Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer tanwydd neu filltiroedd busnes pan fyddwch yn defnyddio'ch cerbyd eich hun at ddibenion busnes, neu ar gyfer tanwydd a brynwch wrth ddefnyddio car cwmni. Gallwch ôl-ddyddio’ch taliadau am sawl blwyddyn – bydd faint y gallwch ei ôl-ddyddio yn dibynnu ar a ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu ai peidio.
Milltiroedd busnes yw'r milltiroedd y byddwch yn eu teithio fel rhan o’ch swydd. Gall gynnwys teithio i weithle dros dro ond nid yw'n cynnwys:
Efallai y gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer milltiroedd busnes os ydych yn defnyddio'ch cerbyd eich hun ar gyfer eich gwaith. Gall fod yn gar, yn fan, yn feic modur neu'n feic.
Gallwch gyfrifo faint o ostyngiad treth – a elwir yn ‘Ostyngiad Lwfans Milltiroedd’ – y mae gennych hawl iddo fel hyn:
1. adio'r milltiroedd busnes rydych wedi’u teithio yn ystod y flwyddyn dreth
2. lluosi’ch milltiroedd busnes gyda’r gyfradd filltiroedd gymeradwy i gyfrifo’r swm cymeradwy – dilynwch y ddolen isod i weld y cyfraddau milltiroedd cymeradwy diweddaraf
3. adio unrhyw daliadau lwfans milltiroedd rydych wedi’u cael gan eich cyflogwr
4. cymharu unrhyw daliadau lwfans milltiroedd rydych wedi’u cael â’r swm cymeradwy
Os yw'r swm cymeradwy yn uwch, rydych yn gymwys i gael Gostyngiad Lwfans Milltiroedd ar y gwahaniaeth. Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio eich car eich hun i deithio 850 o filltiroedd busnes a bod eich cyflogwr yn talu 30c y filltir i chi. Y swm cymeradwy yw £340 (850 wedi'i luosi gyda 40c). Y lwfans a gewch gan eich cyflogwr yw £255 (850 wedi'i luosi gyda 30c). Eich Gostyngiad Lwfans Milltiroedd yw £85 (£340 tynnu £255).
Rydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad Lwfans Milltiroedd dim ond os yw’ch cyflogwr:
Cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw
Mae angen i chi gadw cofnodion o ddyddiadau, milltiroedd a manylion pob siwrnai a wnewch fel rhan o’ch gwaith. Mae ar eich cyflogwr angen yr wybodaeth hon er mwyn talu costau treuliau i chi. Mae arnoch eu hangen hefyd er mwyn cael unrhyw Ostyngiad Lwfans Milltiroedd.
Os ydych chi'n defnyddio gwahanol gerbydau
Os ydych un defnyddio mwy nag un o’r un math o gerbyd, gallwch adio eich holl filltiroedd busnes at ei gilydd mewn un cyfrifiad. Os ydych yn defnyddio gwahanol fathau o gerbydau, gwnewch gyfrifiadau ar wahân ar gyfer pob un.
Os ydych yn gweithio i wahanol gyflogwyr
Os oes gennych ddau neu fwy o gyflogwyr sy'n annibynnol ar ei gilydd, dylech gael y gyfradd filltiroedd uwch ar gyfer milltiroedd busnes yn y ddwy swydd.
Os ydych chi'n talu am danwydd wrth ddefnyddio cerbyd cwmni at ddibenion busnes, gallwch gael gostyngiad treth ar gostau tanwydd, ac eithrio unrhyw daliadau a ad-dalwyd gan eich cyflogwr ac y cafwyd 'caniatâd arbennig' ar eu cyfer. Rhaid i chi gadw cofnod o'ch milltiroedd busnes er mwyn cyfrifo'ch treuliau.
I gael gwybod sut gallwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer eich milltiroedd busnes neu danwydd, a’r cyfyngiadau amser ar gyfer gwneud hynny, dilynwch y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau – cyflogeion neu gyfarwyddwyr'.