Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau treuliau yn eich cod treth

Os cewch eich ad-dalu am unrhyw dreuliau a gewch fel rhan o'ch swydd bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y taliadau hynny. Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn cynnwys tâl y treuliau yn eich cod treth ac yn casglu unrhyw dreth sy'n ddyledus drwy PAYE (Talu Wrth Ennill). Efallai y cewch ostyngiad treth ar y treuliau hyn - bydd y rhain hefyd i'w gweld yn eich cod treth.

Taliadau treuliau a gostyngiad treth

Os yw eich cyflogwr wedi ad-dalu unrhyw dreuliau a gawsoch wrth gyflawni eich swydd - er enghraifft cost tanysgrifiadau proffesiynol neu ddefnyddio eich ffôn gartref - bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y taliadau yr ydych wedi'u cael.

Fodd bynnag, efallai y gallwch hefyd gael gostyngiad treth ar eich treuliau - bydd hyn yn canslo'r dreth sy'n ddyledus gennych.

Bydd y taliadau treuliau ac unrhyw ostyngiad treth sy'n ddyledus i chi yn dangos ar eich Hysbysiad Cod PAYE – fel y disgrifir isod.

Cofnodion treuliau ar eich Hysbysiad Cod PAYE

Taliadau treuliau

Mae'r taliadau treuliau'n ymddangos yn yr adran a elwir yn 'Eitemau sy'n lleihau eich swm di-dreth' ar eich Hysbysiad Cod PAYE - o dan y penawdau 'Taliadau treuliau trethadwy' a 'Ffôn'.

Gostyngiad treth ar dreuliau

Bydd unrhyw ostyngiad treth a gewch ar daliadau treuliau yn ymddangos yn y rhan a elwir yn 'Lwfansau a gostyngiadau'. Gallai cofnodion nodweddiadol gynnwys:

  • 'treuliau swydd cyfradd unffurf'
  • 'treuliau swydd'
  • 'tanysgrifiadau proffesiynol'

Taliadau treuliau a gostyngiad treth - enghraifft

Rydych wedi talu tanysgrifiadau proffesiynol o £210 i sefydliad cymeradwy. Mae'n rhaid i chi berthyn i'r sefydliad hwn ar gyfer eich swydd fel bod eich cyflogwr yn ad-dalu'r arian i chi:

  • mae cyfanswm eich lwfansau a'ch gostyngiadau yn £8,315 - sy'n cynnwys eich Lwfans Personol o £8,105 (y swm ar gyfer blwyddyn dreth 2012-2013) a gostyngiad treth o £210 ar gyfer eich 'tanysgrifiadau proffesiynol'
  • mae cyfanswm eich 'didyniadau' (symiau sy'n lleihau eich tâl di-dreth gan eu bod yn cyfri fel incwm trethadwy) yn £210 - sy'n cynnwys eich 'Taliad treuliau trethadwy' sef y swm y mae eich cyflogwr wedi'i ad-dalu i chi ar gyfer eich tanysgrifiadau proffesiynol
  • mae cyfanswm eich swm di-dreth yn £8,105 - yr un fath ag y byddai wedi bod pe na fyddech wedi cael y taliadau treuliau a gostyngiad treth yn y lle cyntaf

Felly, mae gennych incwm di-dreth o £8,105 a'ch cod treth yw 810L.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU