Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir

Mae llawer o bobl yn talu gormod neu ddim digon o Dreth Incwm ond nid ydynt yn deall pam. Felly mae'n bwysig eich bod yn gwybod sut i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir. Mae'r erthygl yn dweud wrthych beth y dylech chwilio amdano, lle i ddod o hyd iddo a beth i'w wneud os ydych yn gweld eich bod yn talu'r swm anghywir.

Os ydych yn gweithiwr a/neu'n cael pensiwn cwmni

Bydd eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn yn defnyddio eich cod treth i gyfrifo faint o dreth y byddant yn ei dynnu oddi ar eich cyflog. Felly os yw'ch cod treth yn anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth.

Gwirio eich cod treth

Gallwch weld eich cod treth ar:

  • eich slip cyflog
  • eich Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill (PAYE) - byddwch fel arfer yn cael hwn ychydig fisoedd cyn dechrau'r flwyddyn dreth ac mae’n bosib y byddwch yn cael un os y mae rhywbeth wedi newid ond nid oes yn rhaid i bawb gael un
  • ffurflen P60 - byddwch yn cael hon ar ddiwedd bob blwyddyn dreth
  • ffurflen P45 - byddwch yn cael hon pan fyddwch yn gadael swydd

Os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer Hunanasesiad Ar-lein, gallwch weld Hysbysiadau Cod Talu Wrth Ennill a gyflwynwyd ar 11 Hydref 2011 neu ar ôl hynny ar-lein.

Sicrhewch fod y llythrennau a'r rhifau gwahanol sy'n ffurfio eich cod treth yn gywir. Mae hyn yn bwysig iawn os oes gennych fwy nag un swydd neu ffynhonnell incwm - neu os ydych yn newid swyddi'n aml.

Os yw'ch cod treth yn anghywir

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl fel y gallant ei gywiro. Gallwch gael rhywfaint o dreth yn ôl - neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rywfaint mwy.

Os ydych yn cael llog banc neu gymdeithas adeiladu

Bydd eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu yn tynnu'r llog oddi ar eich cynilion cyn i chi ei gael.
Mae'n syniad da holi eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu a ddylech gael llog di-dreth ar eich cynilion a'ch buddsoddiadau.

Os ydych yn hunangyflogedig a/neu yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad

Gallwch lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad ar-lein neu anfon ffurflen bapur at Gyllid a Thollau EM drwy'r post.

Cyfrifo eich Treth Incwm

Os byddwch yn llenwi eich ffurflen dreth ar-lein cewch wybod ar unwaith faint o dreth sy'n ddyledus gennych - neu faint sy'n ddyledus i chi.
Os byddwch yn llenwi ffurflen bapur ac yn ei hanfon at Gyllid a Thollau EM erbyn 31 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth byddant yn cyfrifo eich treth i chi.

Os byddwch yn cwblhau ffurflen bapur a'i bod yn cyrraedd Cyllid a Thollau EM ar ôl 31 Hydref bydd yn rhaid i chi dalu dirwy am ei hanfon yn hwyr ac efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrifo eich treth eich hun. Os byddwch yn ffeilio eich ffurflen ar-lein cyfrifir eich treth yn awtomatig a'r dyddiad cau ar gyfer ffeilio yw 31 Ionawr.

Eich datganiad cyfrifo treth a'ch Datganiad Cyfrif

Os byddwch yn llenwi ffurflen dreth bapur, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon datganiad cyfrifo treth atoch. Bydd hwn yn dweud wrthych faint o dreth sy'n ddyledus gennych - neu sy'n ddyledus i chi - a sut y cafodd ei gyfrifo. Edrychwch ar hwn a rhowch wybod iddynt ar unwaith os ydych yn credu ei fod yn anghywir.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cais am daliad atoch hefyd, a elwir yn Ddatganiad Cyfrif, yn fuan cyn y bydd gennych dreth i'w thalu.

Os byddwch yn anfon ffurflen bapur at Gyllid a Thollau EM ar ôl 31 Hydref bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych erbyn y dyddiadau cau - hyd yn oed os nad ydych wedi cael datganiad eto.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich Credyd Treth

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Oni wnewch hyn, gallech fod yn talu'r swm treth anghywir.
Er enghraifft, bydd angen i chi roi gwybod iddynt os byddwch:

  • yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil - ac y ganed un ohonoch cyn 1935
  • yn dechrau cael ail incwm
  • yn mynd yn hunangyflogedig neu'n peidio â bod yn hunangyflogedig
  • yn dechrau cael buddiannau gan y cwmni - er enghraifft car cwmni neu yswiriant iechyd
  • yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth

Cadw cofnodion

Mae'n bwysig cadw gwybodaeth a gwaith papur am eich treth a'ch incwm, er enghraifft:

  • slipiau cyflog
  • Datganiadau o Gyfrif
  • Hysbysiadau Cod Talu Wrth Ennill (PAYE)
  • datganiadau banc
  • talebau difidend


Efallai y bydd angen i chi edrych ar y rhain os bydd gennych unrhyw gwestiynau yn y dyfodol neu os ydych am sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir.

Treth Incwm - cyfrifiannell gwiriad cyflym

Os ydych o dan 65 oed, yn dalwr trethi sylfaenol neu uwch - 20 neu 40 y cant - a'ch bod yn cael y Lwfans Personol sylfaenol, gallwch ddefnyddio peiriant gwirio treth syml Cyllid a Thollau EM. Bydd yn eich helpu i wybod a ydych yn talu tua'r swm treth cywir.

Bydd angen i chi gael manylion o'r canlynol yn barod:

  • cyfanswm eich enillion ar gyfer y flwyddyn dreth cyn y didynnir treth
  • cyfanswm y dreth y gwnaethoch ei thalu ar eich enillion
  • faint o log yr ydych wedi'i gael ar eich cynilion gan y banc a'ch cymdeithas adeiladu ar ôl didynnu treth
  • cyfanswm y dreth y gwnaethoch ei thalu ar gynilion banc a chymdeithas adeiladu
  • cyfanswm unrhyw roddion Cymorth Rhodd yr ydych wedi'i wneud

Dim ond amcangyfrif a gewch gan y peiriant gwirio treth. Efallai y cewch fathau eraill o incwm, lwfansau neu fudd-daliadau a fydd yn effeithio ar y swm treth y byddwch yn ei dalu.

Sut mae cywiro camgymeriadau

Ceir ffyrdd gwahanol o hawlio treth yn ôl. Mae'n dibynnu a ydych yn llenwi ffurflen dreth ac am ba flwyddyn yr ydych yn hawlio'r dreth.

Os nad ydych wedi talu digon o dreth bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch ac yn egluro pam fod hyn wedi digwydd a beth ddylech ei wneud.

Allweddumynediad llywodraeth y DU