Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Personol

Mae gan bron bawb sy'n byw yn y DU hawl i Lwfans Personol ar gyfer Treth Incwm. Dyma'r incwm y gallwch ei gael bob blwyddyn heb orfod talu treth arno. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallech hawlio rhai lwfansau eraill hefyd.

Lefelau'r Lwfans Personol

Cyfraddau a lwfansau Treth Incwm

Gweld lwfansau personol cyfredol ac o flynyddoedd blaenorol gan Gyllid a Thollau EM

Mae maint eich lwfans personol yn dibynnu ar:

  • eich oedran
  • cyfanswm eich incwm yn y flwyddyn dreth

Mae cyfanswm incwm yn cynnwys popeth a gewch o bob ffynhonnell drethadwy. Mae'n rhaid i chi felly gynnwys pethau megis pensiynau a llog ar eich cynilion mewn cymdeithas adeiladu cyn y didynnir y dreth.

Ceir tair lefel o Lwfans Personol

Lwfans Personol

Blwyddyn dreth 2012-2013

Terfyn incwm

Cyfradd sylfaenol

£8,105

£100,000

65 -74 oed

£10,500

£25,400

75 a throsodd

£10,660

£25,400

Os cewch eich pen-blwydd yn 65 neu'n 75 oed yn ystod y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2013, mae gennych hawl i'r lwfans cyfan ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.

Os ydych yn 65 neu drosodd ac y mae eich incwm rhwng £25,400 a £100,00

Os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu’ - darllenwch fwy isod - dros £25,400 (y terfyn incwm am lwfansau ar sail oed) ond nid fwy na £100,000, bydd eich Lwfans Personol ar sail oed yn cael ei lleihau gan hanner y swm - £1 am bob £2 - sydd gennych dros y terfyn £25,400, hyd nes i’r lwfans cyfradd sylfaenol gael ei gyrraedd. Felly os, er enghraifft, eich bod yn 66 ac y mae gennych incwm o £25,900 - £500 dros y terfyn - bydd eich Lwfans Personol ar sail oed yn cael ei lleihau gan £250 i £10,250.

Incwm net wedi’i addasu yw’r cyfanswm yr incwm wedi’i addasu a ddefnyddir er mwyn cyfrifo lwfansau a gostyngiadau penodol i’w didynnu fel colledion masnachu, rhoddion i elusennau drwy Gymorth Rhodd a rhai cyfraniadau pensiwn. Cael gwybod mwy am incwm net wedi’i addasu a sut y mae’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo gostyngiad ar sail incwm i’r Lwfans Personol a gweld enghreifftiau ymarferol drwy ddilyn y ddolen isod.

Os yw’ch incwm dros £100,000

Os yw’ch ‘incwm net wedi’i addasu’ – darllenwch fwy isod - dros £100,000, bydd eich Lwfans Personol yn cael ei lleihau gan hanner y swm - £1 am bob £2 - sydd gennych dros y terfyn hwnnw. Os yw’ch incwm yn ddigon mawr, bydd eich Lwfans Personol yn cael ei lleihau i ddim. Mae’r terfyn £100,000 hwn yn gymwys beth bynnag yw’ch oed.

Incwm net wedi’i addasu yw’r cyfanswm yr incwm wedi’i addasu a ddefnyddir er mwyn cyfrifo lwfansau a gostyngiadau penodol i’w didynnu fel colledion masnachu, rhoddion i elusennau drwy Gymorth Rhodd a rhai cyfraniadau pensiwn. Cael gwybod mwy am incwm net wedi’i addasu a sut y mae’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo gostyngiad ar sail incwm i’r Lwfans Personol a gweld enghreifftiau ymarferol drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut ydych chi'n cael y Lwfans Personol?

Os ydych chi eisoes yn talu treth drwy'ch swydd neu'ch pensiwn, neu os byddwch yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, dylech gael Lwfans Personol yn awtomatig.

Os nad ydych yn cael Lwfans Personol, am ba reswm bynnag, a'ch bod yn credu y dylech fod yn ei gael, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM a byddant yn holi beth y mae gennych hawl iddo.

Er mwyn cael y Lwfans Personol ar sail oed, mae angen i chi lenwi ffurflen P161 Lwfans Personol ar Sail Oed.

Yr effaith ar eich cod treth os mae eich incwm yn uwch na £100,000

Bydd eich cod treth yn cyfrifo’r gostyngiad ar sail incwm i’r Lwfans Personol yn seiliedig ar amcangyfrif o’ch incwm. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo’r swm gwirioneddol o Lwfans Personol y mae gennych hawl iddo pan fyddwch yn anfon eich hunanasesiad i mewn.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi talu gormod o dreth

Os ydych am hawlio ad-daliad treth oherwydd nad ydych wedi defnyddio'ch Lwfans Personol, neu am unrhyw reswm arall, bydd angen i chi wneud hynny o fewn terfynau amser penodol. Mae’r amser sydd gennych i wneud hawliad yn wahanol yn dibynnu os ydych yn cwblhau hunanasesiad treth neu beidio. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i hawlio a faint o amser sydd gennych i wneud hynny.

Pwy na all gael Lwfans Personol?

Allwch chi ddim hawlio'r Lwfans Personol os nad ydych chi'n preswylio yn y DU a'ch bod yn hawlio'r sail 'taliad' arbennig o dreth - hynny yw, pan mai dim ond ar yr incwm y byddwch yn dod ag ef i'r DU y byddwch yn talu treth. Os ydych yn meddwl fod hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Lwfansau eraill y gallech eu cael

Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn methu defnyddio'ch lwfans i gyd, gallwch roi'r rhan heb ei defnyddio i'ch cymar neu'ch partner sifil. Hyd yn oed os nad oes gennych incwm trethadwy, efallai ei bod yn dal yn werth hawlio Lwfans Person Dall gan y gallai'ch cymar neu'ch partner sifil gael budd o'ch lwfans.

Lwfans Pâr Priod - ar gael i bartneriaid sifil

Mae angen i chi fod yn drethdalwr i hawlio'r lwfans hwn, oherwydd caiff ei ddidynnu o'ch bil treth - ond mae'n bosib trosglwyddo'r lwfans i'ch cymar neu'ch partner sifil.

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod:

  • os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • os ydych yn drethdalwr
  • os ydych chi neu'ch cymar neu'ch partner sifil wedi cael eich geni cyn 6 Ebrill 1935

Rhoi i elusen - yr effaith ar eich lwfansau

Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn neu mae’ch incwm dros £100,000 ac yr ydych yn talu treth ac yn rhoi arian i elusen yn y DU neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol drwy Gymorth Rhodd, mae’n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM. Mae’n bosib y bydd eich rhodd yn cael yr effaith o gynyddu'r incwm di-dreth a'r lwfansau treth perthnasol y gallwch eu cael.

Cael gwybod mwy am yr effaith y mae rhoi drwy Gymorth Rhodd yn cael ar eich lwfansau drwy ddilyn y ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU