Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall a gwirio eich cyfrifiad treth

Os ydych chi’n derbyn cyfrifiad treth, mae’n bwysig eich bod yn ei wirio. Mae’r ffigurau y mae’n eu dangos yn cael eu defnyddio i gyfrifo eich bil treth. Caiff hwn ei yrru’n ddiweddarach (y 'Datganiad Hunanasesu’). Felly os yw’r cyfrifiad treth yn anghywir, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM ar unwaith.

Cael eich cyfrifiad treth

Dim ond os gwnaethoch y canlynol y cewch gyfrifiad treth (ffurflen SA302):

  • anfon ffurflen dreth bapur neu ddiwygio ffurflen dreth bapur a gofyn i Gyllid a Thollau EM gyfrifo eich treth
  • anfon ffurflen dreth bapur ond bod Cyllid a Thollau EM ddim yn cytuno â’ch cyfrifiad

Llythyr eglurhaol eich cyfrifiad treth

Mae’r llythyr eglurhaol yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • y flwyddyn dreth y mae'r cyfrifiad yn cyfeirio ato
  • y ‘Cyfanswm Treth Incwm sy'n ddyledus’ ar gyfer y flwyddyn honno - daw hwn o’r dudalen arall sy’n cynnwys y cyfrifiadau
  • unrhyw newidiadau y mae Cyllid a Thollau EM wedi'u gwneud i'r ffigurau ar eich ffurflen dreth
  • unrhyw ‘daliadau ar gyfrif’ (blaendaliadau) y bydd angen i chi eu talu ar gyfer y flwyddyn nesaf

Nid bil treth yw’r llythyr a’r cyfrifiad, ond os yw unrhyw un o’r ffigurau’n edrych yn anghywir, mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib - gweler yr adran isod.

Os credwch fod eich cyfrifiad yn anghywir

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r ffigurau, ac os ydych yn anghytuno â nhw, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib. Bydd y rhif y dylech ei ffonio ar y cyfrifiad treth.

Os na wnewch chi gysylltu â nhw, bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio ffigurau’r cyfrifiad treth ar eich ‘Datganiad Hunanasesu’. Mae hwn yn ddatganiad y byddwch yn derbyn yn nes ymlaen i ofyn i chi dalu os oes treth yn ddyledus gennych, neu i roi gwybod i chi bod treth yn ddyledus i chi.

Os yw’r ffigurau’n anghywir, mae’n bosib y byddwch yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth. Os byddwch yn talu rhy ychydig o dreth, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau pan fydd y camgymeriad yn cael ei gywiro.

Deall y cofnodion ar dudalennau’r cyfrifiad treth

Edrychwch ar bob cofnod yn eich cyfrifiad i wneud yn siŵr eich bod yn ei ddeall yn iawn.

Incwm a dderbyniwyd (cyn tynnu treth)

Mae hyn yn rhestru eich holl incwm trethadwy am y flwyddyn - gan gynnwys y symiau ‘gros’ cyn treth ar gyfer pethau fel y canlynol:

  • tâl, heb gynnwys unrhyw dreuliau a ganiateir y cewch eu hawlio
  • unrhyw fuddion a threuliau trethadwy a gawsoch drwy’ch gwaith
  • elw os ydych yn hunangyflogedig neu’n bartner mewn partneriaeth fusnes
  • llog ar gynilion
  • difidendau (mae’r swm a ddangosir yn cynnwys y ‘credyd treth’ 10 y cant - dilynwch y ddolen isod os nad ydych yn siŵr beth y mae hyn yn ei feddwl)

Cyfanswm yr incwm y mae angen talu treth arno

Dyma'r incwm rydych wedi'i gael - fel yr eglurwyd uchod - heb gynnwys dim didyniadau na lwfansau personol di-dreth y mae gennych hawl iddynt.

Treth Incwm sy’n ddyledus

Yn yr adran hon, fe welwch gyfradd y dreth sydd wedi cael ei rhoi ar eich tâl, eich pensiwn, eich elw, eich incwm buddsoddiadau ayb. Mae gwahanol fathau o incwm yn cael eu trethu ar wahanol gyfraddau, a chaiff incwm sydd uwchben lefel benodol ei drethu ar gyfradd dreth uwch.

Os ydych chi’n talu cyfradd dreth uwch, mae’n bosib y caiff addasiadau eu dangos yma i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gostyngiadau treth cywir ar gyfer taliadau penodol rydych chi wedi’u gwneud. Er enghraifft, os gwnaethoch roi arian i elusen gan ddefnyddio Cymorth Rhodd, dim ond y gyfradd gostyngiad treth sylfaenol (20 y cant) y byddwch wedi’i dderbyn wrth roi’r arian - felly gwneir addasiad yma i roi i chi’r gostyngiad treth ychwanegol y mae gennych chi'r hawl iddo.

Cyfanswm y dreth sy'n ddyledus

Dyma gyfanswm y dreth sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn dreth hon ar ôl ystyried addasiadau megis y canlynol:

  • treth rydych wedi ei thalu drwy eich cod treth TWE (Talu Wrth Ennill)
  • treth sydd wedi’i didynnu o’ch incwm cynilion
  • ad-daliadau rydych chi eisoes wedi’u cael ar gyfer y flwyddyn

Fodd bynnag, ddim y ffigur ‘Cyfanswm y dreth sy’n ddyledus’ o reidrwydd fydd y swm y bydd gofyn i chi ei dalu, oherwydd nid yw’n ystyried unrhyw daliadau rydych chi eisoes wedi’u gwneud yn uniongyrchol i Gyllid a Thollau EM, er enghraifft taliadau a wnaed drwy Ddebyd Uniongyrchol neu gyda siec. Yn ogystal, nid yw’n ystyried unrhyw symiau sydd efallai’n ddyledus gennych ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Bydd y Datganiad Hunanasesu a fydd yn dilyn yn dweud wrthych yn union faint sy’n ddyledus gennych chi neu i chi.

Cofnodion eraill ar y cyfrifiad

Dyma'r cofnodion eraill y gwelwch, o bosib, ar eich cyfrifiad:

  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 - os ydych chi'n hunangyflogedig
  • Treth ar Enillion Cyfalaf
  • Ad-daliadau Benthyciad i Fyfyrwyr

Talu beth sy’n ddyledus gennych

Fel y crybwyllwyd eisoes, nid yw’r cyfrifiad treth na’r llythyr eglurhaol yn orchmynion i chi dalu.

Ond, bydd llythyr eglurhaol y cyfrifiad treth yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:

  • y dyddiad y mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy’n dal yn ddyledus gennych (dangosir hyn hefyd yn y Datganiad Hunanasesu a fydd yn dilyn)
  • unrhyw ‘daliadau ar gyfrif’ (blaendaliadau) y bydd angen i chi eu talu ar gyfer y flwyddyn nesaf

Os na fyddwch yn cael eich Datganiad Hunanasesu cyn y dyddiad a fydd ar y llythyr sy’n dweud wrthych pryd y bydd yn rhaid i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych, bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfrifiad treth a'r llythyr eglurhaol, yn ogystal â datganiadau blaenorol, i gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus gennych.

Os yw’n well gennych, gallwch edrych ar-lein i weld faint sy'n ddyledus gennych drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesu Ar-lein a defnyddio'r opsiwn 'Gweld y Cyfrif' (View Account). Gallwch wneud hyn hyd yn oed os ydych chi wedi anfon ffurflen dreth bapur.

Sicrhewch eich bod yn talu ar amser - bydd yn rhaid i chi dalu llog os byddwch yn talu’n hwyr.

Os credwch fod eich taliadau ar gyfrif yn edrych fel eu bod yn rhy uchel

Mae’n bosib y bydd eich llythyr eglurhaol yn dweud wrthych fod angen i chi wneud taliadau ar gyfrif (blaendaliadau) ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Os felly, bydd symiau’r taliadau hyn yn cael eu seilio ar yr incwm a ddangosir ar eich cyfrifiad treth oherwydd bydd Cyllid a Thollau EM yn tybio y bydd eich incwm y flwyddyn nesaf yn debyg.

Os yw eich incwm wedi codi, nid oes yn rhaid i chi wneud dim - nid oes angen i’r taliadau ar gyfrif newid.

Os yw eich incwm wedi gostwng, mae’n bosib y byddwch yn credu bod y taliadau ar gyfrif y gofynnir amdanynt yn rhy uchel. Yn yr achos hwn, gallwch ddefnyddio ffurflen SA303 er mwyn gofyn i symiau’r taliadau gael eu lleihau. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os yw eich incwm yn codi eto, neu mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw dreth y byddwch yn ei dalu’n hwyr.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU