Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw eich cyflogwr yn darparu 'buddion' cwmni neu fân fanteision i chi - megis yswiriant meddygol neu gar cwmni - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt. Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn cynnwys gwerth y budd yn eich cod treth fel y gallant gasglu'r dreth sy'n ddyledus iddynt drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE).
Mae Cyllid a Thollau EM yn ychwanegu gwerth y budd at unrhyw incwm di-dreth sydd gennych, ac yn tynnu cyfanswm yr incwm nad ydych wedi talu treth arno oddi ar gyfanswm eich lwfansau a'ch gostyngiadau. Y cyfanswm sydd gennych ar ôl yw'r incwm di-dreth y mae gennych yr hawl i'w gael yn y flwyddyn dreth gyfredol.
Enghraifft
Mae gennych hawl i gael y Lwfans Personol sylfaenol o £8,105 (y swm ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13) ac mae eich cyflogwr wedi darparu gwerth £600 o yswiriant meddygol preifat i chi:
Felly, mae gennych incwm di-dreth o £7,505 a'ch cod treth yw 750L.
Mae'r un egwyddor yn berthnasol i'r holl fuddion cwmni eraill.
Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn anfon 'Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill' atoch, sy'n egluro sut yn union y maent wedi delio â'r budd yn eich cod treth.
Budd car
Mae'n rhaid i chi dalu treth ar y budd o ddefnyddio car cyflogwr at eich defnydd personol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo gwerth y budd drwy ystyried llawer o bethau, gan gynnwys cost y car, y math o danwydd y mae'n ei ddefnyddio a'i allyriadau carbon deuocsid (CO2).
Budd fan
Mae'n rhaid i chi dalu treth os byddwch yn defnyddio fan eich cyflogwr at ddefnydd personol. Fel arfer codir tâl sylfaenol - sef £3,000 ar hyn o bryd - am hyn. O 6 Ebrill 2010 mae’r tâl sylfaenol wedi’i ostwng i ddim ar gyfer faniau electrig.
Budd tanwydd
Byddwch yn gweld y cod hwn os ydych yn cael tanwydd am ddim sydd ar gael at eich defnydd personol mewn car neu fan cwmni.
Tanwydd ar gyfer ceir: ar gyfer 2012-2013 mae'r 'lluosydd cost tanwydd' y mae Cyllid a Thollau EM yn ei ddefnyddio i gyfrifo gwerth eich budd tanwydd yn £18,000.
Tanwydd ar gyfer faniau: codir tâl unffurf o £550 ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Cyllid a Thollau EM i weld beth yw gwerth eich budd car a'ch budd tanwydd.
Benthyca gan eich cyflogwr
Os bydd eich cyflogwr yn rhoi benthyg mwy na £5,000 i chi mae'n rhaid i chi dalu treth ar y budd o dalu dim llog neu log is na'r gyfradd llog swyddogol. Y swm a dynnir oddi ar eich cyflog di-dreth gan Gyllid a Thollau EM yw'r gwahaniaeth rhwng y llog yr ydych yn ei dalu a'r hyn y byddech yn ei dalu pe codwyd llog ar y gyfradd swyddogol.
Yswiriant meddygol
Mae'n rhaid i chi dalu treth ar unrhyw yswiriant meddygol preifat y mae eich cyflogwr yn ei dalu neu'n ei ddarparu ar eich cyfer - felly bydd Cyllid a Thollau EM yn tynnu gwerth hyn o'ch cyflog di-dreth.
Buddion cyflogwr/cyflogwyr eraill
Byddwch yn gweld hyn pan fydd yn rhaid i chi dalu treth ar werth buddion neu dreuliau a ddarperir gan eich cyflogwr nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y categorïau uchod.
Os byddwch yn dechrau cael buddion cwmni trethadwy - er enghraifft os byddwch yn newid swydd - dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM ar unwaith fel na fyddwch yn cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn. (Does dim rhaid i gyflogwyr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, oni bai ei fod yn gar cwmni.)
Bydd Cyllid a Thollau EM yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu rhywfaint neu'r holl dreth ychwanegol yn gynt - gweler yr adran 'Buddion cwmni newydd a'ch cod treth' isod i gael rhagor o fanylion am sut mae hyn yn gweithio.
Dylech hefyd roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os byddwch yn rhoi'r gorau i gael buddion cwmni trethadwy. Gallant wedyn newid eich cod treth a sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth. Y naill ffordd neu'r llall, os byddant yn newid eich cod treth dylech gael Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill newydd wrthynt.
Buddion cwmni newydd a'ch cod treth
Os byddwch yn cael budd cwmni trethadwy newydd bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich cod treth er mwyn ystyried:
Os mai dim ond am ran o'r flwyddyn y byddwch yn cael y budd, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhannu'r budd gwirioneddol gyda 12 (misoedd) ac yn casglu'r swm sy'n ddyledus o'r dyddiad y bydd y cod yn newid - golyga hyn na fyddwch wedi talu digon o dreth ar ddiwedd y flwyddyn. Byddant yn casglu'r dreth sy'n ddyledus gennych y flwyddyn nesaf ynghyd â'r swm blynyddol sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn honno. Bwriad hyn yw lledaenu eich taliadau fel nad oes yn rhaid i chi dalu'r swm llawn ar unwaith.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs