Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth Incwm wrth adael y DU

Os ewch i fyw neu i weithio dramor a rhoi'r gorau i breswylio yn y DU, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm y DU o hyd - ond dim ond ar eich incwm o'r DU. Os bydd angen i chi dalu, efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu.

Pryd na fyddwch chi'n breswylydd at ddibenion Treth Incwm yn y DU?

Byddwch yn cael eich trin fel person di-breswyl o'r diwrnod ar ôl i chi adael y DU os gallwch ddangos:

  • eich bod wedi gadael y DU i fynd dramor yn barhaol neu os yw eich absenoldeb a'ch gwaith llawn amser dramor yn para am y flwyddyn dreth gyfan o leiaf
  • bod eich ymweliadau â'r DU yn llai na 183 diwrnod mewn blwyddyn dreth, a'u bod ar gyfartaledd yn llai na 91 diwrnod mewn blwyddyn dreth dros gyfnod o bedair blwyddyn dreth olynol ar y mwyaf

Mae'r un peth yn berthnasol i'ch partner priod, eich partner sifil neu'ch partner.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM pan fyddwch yn gadael y DU

Os ydych wedi gadael y DU rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Os nad oes angen i chi lenwi hunanasesiad treth, bydd angen i chi lenwi ffurflen P85 Gadael y DU - cael eich treth yn iawn. Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r wybodaeth ar y ffurflen i anfon unrhyw ad-daliad treth sy’n ddyledus i chi a phennu a fyddwch yn dod yn ddibreswyl. Mae’n bwysig eich bod yn amgáu rhannau 2 a 3 y ffurflen P45 os oes gennych un oherwydd ni fydd Cyllid a Thollau EM yn gallu ad-dalu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus hebddynt. Bydd angen i chi anfon y fersiynau gwreiddiol - ni fydd llun gopïau yn cael eu derbyn.

Os ydych yn gadael y DU i weithio dramor yn llawn amser am gyflogwr sydd wedi’i leoli yn y DU am o leiaf blwyddyn dreth lawn, bydd angen i chi lenwi hunanasesiad treth a ffurflen P85.

Incwm o gyflogaeth dramor

Os dowch yn ddi-breswyl, fyddwch chi ddim yn talu treth y DU ar eich incwm o weithio dramor.

Gweithio'n rhannol yn y DU

Os ydych yn ddi-breswyl ond yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth y DU ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion drwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.

Rheolau arbennig ar gyfer rhai gweithwyr

Mae yna reolau arbennig ar gyfer:

  • gweithwyr y Goron
  • morwyr
  • gweithwyr olew a nwy
  • diddanwyr a mabolgampwyr
  • myfyrwyr

Holwch Cyllid a Thollau EM os ydy un o'r uchod yn berthnasol i chi.

Treth ar bensiynau yn y DU

Os nad ydych yn breswylydd, byddwch yn talu treth y DU ar eich pensiynau yn y DU - gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai na fyddwch yn talu treth y DU os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb ‘trethiant dwbl’ gyda'r DU.

Treth ar bensiynau awdurdod lleol a gwasanaeth llywodraeth y DU

Ble bynnag yr ydych yn byw, byddwch fel arfer yn talu treth y DU ar bensiwn awdurdod lleol neu wasanaeth llywodraeth. Ond os ydych yn byw yn Awstralia, Canada, Seland Newydd neu ar ynys Cyprus, byddwch yn talu treth arno yn y mannau hynny.

Treth ar log cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu'r DU

Os ydych yn ddi-breswyl, yr unig dreth yn y DU y byddwch yn ei thalu fel arfer yw'r dreth a ddidynnir cyn i chi gael y llog.

Hefyd, os 'nad ydych yn preswylio'n arferol' (yr ydych yn byw fel arfer y tu allan i'r DU), gallwch dderbyn eich llog heb y didyniad treth drwy roi ffurflen R105 i'ch banc neu gymdeithas adeiladu.

Yn y naill achos neu'r llall, os oes treth wedi'i didynnu o'r llog, efallai y gallwch hawlio ad-daliad yn erbyn lwfansau treth y DU gan ddefnyddio ffurflen R43.

Treth ar incwm buddsoddi yn y DU (ac eithrio incwm rhent)

Os ydych yn ddi-breswyl, mae treth y DU yn dal yn ddyledus ar eich incwm arall o fuddsoddiadau yn y DU. Fodd bynnag, os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y bydd modd i chi gael gostyngiad neu eithriad. Ond chewch chi byth hawlio'n ôl na gostwng y credyd treth deg y cant ar ddifidendau o gwmnïau yn y DU.

Treth ar incwm rhent yn y DU

Mae treth y DU yn ddyledus ar eich incwm o eiddo rhent.

Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael rhent o eiddo yn y DU a delir yn uniongyrchol i chi, rhaid i'ch tenant ddidynnu treth y DU ar y gyfradd sylfaenol - 20 y cant ar hyn o bryd. Os ydych yn defnyddio asiant gosod, byddant yn didynnu'r dreth o'r 'rhent net' - ar ôl unrhyw dreuliau sy'n cael eu caniatáu a dalwyd ganddynt.

Gallwch wneud cais i'r rhent gael ei dalu i chi heb ddidynnu treth os ydych chi'n meddwl na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth y DU, neu os yw eich materion treth yn gyfredol. Ond bydd angen i chi ddatgan y rhent o hyd ar ffurflen dreth Hunanasesu os caiff ei hanfon atoch gan Gyllid a Thollau EM.

Os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y gallwch gael gostyngiad yno am dreth a dalwyd yn y DU.

Treth y DU ar incwm tramor

Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael incwm tramor, does dim treth yn ddyledus yn y DU. Ond os caiff ei dalu neu ei gasglu gan asiant yn y DU - megis banc - maent fel arfer yn didynnu treth yn y ffynhonnell. Bydd angen i chi lenwi ffurflen PA1 neu CA1 - ar gael gan eich asiant - i atal hyn.

Os cewch eich trethu fel arfer ar incwm a ddygir i mewn i'r DU - sail taliad

Yn y flwyddyn dreth pan fyddwch yn gadael y DU, byddwch yn talu treth yn y DU ar y lleiaf o'r canlynol:

  • yr hyn a ddygwyd i'r DU gennych cyn i chi adael
  • yr un gyfran o incwm y flwyddyn gyfan (a dderbyniwyd yn y DU) â chyfran y flwyddyn yr oeddech yn y DU

Lwfansau di-dreth ar gyfer pobl nad ydynt yn preswylio yn y DU

Os ydych yn un o ddinasyddion Ardal Economaidd Ewrop (gan gynnwys Prydeinig), neu yn un o weithwyr presennol y Goron neu gyn weithiwr i'r Goron, byddwch yn dal i gael eich lwfansau di-dreth i leihau faint o Dreth Incwm sy'n ddyledus yn y DU. Mae hyn yn berthnasol i aelodau o rai grwpiau arbennig eraill hefyd.

Gostyngiad trethiant dwbl

Efallai y bydd y wlad yr ydych yn symud iddi am eich trethu ar eich incwm byd - hyd yn oed os oes treth yn ddyledus yn y DU. Os oes gan y wlad gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu'r un dreth ddwywaith.

Os ydych yn talu benthyciad i fyfyriwr yn ôl

Os ydych yn talu benthyciad i fyfyriwr yn ôl ar hyn o bryd naill ai drwy eich cyflog neu drwy eich ffurflen dreth, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr cyn eich bod yn gadael y DU. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU