Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth wrth adael y DU

Os ewch i fyw neu i weithio dramor a rhoi'r gorau i breswylio yn y DU, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth yn y DU o hyd - ond dim ond ar eich incwm o'r DU. Os bydd rhaid ichi dalu, efallai y bydd angen ichi lenwi ffurflen Hunanasesu treth.

Pryd na fyddwch chi'n breswylydd at ddibenion treth y DU?

Byddwch yn cael eich trin fel person di-breswyl o'r diwrnod ar ôl ichi adael y DU os gallwch ddangos:

  • eich bod wedi gadael y DU i fynd dramor yn barhaol neu os yw eich absenoldeb a'ch gwaith llawn amser dramor yn para am y flwyddyn dreth gyfan o leiaf
  • bod eich ymweliadau â'r DU yn llai na 183 diwrnod mewn blwyddyn dreth, a'u bod ar gyfartaledd yn llai na 91 diwrnod mewn blwyddyn dreth dros gyfnod o bedair blwyddyn dreth olynol ar y mwyaf

Mae'r un peth yn berthnasol i'ch partner priod, partner sifil neu bartner.

Cysylltu â'ch Swyddfa Dreth pan fyddwch yn gadael y DU

Os ydych yn gadael y DU rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM. Bydd eich Swyddfa Dreth yn rhoi ffurflen P85 ichi er mwyn cael unrhyw ad-daliad treth sy'n ddyledus ichi a phennu a fyddwch yn dod yn ddi-breswyl. Os bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth ar ôl ichi adael, fe roddant wybod ichi.

Incwm o gyflogaeth dramor

Os dowch yn ddi-breswyl, fyddwch chi ddim yn talu treth y DU ar eich incwm o weithio dramor.

Gweithio'n rhannol yn y DU

Os ydych yn ddi-breswyl ond yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth y DU ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion trwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.

Rheolau arbennig ar gyfer rhai gweithwyr

Mae yna reolau arbennig ar gyfer:

  • gweithwyr y Goron
  • morwyr
  • gweithwyr olew a nwy
  • diddanwyr a mabolgampwyr
  • myfyrwyr

Holwch eich Swyddfa Dreth os ydy un o'r uchod yn berthnasol i chi.

Treth ar bensiynau yn y DU

Os ydych yn ddi-breswyl, byddwch yn talu treth y DU ar eich pensiynau yn y DU (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth). Efallai na fydd yn rhaid ichi dalu treth y DU os oes gan y wlad lle rydych yn byw gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU.

Treth ar bensiynau awdurdod lleol a gwasanaeth llywodraeth y DU

Ble bynnag yr ydych yn byw, byddwch fel arfer yn talu treth y DU ar bensiwn llywodraeth leol neu wasanaeth llywodraeth. Ond os ydych yn byw yn Awstralia, Canada, Seland Newydd neu ar ynys Cyprus, byddwch yn talu treth arno yn y mannau hynny.

Treth ar log cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu'r DU

Os ydych yn ddi-breswyl, yr unig dreth yn y DU y byddwch yn ei thalu fel arfer yw'r dreth a ddidynnir cyn i chi gael y llog.

Os ydych chi hefyd 'heb fod yn preswylio'n arferol' (yr ydych yn byw fel arfer y tu allan i'r DU), gallwch dderbyn eich llog heb y didyniad treth trwy roi ffurflen R105 i'ch banc neu gymdeithas adeiladu.

Yn y naill achos neu'r llall, os oes treth wedi'i didynnu o'r llog, efallai y gallwch hawlio ad-daliad yn erbyn lwfansau treth y DU gan ddefnyddio ffurflen R43.

Treth ar incwm buddsoddi yn y DU (ac eithrio incwm rhent)

Os ydych yn ddi-breswyl, mae treth y DU yn dal yn ddyledus ar eich incwm arall o fuddsoddiadau yn y DU. Fodd bynnag, os oes gan y wlad lle rydych yn byw gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y gallwch gael gostyngiad neu eithriad. (Ond allwch chi byth hawlio'n ôl na gostwng y credyd treth 10 y cant ar ddifidendau o gwmnïau yn y DU.)

Treth ar incwm rhent yn y DU

Mae treth y DU yn ddyledus ar eich incwm o eiddo rhent.

Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael rhent o eiddo yn y DU a hwnnw'n cael ei dalu'n uniongyrchol i chi, rhaid i'ch tenant ddidynnu treth y DU ar y gyfradd sylfaenol (22 y cant ar hyn o bryd). Os ydych yn defnyddio asiant gosod, byddant yn didynnu'r dreth o'r 'rhent net' (ar ôl unrhyw dreuliau sy'n cael eu caniatáu y maent wedi'u talu).

Gallwch wneud cais i'r rhent gael ei dalu ichi heb ddidynnu treth os teimlwch na fydd yn rhaid ichi dalu unrhyw dreth y DU, neu os yw eich materion treth yn gyfredol. Ond bydd angen ichi ddatgan y rhent o hyd ar ffurflen dreth Hunanasesiad os caiff ei hanfon atoch gan Gyllid a Thollau EM.

Os oes gan y wlad lle rydych yn byw gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y gallwch gael gostyngiad yno am dreth a dalwyd yn y DU.

Treth y DU ar incwm tramor

Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael incwm tramor, does dim treth yn ddyledus yn y DU. Ond os caiff ei dalu neu ei gasglu gan asiant yn y DU (megis banc), maent fel arfer yn didynnu treth yn y ffynhonnell. Bydd angen ichi lenwi ffurflen PA1 neu CA1 - ar gael gan eich asiant - i stopio hyn.

Os cewch eich trethu fel arfer ar incwm a ddygir i mewn i'r DU (sail taliad)

Yn y flwyddyn dreth pan fyddwch yn gadael y DU, byddwch yn talu treth yn y DU ar y lleiaf o:

  • yr hyn a ddygwyd i'r DU gennych cyn ichi adael
  • yr un gyfran o incwm y flwyddyn gyfan (a dderbyniwyd yn y DU) â chyfran y flwyddyn yr oeddech yn y DU

Lwfansau personol di-dreth ar gyfer y rhai nad ydynt yn preswylio yn y DU

Os ydych yn un o ddinasyddion y Gymanwlad (gan gynnwys Prydeinig) neu Ardal Economaidd Ewrop, neu yn un o weithwyr presennol y Goron neu gyn weithiwr i'r Goron, byddwch yn dal i gael eich lwfansau personol di-dreth i leihau faint sy'n ddyledus yn y DU. Mae hyn yn berthnasol i aelodau o rai grwpiau arbennig eraill hefyd.

Treth Enillion Cyfalaf (TEC) yn y DU

Ni fyddwch yn talu TEC ar enillion y gallai'r dreth fod yn daladwy arnynt y byddwch yn eu gwneud mewn blwyddyn dreth pan nad ydych yn preswylio nac yn preswylio'n arferol.

Efallai y bydd TEC yn ddyledus ar enillion y gallai'r dreth fod yn daladwy arnynt ac a wnaethpwyd hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth ar ôl ichi adael, onid oeddech heb fod yn preswylio nac yn preswylio'n arferol am o leiaf pedair o'r saith mlynedd yn union cyn y flwyddyn dreth pan adawsoch y wlad.

Gostyngiad trethiant dwbl

Efallai y bydd y wlad yr ydych yn symud iddi am eich trethu ar eich incwm byd - hyd yn oed os oes treth yn ddyledus yn y DU. Os oes gan y wlad gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, fel arfer ni fydd yn rhaid ichi dalu'r un dreth ddwywaith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU