Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostyngiadau a lwfansau treth - gweithwyr neu gyfarwyddwyr

Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr efallai y gallech gael gostyngiad treth ar dreuliau busnes yr ydych chi wedi eu talu. Mae'r rhain yn cynnwys cost ffioedd neu danysgrifiadau proffesiynol, teithiau busnes a chynhaliaeth, cyfarpar a dillad arbenigol.

Beth sy'n cyfrif fel treuliau 'di-dreth'?

Dim ond ar gyfer treuliau busnes yr ydych chi wedi talu amdanynt y gallwch gael gostyngiad treth, a dim ond os oedden nhw'n talu am:

  • deithio y bu'n rhaid i chi ei wneud fel rhan o'ch gwaith
  • treuliau eraill y bu'n rhaid i chi eu talu wrth wneud eich gwaith - ac a oedd yn berthnasol i wneud eich gwaith yn unig

Ni chewch ofyn am ostyngiad treth os yw'ch cyflogwr eisoes wedi'ch ad-dalu am y gost ac wedi cytuno ar ganiatâd arbennig gyda Chyllid a Thollau EM.

Gostyngiadau a lwfansau allweddol

Mae sawl gostyngiad y gallech ei gael er mwyn lleihau eich bil treth. Os credwch chi y gallech gael unrhyw un o'r rhai a restrir yn y canllaw hwn gallwch gael gwybod mwy amdanynt drwy glicio ar y dolenni.

Milltiroedd busnes neu danwydd

Efallai y gallwch gael gostyngiad treth ar filltiroedd busnes pan fyddwch yn defnyddio'ch cerbyd eich hun ar fusnes, neu ar gyfer tanwydd y byddwch yn ei brynu pan fyddwch yn defnyddio car cwmni. Chewch chi ddim hawlio, fodd bynnag, am eich costau arferol wrth deithio yn ôl ac ymlaen o'r gwaith.

Ffïoedd a thanysgrifiadau proffesiynol

Gallwch ofyn am ostyngiad treth ar gost ffïoedd a thanysgrifiadau y byddwch yn eu talu i rai mudiadau cymeradwy - ond dim ond os oes rhaid i chi eu talu, neu os yw'n ddefnyddiol ar gyfer eich gwaith.

Cyfarpar a dillad arbenigol

Os oes rhaid i chi ddarparu darnau bychan o gyfarpar neu brynu dillad arbenigol ar gyfer eich gwaith - fel iwnifform neu ddillad i'ch gwarchod - efallai y gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer y gost.

Lwfansau cyfalaf

Os byddwch chi'n prynu rhywbeth fel cwpwrdd ffeilio neu ddesg ar gyfer eich gwaith - gelwir hyn yn wariant cyfalaf - efallai y gallech gael lwfansau cyfalaf i'ch helpu gyda'r gost.

Costau'r cartref wrth weithio gartref

Efallai y gallech gael gostyngiad ar gyfer rhai o gostau'r cartref, a rhai costau teithio, os ydych yn gweithio o'ch cartref. Efallai y gallech hefyd gael lwfansau cyfalaf ar gyfer gwariant cyfalaf.

Costau teithio a chynhaliaeth

Efallai y gallech gael gostyngiad ar gyfer costau teithio busnes - er enghraifft, os bydd angen i chi ymweld â chleient neu fynd i weithle dros dro. Gallwch hefyd ofyn am ostyngiad ar gyfer 'cynhaliaeth' - cost prydau a threuliau dros nos.

Rheolau a sefyllfaoedd arbennig

Mae yna rai rheolau neu drefniadau arbennig ar gyfer gostyngiadau a lwfansau treth penodol, er enghraifft:

  • os ydych chi'n gweithio ar long
  • os ydych chi'n gweithio neu'n byw dramor
  • os ydych chi'n dod i weithio yn y DU

Sut mae cael gostyngiad treth

Gallwch ofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau busnes ar eich ffurflen dreth Hunanasesu os oes rhaid i chi lenwi un.

Os nad oes rhaid i chi wneud hynny, gallwch ddefnyddio ffurflen P87 Gostyngiad Treth ar gyfer Treuliau Cyflogaeth er mwyn dweud wrth Gyllid a Thollau EM am y treuliau yr ydych eisiau gofyn am ostyngiad arnynt. Weithiau, mae'n bosib eu ffonio i ddweud hyn. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy ynghylch sut y gallwch gael gostyngiad treth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU