Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth pan fyddwch yn dechrau, yn gadael neu'n ymddeol o'r gwaith

Gall treth ymddangos yn gymhleth pan fydd eich sefyllfa yn y gwaith yn newid neu pan fyddwch yn dechrau eich swydd gyntaf. Ond gall cymryd eich amser i gael y gwaith papur yn gywir eich helpu i osgoi talu gormod neu ddim digon o dreth.

Os ydych chi'n dechrau ar eich swydd gyntaf

Os ydych yn fyfyriwr ac wedi gwneud rhywfaint o waith rhan-amser yn ystod y flwyddyn dreth hon, mae'n bosibl y bydd gennych ffurflen P45 gan eich cyflogwr blaenorol. Mae hon yn rhoi manylion am eich enillion a faint o dreth yr ydych wedi'i thalu. Bydd blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn gorffen ar 5 Ebrill canlynol.

Os nad oes gennych P45, bydd eich cyflogwr newydd yn gofyn i chi lenwi ffurflen P46. Mae'n bwysig eich bod yn cwblhau hon cyn eich diwrnod tâl cyntaf fel bod eich cyflogwr yn gwybod pa dreth cod i'w ddefnyddio. Byddant yn anfon y P46 atom fel y gall Cyllid a Thollau EM ffurfio cofnod ar eich cyfer ac adolygu eich cod treth.

Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'ch cod treth i gyfrifo faint o dreth i'w thynnu o'ch cyflog drwy'r system PAYE (Talu Wrth Ennill).

Faint o dreth y byddwch yn ei thalu

Mae tair prif gyfradd o Dreth Incwm:

  • 20 y cant ar incwm i fyny at £34,370 (y gyfradd sylfaenol)
  • 40 y cant ar incwm rhwng £34,371 a £150,000 (y gyfradd uwch)
  • 50 y cant ar incwm dros £150,001 (y gyfradd ychwanegol)

Mae bron pawb sy'n byw yn y DU yn cael lwfans personol di-dreth. Dyma'r incwm a gewch wedi'i ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, na fyddwch yn gorfod talu treth arno.

Os ydych yn newid swyddi

Pan fyddwch yn gadael swydd pan fyddwch wedi talu drwy PAYE, bydd eich cyflogwr yn rhoi P45 i chi. Rhowch y ffurflen i'ch cyflogwr nesaf fel y bydd yn gwybod faint o dreth yr ydych wedi'i thalu hyd yn hyn eleni. Bydd yn eu helpu i sicrhau na fyddwch yn talu gormod o dreth yn y dyfodol.

Os ydych wedi colli eich P45 bydd yn rhaid i chi lenwi P46. Ni fydd eich cyflogwr o anghenraid yn rhoi P46 i chi i’w lenwi, ond bydd yn gofyn i chi am yr wybodaeth berthnasol i ddyrannu cod treth a chyfrifo’r dreth sy’n ddyledus ar eich diwrnod talu cyntaf. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn prosesu eich P46 neu’r wybodaeth gan eich cyflogwr, a chywiro eich cod treth lle bo angen.

Mae'n bwysig i chi lenwi'r ffurflen hon cyn eich diwrnod talu cyntaf fel bod eich cyflogwr yn gwybod pa god treth i’w ddefnyddio.

Ceir manylion pwysig ar ffurflen P46 sy'n effeithio ar y dreth y byddwch yn ei thalu, er enghraifft:

Os ydych yn newid swyddi'n aml

Mae'n bwysig iawn sicrhau eich bod yn llenwi P46 ar unwaith os na allwch gael P45. Oni wnewch hyn gallech fod yn talu gormod o dreth.

Os ydych yn fyfyriwr ac yn gweithio rhan-amser, ewch i'r adran ar fyfyrwyr a gwaith isod.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Os byddwch yn dechrau ail swydd heb roi'r gorau i'ch swydd arall ni chewch P45. Gofynnwch i'ch cyflogwr newydd am ffurflen p46. Efallai y bydd ganddynt eu ffurflenni neu eu trefniadau eu hun i chi roi’r wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnynt, ond bydd rhaid i chi roi gwybod iddynt fod gennych swydd arall. Nid oes yn rhaid i chi ddweud wrthynt lle'r ydych yn gweithio na faint yr ydych yn ei ennill.

Bydd gennych god treth ar gyfer pob cyflogwr sy’n rhoi gwybod iddynt pa lwfansau treth yr ydych yn eu cael. Dim ond i'ch prif swydd y bydd eich Lwfans Personol yn berthnasol iddi fel arfer.

Er mwyn osgoi talu gormod o dreth, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM rannu eich Lwfans Personol rhwng eich swyddi. Er enghraifft, os nad ydych yn talu treth ar eich enillion o'ch swydd gyntaf gallwch ddefnyddio unrhyw Lwfans Personol dros ben yn erbyn eich swydd arall neu swyddi eraill. Os oes gennych sawl ffynhonnell incwm sy'n cael eu trethu drwy PAYE gall fod yn gymhleth.

Edrychwch ar eich slipiau cyflog yn ofalus i sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir.

Os ydych yn gadael swydd

Sicrhewch eich bod yn cael ffurflen P45 gan eich cyflogwr pan fyddwch yn gadael - oni bai eich bod yn fyfyrwyr nad ydych yn talu treth a'ch bod yn cwblhau ffurflen P38S – gweler yr adran isod ‘Os ydych yn fyfyriwr ac yn gweithio’. Os byddwch yn dechrau swydd newydd bydd angen i chi roi eich P45 i'ch cyflogwr newydd. Byddant yn ei ddefnyddio i gyfrifo eich treth.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau ar ôl gadael swydd

Os ydych yn dechrau hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ar ôl gadael eich swydd, bydd angen i chi roi eich P45 i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Byddant yn ei ddefnyddio i dalu unrhyw ad-daliad treth y mae gennych hawl iddo naill ai pan fydd eich hawl yn gorffen neu ar ddiwedd y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio amdano.

Os ydych yn fyfyriwr ac yn gweithio

Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n gweithio yn ystod y gwyliau, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu treth. Gallwch lenwi ffurflen P38S ar gyfer myfyrwyr sy'n gweithio os yw'r holl feini prawf canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn fyfyriwr amser llawn yn y DU ac ond yn gweithio yn ystod y gwyliau
  • byddwch yn dychwelyd i addysg amser llawn ar ôl y gwyliau
  • mae cyfanswm eich incwm am y flwyddyn yn llai na'ch Lwfans Personol

Ni allwch ddefnyddio'r ffurflen P38S ar gyfer eich swydd yn ystod y gwyliau os oes gennych swydd ran-amser yn ystod y tymor hefyd.

Nodwch os gwelwch yn dda: O fis Ebrill 2013 ni fydd cyflogwyr yn defnyddio’r broses P38(S). Bydd eich cyflogwr yn gweithredu Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn - PAYE) i ddidynnu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog. Os ydych yn cael eich cyflogi gan gyflogwr sy’n rhan o’r peilot Gwybodaeth Amser Real (RTI), bydd y broses PAYE arferol yn berthnasol o 6 Ebrill 2012. Gallwch gael gwybod mwy ynghylch myfyrwyr a threth drwy ddilyn yr ail ddolen isod.

Os ydych yn dechrau bod yn hunangyflogedig

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted ag y byddwch yn dod yn hunangyflogedig - hyd yn oed os ydych eisoes wedi llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad. Oni wnewch hyn bydd yn rhaid i chi dalu dirwy. Byddwch yn llenwi ffurflen dreth bob blwyddyn, gan roi manylion eich enillion ac unrhyw incwm arall fel y gallant gyfrifo faint o dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Gallwch gofrestru i gael ffurflen Hunanasesiad drwy ffonio'r Llinell Gymorth ar gyfer y rhai sydd Newydd fynd yn Hunangyflogedig ar 0845 9154 515 - dilynwch y ddolen gyntaf isod.

Os ydych yn dechrau gweithio ar ôl hawlio lwfans ceisio gwaith

Pan fyddwch yn gorffen hawlio lwfans ceisio gwaith i ddechrau gwaith i gyflogwr newydd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio’r swm o dreth a dalwyd yn erbyn eich incwm trethadwy gan gynnwys y swm o lwfans ceisio gwaith yr ydych wedi’i dderbyn. Byddant yn eich ad-dalu unrhyw ordaliad a rhoi P45(U) i chi i roi i’ch cyflogwr newydd.

Os ydych yn ymddeol o'ch gwaith yn llwyr

Pan fyddwch yn ymddeol mae'n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch yn cael pensiwn cwmni.

Os byddwch yn dechrau cael pensiwn cwmni

Bydd eich cyflogwr yn anfon ffurflen P46(PEN) Hysbysiad Cychwyn Pensiwn at Gyllid a Thollau EM a rhoi copi i chi gadw. Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'r wybodaeth i roi cod treth newydd i chi ac i sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir.

Os nad ydych yn cael pensiwn cwmni

Bydd eich cyflogwr yn rhoi P45 i chi. Os ydych yn dechrau derbyn pensiwn personol (nid gan gyflogwr) dylech anfon eich P45 i’ch cwmni pensiwn.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU