Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch weithredu ar ran rhywun arall sy'n ei chael hi'n anodd cael trefn ar eu materion eu hunain - efallai oherwydd salwch neu anabledd, neu oherwydd nad ydynt yn siarad Saesneg.
Os byddwch yn ffonio Cyllid a Thollau EM ar ran rhywun arall, bydd yr hyn a fydd yn digwydd yn dibynnu ar yr hyn yr ydych am ei drafod. Ni fydd yn rhaid i chi brofi pwy ydych chi os byddwch yn gofyn am ffurflen neu'n gwneud ymholiad cyffredinol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd angen i chi neu'r sawl yr ydych yn gweithredu ar ei ran gadarnhau pwy ydyn nhw.
Ar gyfer galwadau eraill, efallai y gall y person yr ydych yn gweithredu ar ei ran roi caniatâd dros y ffôn i chi siarad ar eu rhan. Rhaid i’r ddau ohonoch fod yn bresennol pan wneir yr alwad.
Rhaid i'r person yr ydych yn siarad ag ef fod yn sicr mai'r person sy'n rhoi ei ganiatâd yw'r person hwnnw mewn gwirionedd. Gofynnir cwestiynau iddynt am eu materion treth neu hawliad Budd-dal Plant/credydau treth, ac felly dylai'r holl bapurau perthnasol fod ganddynt.
Efallai y gofynnir i chi roi'ch rhif ffôn er mwyn iddynt allu'ch galw'n ôl. Mae'n well gwneud yr alwad o'r fan lle mae'r person yr ydych yn gweithredu ar ei ran yn byw, rhag ofn iddynt wirio'r rhif a roddwch yn y llyfr ffôn.
Os ydych am weithredu ar ran rhywun yn yr hirdymor, bydd angen i'r person hwnnw neu chi ar ei ran ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM er mwyn esbonio'r sefyllfa. Bydd angen i'r llythyr gynnwys:
Unwaith y bydd yn cael ei gymeradwyo, chi fydd yn cael yr holl ohebiaeth gan Gyllid a Thollau EM yn y dyfodol, ac eithrio llythyrau ar gyfer talu unrhyw dreth sy'n ddyledus ac ad-daliadau. Bydd y rhain yn dal i gael eu hanfon yn syth at y person yr ydych yn ei gynrychioli.
Os nad ydych yn gwybod pa swyddfa y dylech ysgrifennu ati, defnyddiwch y ddolen isod.
Os nad yw person yn gallu gweithredu ar ei ran ei hun ac am eich penodi chi i ddelio â'u hawliad am gredydau treth neu Fudd-dal Plant, bydd rhaid iddynt lenwi'r ffurflen penodai sydd ynghlwm wrth eu ffurflen hawlio wreiddiol.
Os ydych am helpu i hawlio neu reoli credydau treth ar ran rhywun arall, mae'n bosib i chi wneud hynny. Bydd angen i chi ddangos i Gyllid a Thollau EM bod gennych ganiatâd yr unigolyn hwnnw i wneud hynny. Bydd y ffordd orau o wneud hyn yn dibynnu ar eich perthynas gyda'r unigolyn hwnnw.
Os ydych yn anabl, mae Cyllid a Thollau EM yn cynnig gwasanaethau i'ch helpu chi ddelio â'ch materion treth:
Mae Cyllid a Thollau EM yn cynnig gwasanaeth cyfieithu am ddim i gwsmeriaid nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn pan fyddwch yn ffonio Cyllid a Thollau EM neu pan fyddwch yn mynd i un o'u swyddfeydd. Gyda'r cymorth iawn, efallai na fydd angen i chi benodi cynrychiolydd.
Mae'r taflenni cymorth hyn ar gael mewn sawl iaith: