Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Treth wrth ddod i'r DU

Pan fyddwch yn dod i fyw neu i weithio yn y DU, bydd y dreth y byddwch yn ei thalu yn y DU yn dibynnu ar faint y byddwch yn aros yma ac a ydych yn bwriadu aros yma'n barhaol. Mae rheolau arbennig ar gyfer diddanwyr, myfyrwyr, athrawon, mabolgampwyr, dinasyddion Iwerddon ac incwm o Iwerddon.

A fydd yn rhaid ichi dalu treth yn y DU?

Bydd y dreth y byddwch yn ei thalu'n dibynnu ar ba un a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yn y DU. Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain - neu yr un ohonynt.

Preswylio

  • os ydych yn y DU am 183 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn dreth, rydych yn 'breswylydd' am y flwyddyn honno at ddibenion treth
  • os dowch i fyw yn y DU yn barhaol neu i aros am dair blynedd neu fwy, rydych yn breswylydd o ddyddiad cyrraedd y wlad
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd hefyd os ydych yn y DU am 91 diwrnod neu fwy ar gyfartaledd mewn blwyddyn dreth (a gyfrifir dros uchafswm o bedair blwyddyn dreth olynol)

Preswylio'n arferol

  • os ydych yn preswylio yn y DU flwyddyn ar ôl blwyddyn byddwch fel arfer yn cael eich trin fel person sy'n 'preswylio'n arferol'
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd arferol yn y DU o'r dyddiad pan gyrhaeddwch y wlad os yw'n glir eich bod yn bwriadu aros am o leiaf dair blynedd

Domisil

  • pennir eich domisil fel arfer adeg eich geni, ond cysyniad cyfreithiol cyffredinol yw hwn sy'n cwmpasu amrywiaeth o ffactorau

Treth Incwm

Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol

Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich holl incwm o:

  • gwaith a wnewch yn y DU
  • pensiynau'r DU
  • buddsoddiadau yn y DU

Os ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch hefyd yn talu treth ar eich holl incwm tramor - ond efallai y cewch ostyngiad o 10 y cant o'r swm sy'n ddyledus ar bensiynau tramor.

Os nad ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar yr incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar:

  • eich holl enillion os ydych yn gweithio dramor i gyflogwr o'r DU
  • eich holl enillion os ydych yn gwneud rhywfaint o waith yn y DU i gyflogwr o dramor
  • eich holl incwm o fuddsoddiadau yng Ngweriniaeth Iwerddon (GI)

90 y cant o'ch pensiwn o Weriniaeth Iwerddon (onid yw'n bensiwn llywodraeth Iwerddon a chithau'n ddinesydd y DU)

Darllenwch hefyd yr adran ddiweddarach 'Os ydych chi eisoes yn talu treth ar eich incwm tramor'.

Mae lwfansau treth arbennig ar gyfer:

  • morwyr sy'n treulio cyfnodau hir y tu allan i'r DU
  • pobl sy'n cael pensiynau tramor

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol yn y DU

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth ar eich holl incwm o'r DU.

Gallwch fel arfer dalu treth ond ar incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar:

  • eich holl incwm o fuddsoddiadau yng Ngweriniaeth Iwerddon (GI)
  • 90 y cant o'ch pensiwn o Weriniaeth Iwerddon (onid yw'n bensiwn llywodraeth Iwerddon)

Os ydych â'ch domisil yn y DU hefyd, byddwch yn talu treth ar yr enillion o waith a wnaed dramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU.

Os nad ydych yn preswylio

Byddwch yn talu treth ar eich incwm o'r canlynol:

  • gwaith a wnewch yn y DU
  • pensiynau'r DU
  • buddsoddiadau yn y DU
  • incwm rhent o eiddo yn y DU

Fyddwch chi ddim yn talu treth ar eich incwm tramor hyd yn oed os byddwch yn dod ag ef gyda chi i'r DU.

Lwfansau Treth Incwm

Mae holl breswylwyr y DU yn cael lwfansau di-dreth personol i leihau eu bil treth.

Treth Enillion Cyfalaf (TEC)

Os ydych chi'n preswylio neu'n preswylio'n arferol

Yn yr achos hwn, mae TEC yn daladwy fel arfer ar enillion (cymwys) o werthu asedau neu drwy gael gwared ar asedau yn ystod blwyddyn dreth pa un a ydych yn dod â'r enillion i'r DU neu beidio. Os nad ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch ond yn talu treth ar enillion tramor os dowch â'r arian gyda chi i'r DU.

A oes angen i chi lenwi ffurflen dreth?

Os yw'r incwm yr ydych yn talu treth arno yn fwy na'ch lwfansau personol, efallai y gallwch dalu treth trwy'r drefn Talu Wrth Ennill (PAYE) os ydych yn gyflogedig. Os nad ydych yn gyflogedig, bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth.

Dod i'r DU ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn

Treth Incwm

Pan fyddwch yn dod i'r DU ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar incwm y byddwch yn ei dderbyn ar ôl cyrraedd os:

  • byddwch yn dod i'r DU i aros am o leiaf dwy flynedd neu i aros am byth
  • nad oeddech yn preswylio'n arferol yn y DU cyn ichi gyrraedd

Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm am y flwyddyn gyfan.

Y naill ffordd neu'r llall, byddwch bob amser yn cael eich lwfansau personol am y flwyddyn lawn.

Treth Enillion Cyfalaf

Os byddwch yn dod i'r DU a chithau heb fod yn preswylio nac yn preswylio'n arferol o gwbl yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, byddwch ond yn talu treth ar enillion cyfalaf cymwys y byddwch yn eu gwneud ar ôl ichi gyrraedd.

Os ydych chi eisoes yn talu treth ar eich incwm tramor

Mae gan y DU 'gytundebau trethiant dwbl' gyda sawl gwlad i sicrhau nad ydych yn talu treth ddwywaith ar yr un incwm neu enillion.

Hyd yn oed os nad oes cytundeb, gallwch fel arfer barhau i hawlio gostyngiad am unrhyw dreth yr ydych wedi'i thalu dramor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU