Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Archwiliadau ac ymchwiliadau treth

Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn cychwyn ymchwiliad, nid yw'n golygu eu bod yn meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Maent yn archwilio cyfran o ffurflenni treth yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gywir ac weithiau bydd angen mwy o wybodaeth arnynt er mwyn deall y ffigurau. Maent hefyd yn dewis ffurflenni treth ar hap i'w harchwilio i sicrhau bod y system yn gweithio mewn ffordd deg.

Dechrau'r ymchwiliad

Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych chi (a'ch cynghorydd proffesiynol os oes gennych un) drwy lythyr:

  • eu bod yn bwriadu cychwyn ymchwiliad
  • ar beth fyddant yn edrych - ai ar eich ffurflen dreth yn ei chyfanrwydd, ar un neu fwy o feysydd penodol yn unig, ynteu ar hawliad a wnaethoch nad oedd ar eich ffurflen dreth
  • pa wybodaeth y maent ei hangen oddi wrthych
  • y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ymateb
  • eich hawliau a'ch cyfrifoldebau

Defnyddio cynghorydd proffesiynol

Gallwch ddewis cael cynrychiolaeth broffesiynol unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd llenwi a dychwelyd ffurflen 64-8 i gadarnhau bod gan eich cynghorydd hawl i siarad gyda Chyllid a Thollau EM am eich materion treth.

Gallwch hefyd archebu ffurflen drwy ffonio 08459 000 404 (neu drwy anfon ffacs ar y rhif 08459 000 604). Mae'r llinellau ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 10.00 pm.

Hyd yn oed os oes gennych gynghorydd proffesiynol, cofiwch mai chi sy'n bersonol gyfrifol am eich materion treth eich hun a chywirdeb yr holl wybodaeth a roddir i Gyllid a Thollau EM.

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu

Bydd y wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu yn dibynnu ar natur yr ymchwiliad, ond dylech chi (neu eich cynghorydd ariannol) allu darparu unrhyw wybodaeth y seiliwyd eich ffurflen dreth arni yn gyflym ac yn rhwydd.

Terfynau amser ar gyfer darparu gwybodaeth

Fel arfer cewch 30 diwrnod i ddarparu unrhyw wybodaeth, ond gall Cyllid a Thramor EM roi mwy o amser i chi os yw'n ymddangos yn rhesymol.

Ymchwiliadau llawn

Mewn ambell i achos, gall Cyllid a Thollau EM benderfynu cynnal ymchwiliad llawn i bob rhan o'ch materion treth. Mae'r ymchwiliadau llawnach hyn yn cynnwys adolygiad manwl o'r cofnodion y seiliwyd eich ffurflen dreth arnynt gan gynnwys, os ydynt yn berthnasol, cofnodion eich busnes.

Ble mae'r ymchwiliadau'n cael eu cynnal?

Cynhelir llawer o ymchwiliadau arferol yn gyfan gwbl drwy'r post. Ond os oes llawer o wybodaeth i'w thrafod, efallai mai cyfarfod fydd y ffordd gyflymaf. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am gyfarfod yn:

  • eich Swyddfa Dreth
  • eich cartref
  • yn adeilad eich busnes (os yw'n berthnasol)

Os yw'n well gennych, gallwch ofyn i gael y cyfarfod yn swyddfa eich cynghorydd proffesiynol.

Does dim rhaid i chi fynd i unrhyw gyfarfod, ond byddai hynny'n eich galluogi i ofyn cwestiynau ac esbonio unrhyw bwyntiau nad yw'r Swyddfa Dreth wedi'u deall yn eich barn chi. Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu berthynas ddod gyda chi i'r cyfarfod.

Canlyniadau posibl ymchwiliad treth

Os yw popeth yn iawn

Byddwch yn cael llythyr (sef 'hysbysiad terfynu') yn dweud wrthych fod yr ymchwiliad wedi dod i ben. Yn yr achos hwn, ni fydd unrhyw newidiadau i'ch hawliad na'ch ffurflen dreth.

Os ydych wedi talu gormod o dreth

Bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich ffurflen i adlewyrchu'r ffigurau is ac yn talu llog i chi o ddyddiad eich taliad anghywir hyd at y diwrnod y cewch ad-daliad.

Os nad ydych wedi talu digon o dreth

Bydd Cyllid a Thollau EM yn awgrymu newidiadau ac yn ceisio cytuno gyda chi ar y rhain. Wedyn, gofynnir i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus o fewn 30 diwrnod i gael yr hysbysiad terfynu yn cadarnhau'r newid.

Os na allwch dalu'r swm yn llawn ar unwaith, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn trafod gyda chi sut i dalu'r swm sy'n ddyledus.

Llog a gordaliadau eraill

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y dreth na chafodd ei thalu gennych. Ceir gordaliadau eraill ar gyfer peidio â thalu neu am dalu'n hwyr ar ôl i hysbysiad terfynu gael ei anfon.

Eich hawl i apelio ar ddiwedd ymchwiliad

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau neu daliadau cosb ar ôl ymchwiliad. Hefyd, gallwch apelio i stopio ymchwiliad os teimlwch nad oes sail dros barhau ag ef.

Amseriad ymchwiliadau

Fel arfer, bydd gan Gyllid a Thollau EM 12 mis o'r adeg y byddant yn cael eich ffurflen dreth i ddweud wrthych eu bod yn bwriadu dechrau cynnal ymchwiliad. Mae'r dyddiadau cau yn wahanol ar gyfer ffurflenni treth hwyr neu ddiwygiedig, neu lle'r oedd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn fwriadol gamarweiniol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU