Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth Incwm wrth gyrraedd y DU

Pan fyddwch yn dod i fyw neu i weithio yn y DU, bydd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu yn y DU yn dibynnu ar faint y byddwch yn aros yma ac a ydych yn bwriadu aros yma'n barhaol ai peidio. Mae rheolau arbennig ar gyfer diddanwyr, myfyrwyr, athrawon a mabolgampwyr.

A fydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm yn y DU?

Bydd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu yn y DU yn dibynnu ar ba un a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yn y DU. Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain - neu yr un ohonynt.

Preswylio

  • os ydych yn y DU am 183 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn dreth, rydych yn 'breswylydd' am y flwyddyn honno at ddibenion treth
  • os byddwch yn dod i fyw yn y DU yn barhaol neu i aros am dair blynedd neu fwy, rydych yn breswylydd o ddyddiad cyrraedd y wlad
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd hefyd os ydych yn y DU am 91 diwrnod neu fwy ar gyfartaledd mewn blwyddyn dreth - a gyfrifir dros uchafswm o bedair blwyddyn dreth olynol

Preswylio'n arferol

  • os ydych yn preswylio yn y DU flwyddyn ar ôl blwyddyn byddwch fel arfer yn cael eich trin fel person sy'n preswylio'n arferol
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd arferol yn y DU o'r dyddiad pan gyrhaeddwch y wlad os yw'n glir eich bod yn bwriadu aros am o leiaf dair blynedd

Domisil

  • pennir eich domisil fel arfer adeg eich geni, ond cysyniad cyfreithiol cyffredinol yw hwn sy'n cwmpasu amrywiaeth o ffactorau

Ar beth y byddwch yn talu Treth Incwm

Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol

Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich holl incwm o'r canlynol:

  • gwaith a wnewch yn y DU
  • pensiynau'r DU
  • buddsoddiadau yn y DU

Os ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch hefyd yn talu treth ar eich holl incwm tramor - ond efallai y cewch ostyngiad o ddeg y cant o'r swm sy'n ddyledus ar bensiynau tramor.

Os nad ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar yr incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar:

  • eich holl enillion os ydych yn gweithio dramor i gyflogwr o'r DU
  • eich holl enillion os ydych yn gwneud rhywfaint o waith yn y DU i gyflogwr o dramor
  • 90 y cant o'ch pensiwn o Weriniaeth Iwerddon - onid yw'n bensiwn llywodraeth Iwerddon a chithau'n ddinesydd y DU

Darllenwch hefyd yr adran ddiweddarach 'Os ydych chi eisoes yn talu treth ar eich incwm tramor'. Mae lwfansau treth arbennig ar gyfer:

  • morwyr sy'n treulio cyfnodau hir y tu allan i'r DU
  • pobl sy'n cael pensiynau tramor

Os ydych chi'n preswylio ond ddim yn preswylio'n arferol

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth ar eich holl incwm o'r DU. Gallwch fel arfer dalu treth ond ar incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar eich holl incwm o fuddsoddiadau yng Ngweriniaeth Iwerddon - onid yw'n bensiwn llywodraeth Iwerddon

Byddwch yn talu treth ar enillion o weithio dramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU.

A oes angen i chi lenwi ffurflen dreth?

Os yw'r incwm yr ydych yn talu treth arno yn fwy na'ch lwfansau, efallai y gallwch dalu treth drwy'r drefn Talu Wrth Ennill (PAYE) os ydych yn gyflogedig. Os nad ydych yn gyflogedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth.

Dod i'r DU ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn

Pan fyddwch yn dod i'r DU ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar incwm y byddwch yn ei gael ar ôl cyrraedd os:

  • byddwch yn dod i'r DU i aros am o leiaf dwy flynedd neu i aros yn barhaol
  • nad oeddech yn preswylio'n arferol yn y DU cyn i chi gyrraedd

Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm am y flwyddyn gyfan. Y naill ffordd neu'r llall, byddwch bob amser yn cael eich Lwfans Personol am y flwyddyn lawn.

Os ydych chi eisoes yn talu treth ar eich incwm tramor

Mae gan y DU 'gytundebau trethiant dwbl' gyda sawl gwlad i sicrhau nad ydych yn talu treth ddwywaith ar yr un incwm.
Hyd yn oed os nad oes cytundeb, gallwch fel arfer barhau i hawlio gostyngiad am unrhyw dreth yr ydych wedi'i thalu dramor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU