Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Hawlio llog 'gros' ar gynilion.
Yn ôl y gyfraith, mae gofyn i gymdeithasau adeiladu a banciau (a mudiadau eraill sy'n gwarchod adneuon) ddidynnu 20 y cant o Dreth Incwm oddi ar y llog a delir i gynilwyr. Caiff y dreth hon ei rhoi i Gyllid a Thollau EM (HMRC).
Gall rhai cynilwyr hawlio'r dreth a ddidynnwyd o'u llog yn ôl gan Gyllid a Thollau EM, gan nad oes gofyn iddyn nhw dalu treth. Gall cynilwyr eraill hawlio ychydig o'r dreth a ddidynnwyd yn ôl, os bydd y swm a ddidynnwyd oddi ar eu llog yn fwy nag oes gofyn iddyn nhw ei dalu.
Os bydd cynilwyr yn credu y bydd eu hincwm trethadwy yn llai na'r swm y mae disgwyl iddynt ei gael cyn gorfod dechrau talu treth, gallant gofrestru i dderbyn eu llog heb fod treth wedi'i didynnu o hyn allan. Gelwir hyn yn dderbyn llog 'gros'.
Cyn llenwi’r ffurflen berthnasol, mae'n bwysig eich bod yn darllen y deunydd cysylltiedig. Mae'r dolenni 'Taxback Cyllid a Thollau EM' a 'Cwestiynau cyffredin am hawlio' isod yn darparu gwybodaeth bwysig.
Pan fyddwch yn barod i gwblhau'r ffurflen R85, cliciwch ar y ddolen 'Cofrestru i dderbyn llog heb fod treth wedi'i didynnu (ffurflen R85)' isod.
Mae'r ffurflen R85 ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn fformat PDF. Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen.
Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes