Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar ddifidendau'r DU

Mae'r cyfraddau treth a dalwch ar ddifidendau'r DU (incwm o gyfranddaliadau cwmnïau o'r DU, ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau a chwmnïau buddsoddi penagored) yn wahanol i'r hyn a dalwch ar fathau eraill o incwm gan gynnwys cyflog, elw o hunangyflogaeth, pensiynau a llog o gynilion, megis llog banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cyfraddau treth ar ddifidendau 2012-13

Mae tri math gwahanol o gyfraddau Treth Incwm ar ddifidendau'r DU. Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu'n dibynnu ar a yw eich incwm trethadwy cyffredinol (ar ôl lwfansau) yn dod o fewn terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol neu uwch ynteu a yw'n uwch na hynny.

Mae terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol yn £34,370, a therfyn y gyfradd Dreth Incwm uwch yw £150,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13.

Cyfraddau treth ar ddifidendau 2012-13

Incwm difidend mewn perthynas â'r band treth cyfradd sylfaenol neu gyfradd uwch

Y gyfradd dreth a ddefnyddir ar ôl didynnu'r Lwfans Personol ac unrhyw Lwfans Person Dall

Incwm difidend sydd ar y gyfradd dreth sylfaenol o £34,370 neu sy'n is na'r terfyn hwnnw

10%

Incwm difidend sydd ar y gyfradd dreth uwch o £150,000 neu sy'n is na'r terfyn hwnnw 32.5%

Incwm difidend sy'n uwch na therfyn y gyfradd dreth uwch

42.5%

Nid oes ots pa un a ydych yn cael difidendau gan gwmni, ymddiriedolaeth fuddsoddi-drwy-unedau neu gwmni buddsoddi penagored, gan y trethir pob difidend yn yr un ffordd.

Ond cofiwch fod llog a ddosberthir o ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau a chwmnïau buddsoddi penagored yn cael ei drethu yn ôl y cyfraddau ar gyfer incwm o gynilion - gweler isod.

Treth ar incwm o gynilion

Mae pedwar math gwahanol o gyfraddau Treth Incwm ar incwm o gynilion: 10 y cant, 20 y cant, 40 y cant neu 50 y cant. Bydd y gyfradd a dalwch yn dibynnu ar eich incwm trethadwy cyffredinol.

Sut caiff difidendau eu talu

Pan fyddwch yn cael eich difidend, byddwch hefyd yn cael taleb sy'n dangos:

  • y difidend a dalwyd - y swm a gawsoch
  • maint y 'credyd treth' cysylltiedig - gweler yr adran nesaf

Os ydych wedi cytuno i'ch difidendau gael eu talu'n electronig, efallai y cewch eich taleb ar ffurf papur neu electronig.

Deall credyd treth difidendau

Bydd cwmnïau'n talu difidendau i chi o elw y maent eisoes wedi talu treth arno - neu elw y maent yn mynd i dalu treth arno. Mae'r credyd treth yn ystyried hyn ac mae ar gael i'r cyfranddaliwr i'w osod yn erbyn unrhyw Dreth Incwm a all fod yn ddyledus ar eu 'hincwm difidend'.

Wrth adio'ch incwm trethadwy cyffredinol, bydd angen i chi gynnwys y difidend(au) a dderbyniwyd ynghyd â'r credyd(au) treth. Eich 'incwm difidend’ yw'r enw ar yr incwm hwn.

Sut y cyfrifir credydau treth

Mae'r difidend a delir i chi yn cynrychioli 90 y cant o'ch 'incwm difidend'. Credyd treth yw'r 10 y cant sy'n weddill o'r incwm difidend. O'i roi fel arall, mae'r credyd treth yn cynrychioli 10 y cant o'r 'incwm difidend'.

Incwm difidend sydd ar y gyfradd dreth sylfaenol o £34,370 neu sy'n is na'r terfyn hwnnw

Difidend a delir i chi (yn cynrychioli 90% o'r incwm difidend)

Credyd treth (10% o'r incwm difidend)

Incwm difidend (difidend a delir ynghyd â chredyd treth)

£63 £7 £70
£54 £6 £60
£90 £10 £100

Talu treth ar incwm difidend

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol neu is

Does dim treth i'w thalu ar eich incwm difidend oherwydd yr atebolrwydd treth yw 10 y cant - yr un maint â'r credyd treth - fel y dangosir yn y tablau blaenorol.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch

Rydych yn talu cyfanswm o 32.5 y cant o dreth ar incwm difidend gan gynnwys credyd treth sydd uwchben y terfyn ar gyfer y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol (£34,370 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-2013). Yn ymarferol, fodd bynnag, dim ond 25 y cant o’r difidend a delir i chi sydd arnoch chi, ar ôl i’r credyd treth wedi cael ei ystyried.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ychwanegol

Ers y flwyddyn dreth 2010-11 rydych yn talu cyfanswm o 42.5 y cant o dreth ar incwm difidend sy’n uwch na therfyn y gyfradd Dreth Incwm uwch (sy’n £150,000 ar hyn o bryd) Yn ymarferol, fodd bynnag, dim ond 36.1 y cant o’r difidend a delir i chi sydd arnoch chi. Mae hyn oherwydd bod y deg y cant cyntaf o’r dreth ar eich incwm difidend eisoes yn cael ei gyflenwi gan y credyd treth.

Dylid cofio bod incwm difidend, fel incwm o enillion, yn cael ei drethu ar ôl eich incwm nad yw’n dod o’ch cynilion - er enghraifft, cyflogau ac elw hunangyflogaeth - ar eich cyfradd dreth uchaf. Er enghraifft, os bydd yn disgyn y naill ochr i derfyn y dreth gyfradd sylfaenol o £34,370, bydd yn cael ei drethu'n rhannol ar 10 y cant (a'i gyflenwi gan y credyd treth) ac yn rhannol ar 32.5 y cant (llai 10 y cant credyd treth).

Datgan incwm difidend ar eich ffurflen dreth Hunanasesu

Os ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, rhaid i chi ddangos incwm y difidend arni.

Os nad ydych chi’n llenwi ffurflen dreth, ond mae gennych gyfradd dreth uwch i’w thalu ar eich incwm difidend, yna dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM.

Gewch chi hawlio'r credyd treth os nad ydych yn talu treth fel arfer?

Na. Chewch chi ddim hawlio'r credyd treth o 10 y cant, hyd yn oed os yw eich incwm trethadwy'n llai na'ch Lwfans Personol a chithau ddim yn talu treth. Y rheswm yw nad oes Treth Incwm wedi'i didynnu o'r difidend a dalwyd ichi - yr unig beth yr ydych wedi'i gael yw credyd o 10 y cant yn erbyn unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU