Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar incwm tramor

Os ydych yn byw'n barhaol yn y DU, byddwch yn talu treth ar incwm tramor. Os ydych yn byw yma dros dro, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar yr incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Os oes 'cytundeb trethiant dwbl' rhwng y DU a'r wlad y mae'r incwm yn deillio ohoni, ni fydd yn rhaid ichi dalu treth ddwywaith.

Beth yw incwm tramor?

Incwm tramor yw eich holl incwm o du allan i'r DU. Nid yw'r DU yn cynnwys Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw na Gweriniaeth Iwerddon.

Gall incwm tramor gynnwys:

  • pensiynau
  • incwm o fuddsoddiadau tramor
  • incwm rhent
  • enillion o weithio dramor

Effaith preswylio, preswylio'n arferol a domisil

Bydd faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar incwm tramor yn dibynnu ar ba un a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yma.

Preswylio

  • os ydych yn y DU am 183 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn dreth, rydych yn 'breswylydd' am y flwyddyn honno at ddibenion treth
  • os dowch i fyw yn y DU yn barhaol neu i aros am dair blynedd neu fwy, rydych yn breswylydd o ddyddiad cyrraedd y wlad
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd hefyd os ydych yn y DU am 91 diwrnod neu fwy ar gyfartaledd mewn blwyddyn dreth (a gyfrifir dros uchafswm o bedair blwyddyn dreth olynol)

Preswylio'n arferol

  • os ydych yn preswylio yn y DU flwyddyn ar ôl blwyddyn byddwch fel arfer yn cael eich trin fel person sy'n 'preswylio'n arferol'
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd arferol yn y DU o'r dyddiad pan gyrhaeddwch y wlad os yw'n glir eich bod yn bwriadu aros am o leiaf dair blynedd

Domisil

  • pennir eich domisil fel arfer adeg eich geni, ond cysyniad cyfreithiol cyffredinol yw hwn sy'n cwmpasu amrywiaeth o ffactorau

Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain yn y DU - neu yr un ohonynt.

Os ydych chi'n preswylio, yn preswylio'n arferol ac â'ch domisil yn y DU

Incwm eiddo a buddsoddiadau tramor

Byddwch yn talu treth y DU ar y swm llawn.

Incwm o bensiynau tramor

Byddwch fel arfer yn talu treth ar 90 y cant o'r pensiwn.

Incwm o gyflogaeth dramor

Byddwch yn talu treth ar y swm llawn - onid ydych yn forwr ac yn treulio cyfnodau hir dramor.

Os ydych chi'n preswylio ac â'ch domisil yn y DU ond heb fod yn preswylio'n arferol

Incwm eiddo a buddsoddiadau tramor

Gallwch wneud cais i dalu treth dim ond ar incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU - ar wahân i incwm o Weriniaeth Iwerddon, y mae'n rhaid talu treth yn llawn arno.

Incwm o bensiynau tramor

Gallwch wneud cais dim ond i dalu treth ar incwm pensiynau tramor y dowch gyda chi i'r DU (a elwir y 'sail taliad'). Ond nid yw hyn yn berthnasol i bensiwn o Weriniaeth Iwerddon.

Oni wnewch hawliad i gael eich trethu ar y sail taliad, mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu treth ar bob pensiwn tramor pa un a gawsant eu derbyn yn y DU neu beidio. Mae'r tâl ar 90 y cant o wir swm y pensiwn.

Incwm o gyflogaeth dramor

Byddwch yn talu treth ar enillion o weithio dramor os dowch â'r enillion i'r DU.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr tramor ac yn gwneud eich holl waith yn y DU, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion.

Os ydych yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion trwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.

Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol ond heb fod â'ch domisil yn y DU

Incwm eiddo a buddsoddiadau tramor

Gallwch wneud cais i dalu treth dim ond ar incwm tramor y dowch gyda chi i'r DU - ar wahân i incwm o Weriniaeth Iwerddon, y mae'n rhaid talu treth yn llawn arno.

Incwm o bensiynau tramor

Bydd angen ichi dalu treth ar unrhyw incwm o bensiynau tramor a dderbynnir yn y DU. Fodd bynnag, os daw'r pensiwn o Wladwriaeth Iwerddon, byddwch yn talu treth ar 90 y cant o'r swm pa un a ydych yn dod ag ef i'r wlad neu beidio. (Mae rheolau arbennig ar gyfer pensiynau Llywodraeth Iwerddon.)

Incwm o gyflogaeth dramor

Os yw eich cyflogwr yn dod o Brydain neu Weriniaeth Iwerddon, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion.

Os nad yw eich cyflogwr yn dod o Brydain neu Weriniaeth Iwerddon, a chithau ond yn gweithio dramor, byddwch ond yn talu treth ar unrhyw enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Os ydych yn gwneud unrhyw waith yn y DU, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion.

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol nac â'ch domisil yn y DU

Incwm eiddo a buddsoddiadau tramor

Gallwch wneud cais i dalu treth dim ond ar incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU - ar wahân i incwm o Weriniaeth Iwerddon, y mae'n rhaid talu treth yn llawn arno.

Incwm o bensiynau tramor

Bydd angen ichi dalu treth ar unrhyw incwm o bensiynau tramor a dderbynnir yn y DU. Fodd bynnag, os daw'r pensiwn o Wladwriaeth Iwerddon, byddwch yn talu treth ar 90 y cant o'r swm pa un a ydych yn dod ag ef i'r wlad neu beidio. (Mae rheolau arbennig ar gyfer pensiynau Llywodraeth Iwerddon.)

Incwm o gyflogaeth dramor

Byddwch yn talu treth ar enillion o weithio dramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr tramor ac yn gwneud eich holl waith yn y DU, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion.

Os ydych yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion trwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.

Os nad ydych yn preswylio

Incwm eiddo a buddsoddiadau tramor

Ni fyddwch yn talu treth yn y DU.

Incwm o bensiynau tramor

Ni fyddwch yn talu treth yn y DU.

Incwm o gyflogaeth dramor

Byddwch yn talu treth dim ond ar eich enillion am waith a wneir yn y DU.

Os ydych yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion trwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.

Dod i'r DU neu adael y DU ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn dreth

Os dowch i'r DU neu adael ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, efallai y byddwch yn dod yn breswylydd neu beidio â bod yn breswylydd yn y DU. Os digwydd hyn, fe'ch trethir fel arfer ar eich incwm o dramor am y rhan o'r flwyddyn yr oeddech yn preswylio yn y DU.

Gostyngiad trethiant dwbl

Mae gan y DU gytundebau trethiant dwbl gyda sawl gwlad. Nod y rhain yw sicrhau nad yw'r un incwm yn cael ei drethu ddwywaith.

Datgan eich incwm tramor

Rydych yn datgan eich incwm tramor ar dudalennau tramor y ffurflen dreth Hunanasesiad, ar wahân i incwm o weithio dramor yr ydych yn ei ddatgan ar y tudalennau cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU