Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallech leihau'ch bil treth drwy ddidynnu lwfansau cyfalaf ar gyfarpar neu asedau y mae'n rhaid i chi eu darparu er mwyn gwneud eich gwaith - cwpwrdd ffeilio, er enghraifft. Dim ond am eitem y gallwch ei defnyddio wrth wneud eich swydd, ond nad yw'ch cyflogwr yn ei ddarparu, y gallwch gael lwfans.
Rydych chi'n didynnu lwfansau cyfalaf o'ch incwm trethadwy - felly rydych chi'n talu llai o dreth. Mae'r lwfansau'n cael eu cynnig am eitemau y mae'n rhaid i chi eu darparu er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith. Mae'n rhaid iddynt gydnabod bod asedau neu gyfarpar yn colli eu gwerth o ganlyniad i draul cyffredinol - neu ddibrisio.
A siarad yn gyffredinol, gall unrhyw beth y mae'n rhaid i chi ei ddefnyddio wrth eich gwaith sy'n debygol o bara am o leiaf ddwy flynedd gael ei gynnwys mewn lwfansau cyfalaf.
Mae yna rai eithriadau - nid yw ceir, faniau, beiciau modur na beiciau yn cyfrif.
Gallwch gael gostyngiad am nifer o flynyddoedd a aeth heibio - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.
Cyfrifo lwfansau cyfalaf
Mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallech hawlio lwfansau cyfalaf:
Lwfansau blwyddyn gyntaf 100 y cant – ar gyfer buddsoddiadau mewn technolegau gwyrdd
Lwfans Buddsoddi Blynyddol – gallwch hawlio ar unrhyw gyfarpar a brynwyd (ond nid cerbydau moduro) ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 i fyny at gyfanswm blynyddol o £100,000. Os yw swm llawn y gwariant yn £100,000 neu’n llai, gallwch hawlio 100 y cant o’r swm hynny fel Lwfans Buddsoddi Blynyddol.
Lwfansau lleihau gwerth asedau (Writing down allowances) - byddwch yn hawlio'r rhain ar gost asedau a brynwyd gennych yn ystod y flwyddyn ac nad ydych wedi hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf arnynt. Ychwanegwch hyn at y gwerth a gariwyd ymlaen gennych o'r flwyddyn flaenorol, sef gwerth yr asedau yr ydych wedi hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf arnynt. Gelwir y cyfanswm hwn yn 'gronfa' - gallwch hawlio 25 y cant o'r swm hwn bob blwyddyn dreth. Tynnir y 25 y cant hwnnw oddi ar werth y gronfa - ond gallwch ychwanegu gwerth unrhyw asedau newydd y byddwch yn eu prynu.
Lwfans cronfa fach - gallwch ddiddymu’r gweddill i gyd mewn cronfa ble nad yw gwerth y gronfa yn fwy na £1,000.
Gallwch ddefnyddio un ai'r lwfansau blwyddyn gyntaf neu'r lwfansau lleihau gwerth asedau - neu'r ddau.
Beth os yw cost yr ased yn isel?
Yn hytrach na gofyn am lwfansau cyfalaf ar gost ased a brynir gennych, efallai y gallech gael gostyngiad treth ar y gost gyfan. Bydd hyn yn berthnasol:
Gallai hyn fod yn berthnasol ar gyfer pethau fel darnau bach o offer a dillad gwarchod neu ddillad arbenigol.
I gael gwybod sut gallwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer lwfansau cyfalaf, cliciwch ar y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr'.
Os nad ydych chi wedi cwblhau ffurflen dreth mae gennych bum mlynedd o 31 Hydref sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw er mwyn gofyn am ostyngiad treth. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau ffurflen, mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw.