Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan Gyllid a Thollau EM ddyletswydd cyfreithiol caeth o ran cyfrinachedd sy'n golygu bod angen iddynt gael eich caniatâd ysgrifenedig cyn y gallant ddelio â'ch asiant neu gyfrifydd.
Nid oes yn rhaid i chi gyflogi cyfrifydd os nad ydych am wneud hynny, yn enwedig os yw eich sefyllfa ariannol yn syml. Fodd bynnag, efallai y gwelwch y gall cyfrifydd da eich helpu i reoli eich arian yn haws.
Gall asiantau trethi a chyfrifwyr ddelio â'ch holl faterion treth, gan gynnwys llenwi eich ffurflen dreth.
Mae angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig i'ch cyfrifydd ddelio'n uniongyrchol â Chyllid a Thollau EM ar eich rhan. I wneud hyn dylech lwytho ffurflen 64-8 'Awdurdodi eich asiant' a'i chwblhau.
Gallwch hefyd archebu ffurflen ar-lein.
Neu gallwch ofyn am ffurflen dros y ffôn drwy ffonio'r Llinell Archebu Hunanasesiad.
Neu gall eich cyfrifydd ddefnyddio'r gwasanaeth awdurdodi ar-lein er mwyn osgoi gorfod delio â'r ffurflen bapur.
Hyd yn oed os oes gennych gynghorydd proffesiynol, cofiwch mai chi sy'n bersonol gyfrifol am eich materion treth eich hun a chywirdeb yr holl wybodaeth a roddir i Gyllid a Thollau EM.