adeiladu

Ffoniwch y llinell gymorth Taxback ar 0845 366 7850 (ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener). Nid yw’r llinell gymorth hon ar gyfer trethdalwyr sydd am hawlio treth Talu Wrth Ennill yn ôl.

Gwasanaethau Cyllid a Thollau ar gyfer cwsmeriaid sydd ag anghenion arbennig

Bydd yr wybodaeth hon yn berthnasol i chi os:

  • ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd
  • ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall
  • ydych yn defnyddio cadair olwyn
  • nid Saesneg yw eich iaith gyntaf
  • oes angen ymweliad i’r cartref arnoch
  • oes angen cymorth arnoch i lenwi ffurflenni a Hunanasesiadau

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU