Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiynau, budd-daliadau gwladol a'ch cod treth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau gwladol eraill yn drethadwy, ond cânt eu talu cyn i dreth gael ei didynnu ohonynt. Os ydych yn cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol caiff y dreth ei didynnu drwy ddefnyddio system cod treth PAYE (Talu Wrth Ennill) a byddwch fel arfer yn talu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau gwladol drwy'r system honno hefyd. Os ydych yn gweithio efallai y byddwch yn talu treth arnynt drwy god treth eich cyflogwr.

Talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau drwy eich cod treth

Mae eich Pensiwn Gwladwriaeth a rhai budd-daliadau gwladol eraill yn cyfri fel incwm trethadwy, ond ni thynnir treth ohonynt pan fyddwch yn eu cael. Os ydych yn talu treth ar bensiwn personol neu bensiwn cwmni o dan system PAYE pwy bynnag sy'n talu eich pensiwn a hefyd yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal trethadwy arall, fel arfer bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn gasglu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn Gwladwriaeth neu fudd-dal arall ar yr un pryd. Maent yn gwneud hyn drwy addasu eich cod treth er mwyn ystyried y Pensiwn Gwladwriaeth neu'r budd-dal.

Os ydych yn parhau i weithio a chael y Pensiwn Gwladwriaeth neu unrhyw fudd-dal arall, caiff y dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn Gwladwriaeth neu fudd-dal ei gasglu naill ai drwy system PAYE eich cyflogwr neu (os oes gennych bensiwn arall) drwy system PAYE personol/cwmni pwy bynnag sy'n talu eich pensiwn.

Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi treth cod i'ch cyflogwr neu i bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn sy'n eu galluogi i gyfrifo faint o dreth (os o gwbl) y dylent ei didynnu.

Addasiadau cod treth ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill

Cyfraddau a lwfansau Treth Incwm

Gweld y ffigyrau diweddaraf ar gyfer lwfansau personol gan Gyllid a Thollau EM

Er mwyn ystyried y dreth sy'n ddyledus gennych ar eich Pensiwn Gwladwriaeth neu fudd-dal mae Cyllid a Thollau EM yn addasu eich Lwfans Personol yn eich cod treth yn is yn ôl eu gwerth blynyddol. Gallant hefyd wneud addasiadau eraill er mwyn ystyried lwfansau neu ostyngiadau eraill sy'n berthnasol i chi.

Mae unrhyw beth sydd ar ôl yn weddill o'r incwm di-dreth y mae gennych yr hawl i'w gael yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol.

Yna caiff gweddill eich swm di-dreth ei ddidynnu o'ch pensiwn cwmni/personol neu incwm cyflogaeth a byddwch yn talu treth ar beth bynnag sy'n weddill. Os nad oes unrhyw beth ar ôl ni fyddwch yn talu treth.

Fodd bynnag, os oes swm negyddol mae'n golygu bod treth yn ddyledus ar y swm hwn felly caiff ei ychwanegu at eich incwm trethadwy.

Enghreifftiau ymarferol

I weld enghreifftiau ymarferol o sut caiff cod treth ei addasu er mwyn casglu’r dreth sy’n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth dilynwch y ddolen isod. Mae’r un egwyddor yn gymwys am fudd-daliadau’r wladwriaeth eraill.

Trosolwg o gofnodion pensiwn a budd-daliadau ar eich Hysbysiad Cod PAYE

Efallai y bydd un neu fwy o'r cofnodion pensiwn neu fudd-daliadau canlynol yn ymddangos ar eich Hysbysiad Cod PAYE - a anfonir atoch fel arfer cyn dechrau’r flwyddyn dreth, neu ar adegau eraill os bydd rhywbeth wedi newid:

  • Pensiwn y Wladwriaeth/budd-daliadau gwladol
  • pensiwn arall
  • pensiwn y lluoedd arfog
  • pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus
  • Budd-dal Analluogrwydd Trethadwy
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Trethadwy
  • amcangyfrif o Lwfans Ceisio Gwaith

Bydd pob cofnod yn dangos amcangyfrif o'r swm y byddwch yn ei gael ar gyfer yr eitem honno yn y flwyddyn dreth a bydd yn ymddangos fel ffigur negatif (sy'n lleihau eich swm di-dreth). Os ydych chi’n meddwl bod unrhyw un o’r cofnodion yn anghywir cyfeiriwch at y canllaw ‘Beth i’w wneud os yw’ch cod treth yn anghywir’ – gallwch ddod o hyd iddo o dan ‘Mwy o ddolenni defnyddiol’.

Eich cod treth ym mlwyddyn gyntaf eich Pensiwn Gwladwriaeth

Yn y flwyddyn gyntaf y byddwch yn dechrau cael eich Pensiwn Gwladwriaeth bydd hyn yn dangos ar eich Hysbysiad Cod PAYE fel un o'r ffyrdd hyn:

Os gwnaethoch ddechrau cael Pensiwn Gwladwriaeth yr un pryd ag yr oeddech yn dechrau cael eich Lwfans Personol ar sail oedran

Yn yr achos hwn bydd yn dangos yr unig swm pensiwn y byddwch yn ei gael yn y flwyddyn gyfredol. Caiff y swm ei ddidynnu o'ch lwfansau, ei rannu gan nifer y misoedd sy'n weddill yn y flwyddyn dreth, a byddwch yn talu treth wedi'i rhannu bob mis ar yr hyn sy'n ddyledus gennych.

Os gwnaethoch ddechrau cael y Pensiwn Gwladwriaeth pan oeddech eisoes yn cael y Lwfans Personol ar sail oedran

Os oeddech eisoes yn cael y Lwfans Personol ar sail oedran pan wnaethoch ddechrau cael y Pensiwn Gwladwriaeth (er enghraifft, os gwnaethoch oedi cyn cymryd eich Pensiwn Gwladwriaeth, neu os yw eich pen-blwydd yn hwyr yn y flwyddyn dreth) bydd eich cod newydd yn cynnwys y swm y byddech yn ei gael pe byddai'r pensiwn yn berthnasol i'r flwyddyn lawn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y byddwch yn talu treth ar y pensiwn am y flwyddyn lawn - ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth bydd Cyllid a Thollau EM yn eich trethu mewn ffordd arbennig sy'n sicrhau mai dim ond ar y gyfran yr ydych yn ei chael y byddwch yn talu treth.

Gwiriadau diwedd blwyddyn ar faint o dreth a ddidynnwyd

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth bydd Cyllid a Thollau EM bob amser yn edrych ar gyfanswm y dreth yr ydych wedi'i thalu ac os bydd yn ormod, cewch ad-daliad bob amser. Oni fydd yn ddigon (er enghraifft, os cewch unrhyw Bensiwn Gwladwriaeth cyn y dyddiad y defnyddir eich cod newydd am y tro cyntaf) bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn casglu'r dreth sy'n ddyledus gennych drwy eich cod ar gyfer blwyddyn ddiweddarach. Oni fydd hyn yn bosibl byddant yn cysylltu â chi i drafod dull addas o dalu.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich budd-daliadau'n newid

Os byddwch yn dechrau cael budd-daliadau gwladol neu os byddant yn dod i ben, gallai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â Chyllid a Thollau EM, y gorau po gyntaf y byddant yn gallu addasu'ch cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn talu'r hyn sy'n ddyledus - dim mwy a dim llai.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU