Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Fel gweithiwr efallai y gallech leihau eich bil treth drwy gael gostyngiad treth ar unrhyw ffïoedd a thanysgrifiadau proffesiynol yr ydych yn eu talu. Gallwch fynd nifer o flynyddoedd yn ôl er mwyn cael y gostyngiad - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.
Mae'n bosib y bydd angen i chi gael eich enw wedi'i gynnwys ar gofrestr proffesiynol neu gael trwydded arbennig er mwyn gwneud eich gwaith. Neu mae'n bosib y gallai fod yn ddefnyddiol dros ben i berthyn i fudiad pan fydd eu gweithgareddau yn anghenrheidiol i'ch gwaith.
Beth bynnag fo'r rheswm byddwch yn talu ffïoedd cofrestru neu danysgrifiadau aelodaeth - bob blwyddyn fel arfer. Efallai y gallech ddidynnu cost y rhain o'ch incwm trethadwy a thalu llai o dreth.
Gallwch gael gostyngiad treth ar ffïoedd proffesiynol a thanysgrifiadau:
Pan nad oes gennych hawl i gael gostyngiad treth
Allwch chi ddim cael gostyngiad treth ar unrhyw ffïoedd na thanysgrifiadau yr ydych yn eu talu i fudiad nad yw Cyllid a Thollau EM wedi ei gymeradwyo.
Ni fyddwch yn gymwys i gael gostyngiad treth:
Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn cymeradwyo mudiad ac yn ei ychwanegu at restr Cyllid a Thollau EM, byddant yn gofyn i'r mudiad roi gwybod i'w aelodau ei bod yn bosib y gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad treth ar eu ffïoedd neu eu tanysgrifiadau. Gall eich sefydliad dweud wrthych faint y cewch ei ddidynnu.
I gael gwybod sut y gallwch gael gostyngiad treth am eich ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol a faint o amser sydd gennych i’w gael, darllenwch y canllaw isod.