Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar enillion tramor a geir o weithio

Os ydych yn gweithio i gyflogwr tramor neu os ydych yn gweithio dramor i gyflogwr yn y DU, bydd y dreth y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar ble mae'ch cyflogwr wedi'i leoli, ble rydych chi'n gweithio ac ym mha gategori yr ydych - 'preswylio', 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yn y DU.

Gweriniaeth Iwerddon a chyflogaeth - DU neu dramor?

Mae cyflogwr sydd wedi'i leoli yng Ngweriniaeth Iwerddon yn cyfrif fel cyflogwr y DU. Ond os ydych yn gweithio yng Ngweriniaeth Iwerddon ystyrir eich bod yn gweithio dramor.

Ystyr 'preswylio', 'preswylio'n arferol' a 'domisil'

Preswylio

  • os ydych yn y DU am 183 diwrnod neu fwy mewn blwyddyn dreth, rydych yn 'breswylydd' am y flwyddyn honno at ddibenion treth
  • os dowch i fyw yn y DU yn barhaol neu i aros am dair blynedd neu fwy, rydych yn breswylydd o ddyddiad cyrraedd y wlad
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd hefyd os ydych yn y DU am 91 diwrnod neu fwy ar gyfartaledd mewn blwyddyn dreth (a gyfrifir dros uchafswm o bedair blwyddyn dreth olynol)

Preswylio'n arferol

  • os ydych yn preswylio yn y DU flwyddyn ar ôl blwyddyn byddwch fel arfer yn cael eich trin fel person sy'n 'preswylio'n arferol'
  • rydych yn cael eich trin fel preswylydd arferol yn y DU o'r dyddiad pan gyrhaeddwch y wlad os yw'n glir eich bod yn bwriadu aros am o leiaf dair blynedd

Domisil

  • pennir eich domisil fel arfer adeg eich geni, ond cysyniad cyfreithiol cyffredinol yw hwn sy'n cwmpasu amrywiaeth o ffactorau

Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain - neu yr un ohonynt.

Os nad ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth

Os nad ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth, fyddwch chi ddim yn talu treth y DU am waith a wnaed dramor (ond efallai ei fod yn drethadwy mewn gwlad arall).

Ond, byddwch yn talu treth y DU ar enillion tramor o waith a wneir gennych yn y DU. Efallai y bydd yn rhaid i'ch cyflogwr weithredu'r system Talu-Wrth-Ennill (PAYE - lle didynnir treth o'ch cyflog) ac efallai y bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad.

Mae rheolau arbennig ar gyfer pan fyddwch yn dod i breswylio yn y DU ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth neu'n peidio â phreswylio yn y DU ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth. Mae rheolau arbennig hefyd ar gyfer morwyr. Gweler yr adrannau ar wahân isod.

Gweithio'n gyfan gwbl y tu allan i'r DU i gyflogwr o'r DU

Os ydych chi'n:

  • preswylio ac yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion
  • preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth dim ond ar yr enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU

Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth pa un a ydych â'ch domisil yn y DU neu beidio.

Gweithio'n rhannol yn y DU ac yn rhannol y tu allan i'r DU i gyflogwr o'r DU

Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion.

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol:

  • ar waith y byddwch yn ei wneud yn y DU, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion
  • ar gyfer gwaith y byddwch yn ei wneud dramor, byddwch yn talu treth dim ond ar yr enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU

Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth pa un a ydych â'ch domisil yn y DU neu beidio.

Gweithio'n gyfan gwbl y tu allan i'r DU i gyflogwr o dramor

Os ydych chi'n preswylio ond nad yw eich domisil yn y DU:

  • byddwch yn talu treth dim ond ar yr enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU - nid oes wahaniaeth a ydych yn preswylio'n arferol neu beidio

Os ydych chi'n preswylio a'ch domisil yn y DU:

  • byddwch yn talu treth ar eich holl enillion os ydych yn preswylio'n arferol
  • byddwch ond yn talu treth ar yr enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU os nad ydych yn preswylio'n arferol

Gweithio'n rhannol yn y DU ac yn rhannol y tu allan i'r DU i gyflogwr o dramor

Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth y DU ar eich holl enillion.

Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol:

  • ar waith y byddwch yn ei wneud yn y DU, byddwch yn talu treth ar eich holl enillion
  • ar gyfer gwaith y byddwch yn ei wneud dramor, byddwch yn talu treth dim ond ar yr enillion y byddwch yn dod gyda chi i'r DU

Yn y naill achos neu'r llall, nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth pa un a ydych â'ch domisil yn y DU neu beidio.

Rheolau arbennig ar gyfer morwyr sy'n preswylio yn y DU

Os ydych yn forwr sy'n preswylio yn y DU ac yn treulio cyfnodau hir dramor, efallai y gallwch hawlio gostyngiad o 100 y cant, a elwir yn 'Ddidyniad Enillion Morwyr'.

Os dowch i breswylio neu i breswylio'n arferol ran o'r ffordd drwy'r flwyddyn dreth

Os dowch i'r DU neu adael ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, efallai y byddwch yn dod yn breswylydd neu beidio â bod yn breswylydd yn y DU. Os digwydd hyn, fe'ch trethir fel arfer ar eich incwm o dramor am y rhan o'r flwyddyn yr oeddech yn y DU.

Pan fyddwch chi’n gadael y DU efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen P85 Gadael y DU – cael eich treth yn gywir i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM.

Cytundebau trethiant dwbl

Mae gan y DU 'gytundebau trethiant dwbl' gyda sawl gwlad i sicrhau mai dim ond mewn un wlad y byddwch yn talu treth.

Os nad oes cytundeb a chithau eisoes wedi talu treth dramor, gallwch fel arfer hawlio y naill neu'r llall o'r canlynol:

  • 'gostyngiad unochrog' yn y DU - gostyngiad yn erbyn y swm a fyddai wedi bod yn daladwy yn y DU
  • didyniad o'ch enillion trethadwy ar gyfer y dreth dramor yr ydych wedi'i thalu

Sylwch na allwch hawlio gostyngiad treth am fwy na threth y DU sy'n ddyledus ar yr un incwm. Edrychwch yn y nodiadau cymorth ar gyfer tudalennau tramor y ffurflen dreth am fanylion.

Datgan eich enillion tramor ar eich ffurflen dreth

Rydych yn datgan eich enillion tramor ar dudalennau cyflogaeth eich ffurflen dreth ac yn gwneud unrhyw hawliadau am dreth sydd eisoes wedi'i thalu ar y tudalennau tramor.

Os ydych yn dod o fewn unrhyw un o'r grwpiau isod, rydych yn gymwys i gael lwfansau di-dreth y DU. Mae'r rhain yn gostwng faint o dreth y bydd angen ichi ei thalu.

Lwfansau di-dreth y DU - pwy sy'n cael eu hawlio

  • preswylwyr y DU
  • dinasyddion Ardal Economaidd Ewrop (AEE) (gan gynnwys Prydeinig)
  • Gweithwyr y Goron (neu gyn weithwyr)
  • aelodau o rai grwpiau arbennig eraill

Os bydd eich lwfansau di-dreth yn fwy na'ch incwm, fyddwch chi ddim yn talu treth yn y DU.

Ble i fynd am help

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich treth a'ch cyflogwr heb allu helpu, gallwch gysylltu â:

  • Swyddfa Dreth eich cyflogwr os oes gennych gyflogwr o'r DU neu gyflogwr tramor sy'n gweithredu PAYE - gofynnwch i'ch cyflogwr am fanylion
  • eich Swyddfa Dreth leol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU