Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y gallech gael gostyngiad treth os byddwch chi - ac nid eich cyflogwr - yn gwario ar unrhyw gyfarpar neu ddillad arbenigol y mae arnoch eu hangen er mwyn gallu gwneud eich gwaith. Gallwch gael gostyngiad am nifer o flynyddoedd a aeth heibio - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.
Fel rheol, all gweithiwr ddim cael gostyngiad treth ar gyfer y dillad y maent yn ei wisgo ar gyfer gwaith - ond mae yna rai eithriadau. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn sector fel y diwydiant adeiladu neu'r diwydiant gwaith metel bydd rhaid i chi wisgo dillad gwarchod, fel:
Os oes rhaid i chi dalu am gost atgyweirio, glanhau neu adnewyddu'r math hwn o ddillad arbenigol eich hun ac nad yw'ch cyflogwr yn eich ad-dalu, yna mae gennych hawl i gael gostyngiad treth. Fodd bynnag, ni allwch hawlio am y gost gychwynnol o brynu’r dillad hyn.
Rydych hefyd yn gymwys i gael gostyngiad treth os oes rhaid i chi - o'ch poced eich hun - brynu cyfarpar sydd ei angen arnoch er mwyn gallu gwneud eich gwaith. Er enghraifft, os ydych chi'n trin gwallt efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi ddarparu'ch siswrn eich hun.
Mae'r gostyngiad treth hefyd yn berthnasol i gost cynnal a chadw ac adnewyddu'r cyfarpar.
Beth am iwnifform?
Gallwch gael gostyngiad treth ar gost atgyweirio, glanhau neu adnewyddu iwnifform:
Mae'r gostyngiad treth hefyd yn cynnwys cost glanhau, atgyweirio neu adnewyddu'r iwnifform. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gostyngiad treth ar gyfer cost glanhau iwnifform y mae'ch cyflogwr yn ei darparu, os oes rhaid i chi dalu am hyn eich hun.
Os oes rhaid i chi wario arian ar gyfarpar neu ddillad arbenigol ar gyfer eich gwaith gallech fod yn gymwys i gael naill ai:
Symiau y mae Cyllid a Thollau EM wedi cytuno arnynt yn genedlaethol - neu'n lleol weithiau os yw'r amodau'n wahanol iawn - gydag undebau llafur, neu gyrff eraill, yw didyniadau cyfradd sefydlog.
Mae'r didyniadau'n talu am faint gaiff ei wario fel arfer bob blwyddyn gan weithwyr mewn gwahanol ddiwydiannau. Er enghraifft, gall rhywun sy'n gweithio yn y diwydiant dillad gael didyniad o £60 y flwyddyn. Gall gwneuthurwr cypyrddau gael didyniad o £140 tra bo'r didyniad ar gyfer saer maen yn £120.
Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o undeb llafur er mwyn cael y didyniad. Mantais arall yw y bydd llai o waith papur - fydd dim rhaid i chi gadw cofnod o'r holl symiau unigol a gânt eu gwario gennych. Dilynwch y ddolen isod i weld tabl o ddidyniadau treuliau cyfradd sefydlog y cytunwyd arnynt.
Enghraifft: I gyfrifo gwerth y didyniad, bydd angen i chi wybod cyfradd y dreth yr ydych yn ei thalu. Byddwch yn cael gostyngiad treth ar dreuliau cyfradd unffurf ar y gyfradd uwch o’ch treth yr ydych yn ei thalu – mae hyn yn golygu os ydych yn talu cyfradd is (20 y cant), cyfradd uwch (40 y cant) neu gyfradd ychwanegol (50 y cant).
Os ydych chi’n saer dodrefn ac yn talu treth cyfradd sylfaenol, gallwch ddisgwyl yr ostyngiad canlynol yn eich bil treth:
£28 (£140 x 20%)
Os na restrir eich diwydiant ar y tabl, mae'n dal yn bosib i chi hawlio swm safonol o £60 am gostau golchi’r iwnifformau neu’r dillad gwarchod.
I gael gwybod sut y gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer cyfarpar neu ddillad arbenigol a’r terfynau amser ar gyfer ei gael, darllenwch y canllaw 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr' - dilynwch y ddolen isod.
Cyn i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM bydd angen i chi gael yr holl wybodaeth ganlynol wrth law: