Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gostyngiad treth ar gyfer costau'r cartref wrth weithio gartref

Os cewch eich cyflogi'n benodol i weithio o'ch cartref neu yn eich cartref, ac nad oes gennych ddewis arall ond gwneud hynny, efallai y gallech gael gostyngiad treth ar rai o gostau'ch cartref. Gallwch fynd nifer o flynyddoedd yn ôl er mwyn cael y gostyngiad - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.

Pryd y gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer costau'r cartref

Os oes rhaid i chi weithio gartref gallwch gael gostyngiad treth ar y costau ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu talu. Fel arfer mae'r costau ychwanegol hyn yn cynnwys:

  • cost ychwanegol nwy a thrydan er mwyn gwresogi a goleuo eich gweithle
  • galwadau ffôn busnes

Fyddwch chi ddim yn gallu cael gostyngiad ar gostau'r cartref yr ydych yn eu talu beth bynnag - fel eich morgais neu dreth gyngor. Fyddwch chi ddim yn gallu cael gostyngiad ar gyfer costau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y busnes ac i ddibenion preifat chwaith - pethau fel rhentu llinell ffôn, neu ddefnydd o'r Rhyngrwyd.

Faint o ostyngiad allwch chi ei gael

O 2012-2013 ymlaen, ar gyfer taliadau i fyny at £4.00 yr wythnos, neu £18 y mis ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu talu’n fisol, nid oes angen i chi ddarparu unrhyw gofnodion o’r treuliau cartref yr ydych yn hawlio amdanynt. Ar gyfer symiau yn uwch na £4.00 bydd angen tystiolaeth i ddangos nad yw’r swm yr ydych yn hawlio amdano yn fwy na’r treuliau cartref ychwanegol yr ydych wedi achosi mewn gwirionedd.

Y gyfradd canllaw ar gyfer 2008-09 i 2011-12 oedd £3.00 yr wythnos ac £2.00 yr wythnos ar gyfer 2007-08 a blynyddoedd cynt.

Beth os byddwch chi'n gwirfoddoli i weithio gartref?

Efallai y byddwch yn cynnig gweithio gartref o wirfodd o dan 'drefniant gweithio o gartref'. Cytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr y byddwch yn gweithio gartref yn rheolaidd yw trefniant gweithio o gartref.

Nid oes rhaid i chi weithio gartref bob dydd ond rhaid cael patrwm rheolaidd - er enghraifft, dau ddiwrnod gartref a thri diwrnod yng ngweithle'ch cyflogwr bob wythnos. Rhaid i'r gwaith a wnewch gartref fod yn waith y mae'n ofynnol i chi ei wneud fel rhan o'ch cyflogaeth.

Os oes gennych chi drefniant felly, gall eich cyflogwr gyfrannu tuag at eich costau wrth weithio gartref - £4.00 yr wythnos (o 2012-13) neu fwy os gallwch ddangos y bu rhaid i chi wario mwy na hynny. Ni fydd rhaid i chi dalu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y swm.

Fodd bynnag, os nad yw'ch cyflogwr yn cyfrannu, allwch chi ddim cael gostyngiad treth ar gyfer eich costau wrth weithio gartref.

Sut mae cael gostyngiad treth ar gyfer costau’r cartref

I gael gwybod sut i gael gostyngiad treth ar gyfer eich costau cartref os oes rhaid i chi weithio yn eich cartref neu weithio o gartref, a’r terfynau amser er mwyn ei gael, darllenwch y canllaw ‘Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr’ isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU