Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae cywiro camgymeriadau yn eich treth

Os ydych yn credu eich bod wedi talu'r swm anghywir o Dreth Incwm, neu’ch bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth Hunanasesu, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib. Fel arfer mae'n eithaf rhwydd cywiro pethau drwy ddilyn rhai camau syml.

Pam y gallech fod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon

Gallech fod wedi talu'r swm treth anghywir oherwydd:

  • bod eich cyflogwr wedi defnyddio'r cod treth anghywir
  • bod gennych god treth brys
  • eich bod yn gyflogedig am ran o'r flwyddyn yn unig
  • bod gennych fwy nag un swydd ar yr un pryd
  • na wnaethoch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am y buddion yr oeddech yn eu cael drwy eich gwaith
  • bod eich amgylchiadau wedi newid – efallai y cawsoch eich diswyddo
  • eich bod yn hunangyflogedig
  • bod gennych incwm arall fel incwm rhent neu fuddsoddiadau
  • eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth
  • eich bod ar incwm isel ond wedi talu treth ar eich cynilion
  • bod Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad gyda'ch treth

Gall yr holl bethau hyn a rhagor olygu eich bod yn talu gormod o dreth, neu'ch bod heb dalu digon.

Wedi talu gormod o dreth drwy eich swydd neu bensiwn cwmni

Gallwch hawlio’r dreth ychwanegol yn ôl. Mae Cyllid a Thollau EM yn galw unrhyw arian a delir yn ôl yn 'ad-daliad'.

Hawlio ad-daliadau ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM pam y credwch eich bod wedi talu gormod. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt, byddant yn dweud wrthych pa waith papur i'w anfon.

Efallai y cewch god treth newydd, sy'n golygu y caiff unrhyw ad-daliad ei ychwanegu at eich cyflog neu'ch pensiwn.

Hawlio ad-daliadau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

Bydd angen i chi ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM er mwyn cael unrhyw ad-daliad dyledus. Dylech gynnwys y gwaith papur ynglŷn â’ch enillion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • ffurflenni P60 a P45
  • manylion eich cyflogaeth – gan gynnwys unrhyw fuddion cyflogeion a gawsoch

Byddant yn cyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post neu drwy drosglwyddiad banc.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch y dreth rydych wedi’i gordalu yn ôl, cyn belled â’ch bod yn hawlio mewn pryd. Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad wedi’u nodi yn y tabl isod. Os na fyddwch yn gwneud hawliad o fewn y terfyn amser, byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Blwyddyn dreth Blwyddyn dreth yn dod i ben ar Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn
2008-09 5 Ebrill 2009 5 Ebrill 2013
2009-10 5 Ebrill 2010 5 Ebrill 2014
2010-11 5 Ebrill 2011 5 Ebrill 2015
2011-12 5 Ebrill 2012 5 Ebrill 2016

Wedi talu gormod o dreth ar ôl llenwi ffurflen dreth Hunanasesu

Ceir dwy ffordd o hawlio ad-daliad, yn dibynnu ar y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer.

Hawlio am y flwyddyn dreth ddiwethaf

Os ydych wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth, mae gennych 12 mis o ddyddiad olaf derbyn y ffurflen i'w gywiro. Gelwir hyn yn 'ddiwygiad'.

Os gwnaethoch lenwi ffurflen dreth bapur, ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM gan roi gwybod iddynt ba gywiriadau i'w gwneud i ba flychau ar y ffurflen. Os gwnaethoch ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein, mae’n bosib y byddwch yn gallu'i diwygio ar-lein. Cewch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.

Hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

Os na wnaethoch lenwi ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dan sylw, ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM gan roi gwybod iddynt pam eich bod yn hawlio. Os gwnaethoch lenwi ffurflen, ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM a gofyn am gael hawlio ‘ad-daliad oherwydd gordalu’.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch y dreth rydych wedi’i gordalu yn ôl, cyn belled â’ch bod yn hawlio mewn pryd. Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad wedi’u nodi yn y tabl isod. Os na fyddwch yn gwneud hawliad o fewn y terfyn amser, byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi. Ond os bydd Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad gallwch gael mwy o amser.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Blwyddyn dreth

Blwyddyn dreth yn dod i ben ar

Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn

2008-09

5 Ebrill 2009

5 Ebrill 2013

2009-10

5 Ebrill 2010

5 Ebrill 2014

2010-11

5 Ebrill 2011

5 Ebrill 2015

2011-12

5 Ebrill 2012

5 Ebrill 2016

Ad-daliad treth yn ddyledus ar gynilion neu incwm buddsoddi

Caiff treth ei thynnu yn awtomatig oddi ar log eich cynilion a’ch incwm blwydd-daliadau, ar gyfradd o 20 y cant.

Os ydych ar incwm isel, gallech gael rhywfaint o'r dreth yr ydych wedi'i thalu yn ôl, os nad y cyfan. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio.

Yn y rhan fwyaf o achosion, cewch y dreth rydych wedi’i gordalu yn ôl, cyn belled â’ch bod yn hawlio mewn pryd. Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad wedi’u nodi yn y tabl isod. Os na fyddwch yn gwneud hawliad o fewn y terfyn amser, byddwch yn colli unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Blwyddyn dreth

Blwyddyn dreth yn dod i ben ar

Mae'n rhaid i chi hawlio erbyn

2008-09

5 Ebrill 2009

5 Ebrill 2013

2009-10

5 Ebrill 2010

5 Ebrill 2014

2010-11

5 Ebrill 2011

5 Ebrill 2015

2011-12

5 Ebrill 2012

5 Ebrill 2016

Os nad ydych chi wedi talu digon o dreth

Gelwir hyn yn ‘dandaliad’. Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn ysgrifennu atoch yn egluro pam fod hyn wedi digwydd a sut y byddant yn casglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus gennych. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o log ar y dreth hefyd.

Tandaliadau o lai na £3,000

Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod treth newydd i chi ac yn gofyn i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus gennych yn ôl mewn blwyddyn.

Os yw'n well gennych, gallwch ei dalu'n ôl yn syth mewn un taliad mawr. Gelwir hyn yn 'daliad gwirfoddol'. Ffoniwch y rhif ffôn ar y llythyr a gawsoch gan Gyllid a Thollau EM a gofynnwch am slip talu.

Tandaliadau o £3,000 neu ragor

Bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi dalu'r arian yn ôl o fewn mis, neu erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth a dandalwyd – pa un bynnag fydd hwyraf. Llenwch y slip talu a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EM gyda'u llythyr, a dychwelwch ef gyda'ch taliad.

Weithiau bydd Cyllid a Thollau EM yn trefnu i chi dalu'r dreth yn ôl drwy'r system Hunanasesu.

Os na allwch fforddio talu'r arian sy'n ddyledus gennych

Ffoniwch y rhif ffôn ar y llythyr a wnaethoch dderbyn o Gyllid a Thollau EM a dywedwch wrthynt pam na allwch fforddio talu. Mae’n bosib y bydd angen i chi roi ffigurau bras iddynt ar gyfer eich incwm, eich gwariant, eich cynilion ac asedau eraill sydd gennych. Mae’n bosib y byddant yn caniatáu i chi wasgaru’r taliadau dros gyfnod sy’n fwy na blwyddyn.

Sut mae cywiro 'gordaliad o ad-daliadau'

Os gwnaethoch hawlio ad-daliad a bod Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod yn ôl i chi gelwir hynny yn 'ordaliad o ad-daliad'. Os bydd hyn yn digwydd byddant yn ysgrifennu atoch yn egluro pam a sut y byddant yn casglu'r arian yn ôl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU