Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gostyngiad treth os ydych chi'n gweithio ar long

Os ydych chi'n weithiwr ac yn gweithio ar y môr, efallai y gallech leihau'ch bil treth drwy gael ‘Didyniad Enillion Morwyr’.

Sut mae Didyniad Enillion Morwyr yn gweithio

Er mwyn cael y didyniad, rhaid i chi:

  • fod yn gweithio ar long - nid yw rigiau olew na safleoedd eraill ar y môr yn cael eu cyfrif fel llongau at ddibenion y Didyniad Enillion Morwyr - ond mae llongau cargo, tanceri, llongau mordeithio a llongau teithwyr yn cael eu cyfrif
  • fod yn gweithio gydol yr amser neu ran o'r amser oddi allan i'r DU - mae hyn yn golygu bod rhaid i chi wneud dyletswyddau ar o leiaf un daith sy'n cychwyn neu'n dod i ben mewn porthladd dramor, ar gyfer pob cyflogaeth
  • fod yn 'preswylio'n arferol o fewn y DU' - fod yn ‘preswylio’n arferol’ o fewn y DU - neu’n preswylio ar gyfer dibenion treth mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (ar wahân i’r DU) - gallwch gael gwybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod

Cewch y didyniad o'ch enillion fel morwr os oes gennych 'gyfnod cymwys' o 365 diwrnod o leiaf pan fyddwch yn absennol o'r DU am y mwyafrif o'r dyddiau hynny. Mae yna reolau arbennig ar gyfer cyfrifo hyn - gweler 'Sut mae cyfrifo'r didyniad' isod.

Pwy all gael y didyniad

Gall unrhyw un sy'n gweithio ar long gael y didyniad. Er enghraifft, gallwch ei gael os cyflogir chi fel diddanwr, cogydd, cludwr taith neu gerddor.

Allwch chi ddim cael y didyniad:

  • os cyflogir chi gan y Goron - felly chaiff morwyr y Llynges Frenhinol mo'i gael
  • os nad ydych yn preswylio’n arferol o fewn y DU nac yn preswylio yn un o wledydd yr Ardal Ewropeaidd Economaidd (ar wahân i’r DU) ond efallai bod gostyngiadau treth eraill y gallwch eu hawlio - gweler yr adran ‘Os ydych chi'n forwr ac nad ydych yn preswylio yn y DU’ isod

Sut mae cyfrifo'r didyniad

Er mwyn gweld a ydych chi'n gymwys i gael y didyniad, mae angen i chi gyfrifo a yw'ch dyddiau oddi allan i'r DU yn ddigon i wneud cyfnod cymwys. Gallwch ddefnyddio Taflen Gymorth HS205 Didyniad Enillion Morwyr er mwyn eich helpu wrth wneud hyn.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Os oes gennych fwy nag un swydd, gallwch ddal i gael y didyniad oddi ar eich cyflog fel morwr os ydych chi'n bodloni'r holl amodau.

Cofnodion y bydd arnoch angen eu cadw

Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM eisiau edrych ar eich ffurflen dreth felly bydd angen i chi gadw manylion:

  • y Daflen Gymorth HS205 wedi ei chwblhau
  • tocynnau awyren neu docynnau teithio eraill
  • biliau gwesty a derbynebau eraill
  • pasportau a fisas
  • llyfr rhyddhau morwyr
  • cofnodion bwrdd rhydd y llongau y buoch yn cyflawni dyletswyddau arnynt

Os oes unrhyw amheuaeth byddant yn cysylltu â'ch cyflogwr er mwyn cael manylion o daith a chriw y llong.

Sut mae cael Didyniad Enillion Morwyr

Os ydych yn preswylio’n arferol o fewn y DU

Os ydych yn preswylio’n arferol o fewn y DU, bydd rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesu, gan gynnwys y tudalennau Cyflogaeth a Gwybodaeth Ychwanegol atodol – gallwch gael gwybod mwy drwy ddilyn y dolenni isod

Os ydych yn preswylio mewn gwlad Ardal Ewropeaidd Economaidd (ar wahân i’r DU)

Os nad ydych yn preswylio yn y DU ond yn preswylio yn un o wledydd yr Ardal Ewropeaidd Economaidd (ar wahân i’r DU), o’r flwyddyn treth 2011-12 efallai y byddwch yn gymwys i’r Didyniad Enillion Morwyr. Dylech hawlio drwy ddefnyddio’r ffurflen (R43M(SED) Hawlio Ad-daliad - Morwyr Masnachu sy’n preswylio yn yr EEA. Ni ddylech ddefnyddio ffurflen dreth i hawlio Didyniad Enillion Morwyr.

Terfynau amser ar gyfer cael gostyngiad treth

Mae’r terfynau amser ar hawlio Didyniad Enillion Morwyr yn cael eu dangos yn y table isod.

Terfynau amser ar gyfer hawlio

Blwyddyn Dreth

Daeth y flwyddyn dreth i ben ar

Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn

2007-08

5 Ebrill 2008

5 Ebrill 2012

2008-09

5 Ebrill 2009

5 Ebrill 2013

2009-10

5 Ebrill 2010

5 Ebrill 2014

2010-11

5 Ebrill 2011

5 Ebrill 2015



Os ydych chi'n forwr nad yw'n preswylio yn y DU na’r EEA

Os ydych chi'n forwr ac nad ydych yn preswylio yn y DU na’r EEA (ar wahân i’r DU), ond eich bod yn talu treth yn y DU oherwydd eich bod yn gweithio i gwmnïau llongau'r DU, efallai y gallech gael eich treth yn ôl. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen R43M Hawlio Ad-daliad.

Sut i gael rhagor o gymorth

Os byddwch angen help neu gyngor, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth i Forwyr ar 029 2032 5045. Mae ar agor rhwng 8.00 am a 4.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Allweddumynediad llywodraeth y DU