Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich 'Hysbysiad Cod PAYE' yn dweud wrthych beth yw eich cod treth a sut caiff ei gyfrifo. Mae'r cod treth yn dweud wrth eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn pa incwm di-dreth y mae gennych hawl ei gael (os oes gennych hawl) dros y flwyddyn dreth ac, o ganlyniad, faint o dreth i'w dynnu oddi ar eich incwm cyn eich talu. Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn - PAYE) yw'r enw ar y system hon o gasglu treth.
Mae dau grŵp allweddol o gofnodion ar eich Hysbysiad Cod PAYE, a gyda'i gilydd byddant yn dylanwadu ar faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar eich incwm.
Lwfansau a gostyngiadau – symiau positif
Dangosir y rhain fel symiau positif, ac maent yn cynnwys y canlynol:
wedi'i adio at
Os mai'r rhain yw'r unig gofnodion ar eich Hysbysiad Cod, cânt eu tynnu o'ch incwm trethadwy (cyflogaeth, pensiwn ac unrhyw enillion/incwm arall) a byddwch yn talu treth ar y gweddill.
Eitemau a all ostwng eich swm di-dreth – symiau negatif
Gallwch hefyd gael symiau negatif yn dangos ar eich Hysbysiad Cod.
Caiff y rhain eu tynnu o'ch lwfansau a'ch gostyngiadau. Gall eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth gynnwys y canlynol:
Caiff cyfanswm gwerth yr eitemau sy'n lleihau eich swm di-derth ei dynnu o gyfanswm eich lwfansau a'ch gostyngiadau er mwyn cywiro'r balans rhwng y canlynol:
Drwy dynnu'r eitemau sy'n lleihau eich swm di-dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn ceisio sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth yn ystod y flwyddyn dreth.
Ar ôl i'r didyniadau gael eu tynnu o'ch lwfansau, bydd tri posibilrwydd.
Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn llai na'ch lwfansau
Yn yr achos hwn, y swm sy'n weddill yw'r incwm y cewch ddal i'w dderbyn yn ddi-dreth yn y flwyddyn dreth hon. Caiff y swm hwn ei dynnu o gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar y balans.
Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn hafal i'ch lwfansau
Yn yr achos hwn nid oes gennych unrhyw lwfansau di-dreth i osod yn erbyn eich cyflog trethadwy ar gyfer y flwyddyn – felly rydych chi’n talu treth ar eich holl incwm trethadwy.
Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn fwy na'ch lwfansau
Yn yr achos hwn, caiff eich lwfansau eu defnyddio i gyd, a bydd treth yn ddyledus gennych ar y gwahaniaeth rhwng y ddau. Er enghraifft, os yw eich lwfansau'n £6,000 a bod eich didyniadau'n £6,250, bydd treth yn ddyledus gennych ar £250. Caiff y swm hwn ei ychwanegu at gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar y cyfanswm yn gymesur dros y flwyddyn. (Bydd Cyllid a Thollau EM yn dynodi bod eich lwfansau wedi'u defnyddio i gyd a bod treth ychwanegol yn ddyledus gennych drwy roi 'cod K' i chi.)
Ers y flwyddyn dreth 2010-11 ymlaen, mae cyfradd treth ychwanegol o 50 y cant yn berthnasol i unigolion gydag incwm trethadwy dros £150,000. Yn ystod 2010-11 ni roddodd Cyllid a Thollau EM godau treth diwygiedig i gywiro ‘gostyngiadau a chywiriadau’ os oedd angen i chi dalu treth ar gyfradd o 50 y cant ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi dalu pan fyddwch yn anfon eich 2010-11 Hunanasesiad treth i mewn. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd ychydig o dreth ychwanegol yn ddyledus gennych.
Bydd codau treth o 2011-12 ymlaen yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd treth 50 y cant ac unrhyw ‘ostyngiadau a chywiriadau’.
Mae eich Hysbysiad Cod i chi i gadw. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu dalwr pensiwn beth yw eich cod treth. Os oes gennych asiant neu gynghorydd treth sy’n gweithredu ar eich rhan, mae Cyllid a Thollau EM yn awgrymu eich bod chi’n dangos copi o’ch Hysbysiad Cod iddyn nhw.
Os ydych chi'n credu bod unrhyw wybodaeth anghywir ar eich Hysbysiad Cod PAYE (er enghraifft, am fod eich amgylchiadau neu'ch incwm wedi newid, neu fod Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad), cysylltwch â Chyllid a Thollau EM. Os yw’r symiau'n anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth. Gallwch weld manylion cyswllt Cyllid a Thollau EM ar eich Hysbysiad Cod.
Gallwch hefyd chwilio amdanynt ar-lein isod. Os oes unrhyw beth yn anghywir, bydd Cyllid a Thollau EM yn cyflwyno Hysbysiad Cod a chod treth newydd.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM os oes angen mwy o eglurhad arnoch am unrhyw un o'r ffigurau ar eich Hysbysiad Cod.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs