Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Lwfans Pâr Priod ar sail oed yn swm y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei dynnu oddi ar eich bil treth - felly dim ond os ydych chi'n talu treth y mae'n berthnasol. Os nad ydych chi'n talu treth, neu os nad yw eich bil treth yn ddigon uchel i ddefnyddio'ch Lwfans Pâr Priod i gyd, gallwch drosglwyddo unrhyw ran o'r lwfans nas defnyddiwyd i'ch cymar neu'ch partner sifil os ydynt yn talu treth.
Os oeddech yn briod cyn 5 Rhagfyr 2005
Os ydych chi'n briod ac yn cyd-fyw, ac y cafodd o leiaf un cymar ei eni cyn 6 Ebrill 1935, caiff y gŵr hawlio Lwfans Pâr Priod. Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich bil treth o deg y cant o'r Lwfans Pâr Priod yr ydych yn gymwys i'w gael. Mae'r union swm yn dibynnu ar incwm y gŵr.
Os bydd un ohonoch yn marw, neu os byddwch yn ysgaru neu'n gwahanu, fe gewch Lwfans Pâr Priod am y flwyddyn dreth honno'n llawn.
Os ydych wedi priodi ar 5 Rhagfyr 2005 neu ar ôl hynny, neu mewn partneriaeth sifil
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda'ch gilydd, a bod o leiaf un cymar neu bartner sifil wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935, gall y sawl sydd â'r incwm mwyaf hawlio'r Lwfans Pâr Priod.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau bil treth yr hawlydd o deg y cant o'r Lwfans Pâr Priod y mae ef neu hi yn gymwys i'w gael. Mae'r union swm yn dibynnu ar incwm y cymar neu'r partner sifil sydd â'r incwm mwyaf.
Yn y flwyddyn y byddwch chi'n priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil, bydd eich hawl i'r Lwfans Pâr Priod yn lleihau fesul un rhan o ddeuddeg o bob mis treth llawn cyn dyddiad eich priodas neu bartneriaeth sifil.
Er enghraifft, petaech yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ar 24 Mawrth, dim ond un rhan o ddeuddeg, neu werth un mis, o'r lwfans y byddech chi'n ei gael am y flwyddyn treth hwnnw. Os bydd un ohonoch yn marw, os bydd y briodas neu'r bartneriaeth sifil yn chwalu, neu os byddwch yn gwahanu, byddwch yn cael y Lwfans Pâr Priod sy'n ddyledus i chi am y flwyddyn dreth honno.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13, uchafswm y Lwfans Pâr Priod sydd ar gael yw £7,705, a'r isafswm yw £2,960. Cewch deg y cant o'r lwfans – sy'n golygu bod eich arbedion treth (yn seiliedig ar fod yn gymwys am flwyddyn gyfan) yn £296 o leiaf a hyd at £770.50. Mae'r union swm yn dibynnu ar incwm yr hawlydd, fel yr eglurir isod.
Os yw'ch incwm yn fwy na £25,400 (cyn unrhyw lwfansau yn y flwyddyn dreth 2012-13), bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau'r Lwfans Pâr Priod yn yr un ffordd y mae’ch Lwfans Personol ar sail oed yn gallu cael ei leihau.
Dyma sut y cyfrifir y gostyngiad:
Enghraifft a gyfrifwyd
Rydych yn 80 oed, yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac mae gennych incwm trethadwy o £31,500. Mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'r terfyn incwm (£25,400) o'ch incwm trethadwy (£31,500) - dengys hyn eich bod £6,100 dros y terfyn.
Byddant yn tynnu hanner y swm hwn (£3,050) o'ch lwfansau, fel hyn:
Dyma'r swm y bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau ar eich bil treth.
Er mwyn hawlio Lwfans Pâr Priod, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn rhoi manylion eich seremoni priodas/partneriaeth sifil a'ch cymar/partner sifil (gan gynnwys eich dyddiad geni). Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi gynnwys manylion eich cais am y Lwfans Pâr Priod.
Os nad ydych chi'n talu treth, neu os nad yw eich bil treth yn ddigon uchel i ddefnyddio'ch Lwfans Pâr Priod i gyd, gallwch ddefnyddio ffurflen 575 'Hysbysiad o drosglwyddo lwfansau Treth Incwm nad oes eu hangen' ar ddiwedd y flwyddyn dreth er mwyn trosglwyddo unrhyw ran o'r lwfans nas defnyddiwyd i'ch cymar neu'ch partner sifil os ydynt yn talu treth. Allwch chi ddim cael ad-daliad o unrhyw arian nas defnyddiwyd.
Defnyddiwch y ddolen isod i gael copi o ffurflen 575. Os nad oes gennych argraffydd wrth law, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM bostio'r ffurflen i chi. Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad treth ar ffurflen R40 Ad-daliad Treth, gallwch ofyn am ffurflen 575 hefyd drwy dicio'r blwch priodol.
Gallwch hefyd benderfynu rhannu'r isafswm Lwfans Pâr Priod rhyngoch chi neu, os yw'r ddau ohonoch yn cytuno, gallwch ddewis trosglwyddo'ch isafswm Lwfans Pâr Priod i gyd i'ch cymar neu'ch partner sifil (£2,960 am 2012-13).
Yn yr achos hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen 18 'Trosglwyddo'r Lwfans Pâr Priod' (ar gael gan eich Swyddfa Dreth neu isod) cyn dechrau'r flwyddyn dreth.
Dilynwch y ddolen gyntaf isod i ddarllen am gyfraddau'r Lwfans Pâr Priod ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09.
Os ydych chi'n talu treth ac yn rhoi arian i elusen yn y DU gan ddefnyddio Cymorth Rhodd, mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM gan fod hyn yn lleihau eich incwm pan fyddant yn cyfrifo'ch lwfansau ar sail oed. Cael gwybod mwy drwy ddarllen canllaw Cyllid a Thollau ar Gymorth Rhodd.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs