Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae tandaliadau treth yn effeithio ar eich cod treth

Mae'n bosibl na fyddwch yn talu digon o dreth os bydd eich incwm yn cynyddu ac na fyddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am hynny ar unwaith ac felly na fyddant wedi addasu eich cod, neu os yw eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn yn defnyddio'r cod treth anghywir. Y naill ffordd neu'r llall byddwch yn aml yn gallu talu'r 'tandaliad' yn ôl - ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol neu'r rhai blaenorol - drwy addasu eich cod treth.

Pan na fyddwch efallai wedi talu digon o dreth

Efallai na fyddwch wedi talu digon o dreth os:

  • gwnaethoch ddechrau cael buddion cwmni - er enghraifft car cwmni neu yswiriant meddygol ac nad oedd Cyllid a Thollau yn gwybod am hyn ar unwaith
  • oes gennych incwm arall - fel buddsoddiad neu incwm rhent - a'i fod wedi cynyddu ers y tro diwethaf i chi sôn amdano
  • gwnaethoch ddechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth ac nad oeddent yn gwybod ar unwaith
  • gwnaeth eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn ddefnyddio'r cod treth anghywir

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau i'ch incwm neu fuddion cwmni cyn gynted â phosibl fel nad ydych yn cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Beth sy'n digwydd os nad ydych wedi talu digon o dreth

Os caiff Cyllid a Thollau EM wybod am eich tandaliad yn ystod y flwyddyn

Bydd Cyllid a Thollau EM yn addasu eich cod treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol ar unwaith fel na fyddwch yn parhau i beidio â thalu digon o dreth. Byddant yn anfon 'Hysbysiad Cod PAYE' atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi beth yw'r cod newydd hwn. Bydd hwn yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym a bydd yn sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir ar gyfer gweddill y flwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd yr addasiad hwn yn casglu'r dreth nad ydych wedi'i thalu.

Rhoddir 'amcangyfrif' i chi hefyd o faint o dreth nad ydych wedi'i thalu yn ystod y cyfnod pan oedd eich cod treth yn rhy uchel ac yn egluro sut y byddant yn ei chasglu drwy addasu eich cod treth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cofiwch mai dim ond amcangyfrif yw'r swm a ddywedir nad ydych wedi'i dalu - dim ond rhan o'r flwyddyn sydd wedi mynd heibio a gall newidiadau eraill ddigwydd. Efallai y bydd yn rhaid i Gyllid a Thollau EM newid y tandaliad wrth edrych arno eto ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Byddwch yn cael Hysbysiad Cod PAYE arall yn rhoi gwybod i chi faint y mae'n rhaid i chi ei ad-dalu.

Oni fydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod am eich tandaliad tan ddiwedd y flwyddyn

Yn yr achos hwn byddant yn diwygio eich cod treth ar gyfer y flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn ar ôl honno ac anfon Cyfrifiad Treth P800 atoch yn rhoi gwybod i chi sut y digwyddodd y tandaliad a faint o dreth nad ydych wedi'i thalu. Cyn y bydd yn amser i chi ddechrau talu'r arian sy'n ddyledus gennych yn ôl byddwch yn cael Hysbysiad Cod PAYE newydd - gallwch weld faint sy'n ddyledus gennych o dan y cofnod 'Gostyngiad i gasglu treth nad yw wedi'i thalu'.

Sut mae gweld a ydych wedi tandalu ai peidio

Cam un: Defnyddiwch y swm y mae eich lwfansau di-dreth wedi'i leihau gydag ef a lluoswch y ffigur hwn gyda'r gyfradd ganrannol uchaf yr ydych yn talu treth.

Cam dau: Lluoswch y ffigur hwn gyda nifer yr wythnosau o 6 Ebrill tan y dyddiad y gwnaethom newid eich cod treth a'i rannu gyda 52.

Enghraifft

Rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ac mae eich lwfansau wedi gostwng o £1,500 ym mis Tachwedd oherwydd eich bod wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod wedi dechrau cael budd cwmni.

I gyfrifo eich tandaliad:

  • lluoswch £1,500 - gwerth eich budd cwmni yn yr achos hwn - gyda 20 y cant
  • lluoswch y ffigur hwnnw (£300) gyda 32 - nifer yr wythnosau o 6 Ebrill at ddyddiad y newid i'r cod - a'i rannu gyda 52

Eich tandaliad yw £185 - faint o dreth yr ydych wedi'i dandalu nes i'ch cod treth gael ei newid.

Sut mae cyfrifo'r addasiad yn eich cod ar gyfer talu eich tandaliad yn ôl

I gyfrifo'r swm y bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich lwfansau y flwyddyn nesaf - lluoswch faint yw eich tandaliad gyda 100 a rhannwch y ffigur gyda'r gyfradd dreth uchaf yr ydych yn ei thalu.

Enghraifft

Rydych yn talu cyfradd dreth sylfaenol (20 y cant) ac mae gennych dandaliad o £185 o'r flwyddyn flaenorol.
I gyfrifo'r swm y byddant yn ei ddefnyddio i leihau eich lwfansau, lluoswch £185 gyda 100 ac yna rhannu'r ffigur gydag 20. Bydd y swm ychwanegol y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar ei ben yn £925 (mae £925 lluosi gyda 20 y cant yn £185.00 o dreth).

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ychwanegu'r swm hwn at unrhyw ddidyniadau eraill y gallech eu cael ac yna'n tynnu'r cyfanswm o'ch lwfansau ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf.

Talu eich tandaliad yn ôl

Os oes llai na £3,000 yn ddyledys gennych byddwch fel arfer yn gallu talu’n ôl y cyfanswm drwy eich cod dreth. Os oes £3,000 neu fwy yn ddyledys gennych mae trefniadau gwahanol yn gymwys. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Os mae’ch incwm yn uwch na £150,000

Am 2010-11 ni chymrodd eich cod treth i ystyriaeth y gyfradd treth 50 y cant newydd (ac ni chafodd hyn ei adlewyrchu ar eich Hysbysiad Cod PAYE). Mae hyn yn golygu os oes gennych unrhyw ‘ostyngiadau a chywiriadau’ (er enghraifft, os oes angen i Gyllid a Thollau EM gymryd i ystyriaeth incwm o gynilion sy’n drethadwy at 50 y cant) mae’n bosib na fydd eich didyniadau yn gywir. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi dalu pan fyddwch yn anfon eich 2010-11 Hunanasesiad treth i mewn.

Bydd eich cod treth newydd yn cymryd i ystyriaeth y ‘cymwysiadau’ cyfradd dreth 50 y cant i gasglu’r swm cywir o dreth.

Os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth Hunanasesu fel arfer, a’ch bod chi’n dod i wybod yn ystod y flwyddyn dreth bod arnoch angen llenwi un, dilynwch y ddolen isod i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU