Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall eich Datganiad Hunanasesu

Pan fyddwch yn anfon eich ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM (CThEM), cewch Ddatganiad Hunanasesu yn dangos pa dreth sy'n ddyledus gennych a sut i'w thalu. Os ydych wedi talu gormod, bydd yn dangos faint o ad-daliad a gewch. Os byddwch yn anfon eich ffurflen dreth ar-lein, gallwch weld eich datganiad ar-lein cyn iddo gyrraedd drwy'r post.

Gweld eich Datganiad Hunanasesu ar-lein

Os byddwch yn cofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM ac yn anfon eich ffurflen ar-lein, gallwch weld yr hyn sy'n ddyledus gennych yn syth. Byddwch hefyd yn gallu gweld eich datganiadau blaenorol a gweld dadansoddiad manwl o'ch hanes treth.

Bydd CThEM yn anfon Datganiad Hunanasesu atoch hefyd, fel arfer 45 diwrnod cyn bod y taliad yn ddyledus.

Gweld eich treth busnes

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn defnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM, gallwch ddefnyddio'r Dangosfwrdd Treth Busnes i weld eich treth busnes i gyd mewn un man. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru fel sefydliad pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM i wneud hyn.

Os gwnaethoch gofrestru fel unigolyn, gallwch ailgofrestru fel sefydliad os ydych eisiau defnyddio’r Dangosfwrdd Treth Busnes.

Beth sydd ar eich Datganiad Hunanasesu

Ni fydd eich datganiad bob amser yn cyfateb i'r swm y gwnaethoch ei weithio allan ar eich ffurflen Hunanasesu. Weithiau, bydd 'taliadau mantoli' yn ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn flaenorol neu byddwch wedi gwneud 'taliadau ar gyfrif' ar gyfer y flwyddyn gyfredol - caiff y rhain eu dangos ar eich Datganiad Hunanasesu. Gweler yr adrannau isod i gael gwybod mwy am daliadau mantoli a thaliadau ar gyfrif.

Bydd eich Datganiad Hunanasesu yn nodi:

  • rhif y datganiad a'r dyddiad
  • eich rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw deg digid
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • os ydych yn gyflogedig, cyfeirnod treth eich cyflogwr

Bydd hefyd yn nodi rhifau ffôn ar gyfer unrhyw ymholiadau.

Rhannau eich datganiad

Mae eich datganiad yn dangos balans eich datganiad diwethaf (yr hyn a oedd yn ddyledus gennych bryd hynny) a manylion unrhyw daliadau ers cyhoeddi eich datganiad diwethaf. Gall y rhain gynnwys:

  • symiau a dalwyd gennych
  • unrhyw dreth sy'n weddill sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol - y taliad mantoli
  • unrhyw gosbau a allai fod yn ddyledus gennych
  • unrhyw log sy'n ddyledus gennych
  • manylion unrhyw daliadau ar gyfrif sy'n ddyledus nawr
  • unrhyw daliadau ar gyfrif sy'n ddyledus o fewn y 45 diwrnod nesaf
  • unrhyw ad-daliadau sy'n ddyledus i chi (os bydd CThEM yn gwirio eich ad-daliad am resymau diogelwch, efallai y bydd yn eich cyrraedd ar ôl y dyddiad a ddangosir ar eich datganiad)
  • unrhyw log sy'n ddyledus ar dreth a ordalwyd gennych
  • blwch crynhoi yn dangos balans y cyfrif

Os oes taliad yn ddyledus gennych, bydd slip talu ar waelod y datganiad. Mae'r cyfarwyddiadau o ran sut i dalu ar gefn y datganiad.

Cosbau a llog ar eich datganiad

Os byddwch yn talu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych yn hwyr, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau. Byddwch yn gweld rhain ar eich datganiad.

Bydd eich datganiad hefyd yn dangos unrhyw log a/neu gosbau y mae'n rhaid i chi eu talu oherwydd gwall a nodwyd wrth wirio eich ffurflen dreth.

Camgymeriadau ar eich ffurflen dreth

Os bydd CThEM yn canfod eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth, bydd yn ei gywiro a bydd eich datganiad yn dangos y swm cywir. Cewch gyfrifiad treth yn dangos sut y gwnaeth CThEM weithio allan y ffigur cywir.

Pryd y caiff eich Datganiad Hunanasesu ei gyhoeddi?

Gallwch ddisgwyl cael Datganiad Hunanasesu:

  • o fewn 45 diwrnod i'r dyddiad y mae taliad yn ddyledus
  • os byddwch wedi talu gormod o dreth
  • os caiff y dreth sy'n ddyledus gennych ei newid ar ôl gwirio eich ffurflen
  • os yw manylion ar eich datganiad diwethaf wedi newid
  • pan gaiff treth ei chasglu drwy eich cod treth TWE (Talu Wrth Ennill)

Fel arfer, gellir casglu treth drwy eich cod TWE os yw'r swm sy'n ddyledus yn llai na £3,000 a'ch bod yn talu digon o dreth i'w gasglu mewn blwyddyn. Mae'n rhaid eich bod wedi anfon eich ffurflen dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr neu eich ffurflen dreth bapur erbyn 31 Hydref.

Taliadau mantoli - mynnwch wybod beth ydynt

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliad mantoli os oes treth yn ddyledus gennych o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Swm o dreth yw hwn sy'n ddyledus o hyd ar ôl i chi dalu eich taliadau ar gyfrif. Mae'n rhaid i chi dalu'r taliad mantoli erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Pam fod taliadau mantoli yn ddyledus?

Os nad yw'r swm cywir o dreth wedi cael ei gasglu yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol, mae taliad mantoli yn ddyledus. Er enghraifft:

  • os ydych wedi cael incwm heb ei drethu na chafodd ei gynnwys yn eich cod treth TWE
  • os ydych wedi cael eich trethu ar incwm o fuddsoddiadau ar y gyfradd sylfaenol, ond dylech fod wedi talu treth ar gyfradd uwch
  • os oes gennych Dreth Enillion Cyfalaf i'w thalu

Taliadau mantoli - enghraifft

Mae Mrs B yn cwblhau ffurflen dreth 2011-12 ar gyfer y flwyddyn dreth sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2012.

Mae'n gweithio allan mai £4,000 yw cyfanswm ei bil treth.

Mae gwerth £3,000 o dreth eisoes wedi cael ei didynnu cyn i'r arian gael ei dderbyn.

Ei thaliad mantoli, sy'n ddyledus ar 31 Ionawr 2013, yw £1,000.

Taliadau ar gyfrif - pryd y mae angen i chi eu talu?

Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud taliad ar gyfrif tuag at dreth y flwyddyn gyfredol.

Fel arfer, mae'n rhaid i chi wneud y taliadau hyn os oedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer y flwyddyn flaenorol dros £1,000. Ond os oes mwy nag 80 y cant o'r dreth hon eisoes wedi cael ei chasglu cyn i’r arian gael ei dderbyn, ni fydd yn rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif.

Os byddwch yn gwneud taliadau ar gyfrif, byddwch yn gwneud dau daliad. Bydd pob taliad am hanner y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Bydd yn rhaid i chi dalu'r rhandaliad cyntaf erbyn 31 Ionawr yn y flwyddyn gyfredol a'r ail randaliad erbyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn sy'n dilyn. Er enghraifft, ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 (6 Ebrill 2011 i 5 Ebrill 2012), bydd y taliad cyntaf ar gyfrif yn ddyledus ar 31 Ionawr 2012. Bydd yr ail daliad yn ddyledus ar 31 Gorffennaf 2012.

Enghraifft - nid oes angen unrhyw daliadau ar gyfrif

Bil treth Mr L ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11 oedd £1,200.

Roedd £1,000 o'r cyfanswm hwn wedi'i gasglu ar ei gynilion cyn i'r arian gael ei dderbyn.

Gan fod y dreth a gasglwyd cyn i'r arian gael ei dderbyn yn fwy nag 80 y cant o'r bil treth, ni fydd yn rhaid i Mr L wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12.

Mae'n rhaid iddo dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 erbyn y dyddiad talu arferol, sef 31 Ionawr 2013.

Enghraifft - rhaid gwneud taliadau ar gyfrif

Mae Mrs A yn cwblhau ei ffurflen dreth 2010-11 ac yn gweithio allan bod ganddi werth £4,500 o dreth i'w thalu ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2011. Ni chasglwyd unrhyw dreth cyn i'r arian gael ei dderbyn.

Mae eisoes wedi gwneud dau daliad ar gyfrif tuag at y swm hwn - £2,000 ym mis Ionawr 2011 a £2,000 ym mis Gorffennaf 2011.

Mae'n rhaid iddi nawr wneud taliad mantoli o £500 erbyn 31 Ionawr 2012.

Ei thaliadau ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 fydd £2,500 yr un, sef hanner y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer 2010-11 (£4,500/2).

Mae'r taliadau hyn yn ddyledus ar 31 Ionawr 2012 a 31 Gorffennaf 2012.

Os credwch fod eich taliadau ar gyfrif yn rhy uchel

Os gwyddoch y bydd eich incwm ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn llai na'ch incwm y llynedd, gallwch ofyn i'ch taliadau ar gyfrif gael eu lleihau. Ond:

  • os byddwch yn talu llai nag sydd angen i chi ei wneud, bydd CThEM yn codi llog arnoch
  • Gall CThEM ofyn i chi dalu cosb hefyd os bydd o'r farn nad ydych wedi cymryd gofal rhesymol

Gallwch leihau eich taliadau ar gyfrif mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • gwneid cais ar dudalennau cyfrifo eich ffurflen dreth
  • cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM a gwneud cais ar-lein
  • lawrlwytho ffurflen SA303, ei chwblhau a'i hanfon

Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi lleihau eich taliadau gormod - efallai am fod eich incwm yn uwch na'r disgwyl wedi'r cyfan - dywedwch wrth CThEM yn syth.

Gallwch wneud hyn ar-lein, lawrlwythwch ffurflen SA303 neu ffoniwch CThEM ar y rhif ffôn ar eich Datganiad Hunanasesu. Os byddwch yn oedi, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU