Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau bydd yn rhaid i'ch cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu'ch pensiwn eich rhoi ar god treth 'brys' neu 'sail arbennig' nes bydd Cyllid a Thollau EM wedi cyfrifo beth ddylai eich cod treth cywir ar gyfer y flwyddyn fod. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan na fyddant yn gwybod digon am eich incwm neu'ch manylion treth ar gyfer y flwyddyn dreth lawn.
Gweld y ffigyrau diweddaraf ar gyfer lwfansau personol gan Gyllid a Thollau EM
Cod y mae eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn yn ei ddefnyddio ar sail arbennig yw cod treth brys nes bydd gan Gyllid a Thollau EM ddigon o wybodaeth am eich incwm i'w galluogi i anfon y cod cywir at eich cyflogwr (ac atoch chi). Fel arfer bydd yn sicrhau eich bod yn cael y Lwfans Personol sylfaenol (ac felly rhywfaint o dâl di-dreth) ond ni fydd yn ystyried unrhyw lwfansau neu ostyngiadau eraill y gallech eu hawlio.
Bydd eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn fel arfer yn parhau i'w ddefnyddio nes bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod y cod treth cywir iddynt.
Pennir y cod treth brys bob blwyddyn sef rhif ac yna'r llythyren L. Y Lwfans Personol sylfaenol yw'r rhif (£8,105 ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13) wedi'i rannu â deg. Y cod brys ar gyfer 2012-13 felly yw 810L.
Gan ddibynnu ar sut y caiff ei gyfrifo, efallai y gwelwch '810L W1' neu '810L M1' hefyd (sy'n golygu 'Wythnos 1' neu 'Mis 1' - lle byddwch yn cael cyfran o'r Lwfans Personol dros weddill y flwyddyn dreth).
810L sy’n digwydd bod y cod treth y byddech yn ei gael os ydych chi’n gymwys i gael y Lwfans Personol sylfaenol yn unig ond yn yr achos hwn nid yw’n cod brys a byddwch yn derbyn y cyfanswm cywir o dâl di-dreth. Gweler yr adran ‘Pryd y gallech gael eich rhoi ar god treth brys’ i’ch helpu chi i benderfynu p’un ai bod y cod brys yn gymwys i chi.
Gallech gael cod treth brys os:
Fel arfer cewch eich rhoi ar dreth cod brys ‘cronnus’ os byddwch wedi dewis Datganiad A ar eich ffurflen P46 - sy'n rhoi gwybod i'ch cyflogwr mai dyma eich swydd gyntaf ers dechrau'r flwyddyn dreth ac nad ydych wedi bod yn cael unrhyw bensiynau trethadwy neu fudd-daliadau gwladol.
Sut y gallai cod treth brys cronnus effeithio ar eich cyflog
Bydd defnyddio'r cod fel hyn yn rhoi Lwfans Personol di-dreth llawn i chi dros weddill y flwyddyn dreth - y rheswm am hyn yw oherwydd gall eich cyflogwr ddwyn unrhyw lwfans di-dreth na ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod cyn i chi ddechrau eich swydd ymlaen. (Gan mai dim ond newydd ddechrau gweithio ydych chi rydym yn cymryd yn ganiataol nad ydych wedi defnyddio dim o'ch Lwfans Personol di-dreth eto).
Dylai eich treth fod yn gywir ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Mae'n bosibl y cewch eich rhoi ar god treth brys ‘wythnos 1’ neu ‘fis 1’ os ydych wedi rhoi Rhan 3 o'ch ffurflen P45 i'ch cyflogwr sy'n dangos cod brys wythnos 1 neu fis 1 a ddefnyddiwyd yn flaenorol neu os gwnaethoch farcio Datganiad B ar eich ffurflen P46 - sy'n rhoi gwybod i'ch cyflogwr eich bod wedi cael swydd arall neu fudd-daliadau gwladol trethadwy yn ystod y flwyddyn - neu os yw eich treth cod wedi'i leihau o swm mawr iawn.
Sut gallai cod brys wythnos 1 neu fis 1 effeithio ar eich cyflog neu'ch pensiwn
Bydd defnyddio'r cod fel hyn yn rhoi gweddill eich Lwfans Personol di-dreth i chi wedi'i ddosbarthu dros weddill y flwyddyn dreth. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cymryd yn ganiataol eich bod eisoes wedi cael rhywfaint o incwm di-dreth yn y cyfnod cyn i chi ddechrau eich swydd neu cyn i'ch cod treth newid.
Mae codau brys wythnos 1 neu fis 1 yn trin pob wythnos neu fis ar ei ben ei hun ac yn rhoi swm cyfartal o dâl di-dreth i chi ar bob diwrnod tâl. Gan na allant ystyried newidiadau i'ch incwm neu dreth a allai fod wedi digwydd yn gynharach yn ystod y flwyddyn efallai na fydd eich treth yn hollol gywir ar ddiwedd y flwyddyn.
Unwaith y bydd gan Gyllid a Thollau EM fanylion am eich incwm blaenorol a'r dreth yr ydych wedi'i thalu dros y flwyddyn dreth, byddant yn anfon cod treth (cywir) llawn at eich cyflogwr (ac atoch chi). Bydd eich cyflogwr yn tynnu'r swm treth cywir yn y dyfodol ac yn ad-dalu unrhyw ordaliad treth. Dyna pam ei bod yn hollbwysig eich bod yn rhoi unrhyw wybodaeth y bydd Cyllid a Thollau EM yn ofyn amdani.
Cael ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth
Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth gan eich bod wedi cael eich trethu ar god brys dylech hawlio ad-daliad drwy gysylltu â' Chyllid a Thollau EM. Bydd angen i chi ddarparu ffurflen P60.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs