Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Os oes gennych fwy nag un cod treth

Os oes gennych chi nifer o ffynonellau cyflogaeth neu incwm pensiwn trethadwy drwy PAYE (Talu Wrth Ennill) ar yr un pryd, gall pethau fynd yn ddryslyd. Felly mae'n bwysig iawn eich bod yn gwirio eich codau treth yn ofalus i sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir.

Pryd gallech gael mwy nag un cod treth

Mae'n debygol y bydd gennych fwy nag un cod treth os oes gennych chi:

  • dwy neu fwy o swyddi ar yr un pryd
  • incwm o ddau neu fwy o bensiynau
  • incwm pensiwn a swydd

Byddwch yn gwybod os oes gennych chi fwy nag un oherwydd bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon 'Hysbysiad Cod PAYE' atoch ar gyfer pob swydd neu bensiwn. Bydd eich Hysbysiad Cod yn dweud wrthych beth yw eich cod treth a sut cafodd ei gyfrifo.

Deall codau treth o wahanol swyddi neu bensiynau

Dylech gael cod treth ar gyfer pob swydd neu bensiwn cwmni. Mae hwn yn rhoi gwybod i bob cyflogwr neu dalwr pensiwn pa lwfansau treth yr ydych yn eu cael. Ond dim ond i'ch prif swydd neu bensiwn y bydd eich Lwfans Personol - ac felly eich tâl di-dreth - yn berthnasol, fel arfer.

Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) rhoddir 'cod BR' i chi ar gyfer eich ail swydd neu bensiwn - bydd hyn yn golygu y byddwch yn talu treth cyfradd sylfaenol ar eich holl incwm gan y cyflogwr neu dalwr pensiwn hwn. Os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant) rhoddir 'cod D0' i chi ar gyfer eich ail swydd neu bensiwn a byddwch yn talu treth cyfradd uwch ar yr incwm hwnnw.

Gweler yr adran ddiweddarach 'Egluro cofnodion Hysbysiad Cod PAYE' i ddeall mwy am y codau hyn.

Os ydych chi’n talu treth gyfradd ychwanegol (50 y cant) cewch ‘god D1’ ar gyfer eich ail swydd neu bensiwn a byddwch yn talu’r dreth gyfradd ychwanegol ar yr incwm hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch yr adran ‘Os yw’ch incwm yn uwch na £150,000’.

Os mae’ch incwm yn uwch na £150,000

Ni chymrodd eich cod treth ar gyfer 2010-11 i ystyriaeth y gyfradd treth 50 y cant newydd (ac ni chafodd ei adlewyrchu ar eich Hysbysiad Cod PAYE). Mae hyn yn golygu os oedd gennych fwy nag un swydd neu bensiwn mae’n bosib nad oedd eich didyniadau treth yn gywir. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint o dreth y bydd angen i chi dalu pan fyddwch yn anfon eich 2010-11 Hunanasesiad treth i mewn. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd ychydig o dreth ychwanegol yn ddyledus gennych.

Bydd eich cod treth newydd yn cymryd i ystyriaeth y gyfradd dreth 50 y cant ac unrhyw ‘ostyngiadau a chywiriadau’ i gasglu’r swm cywir o dreth.
Os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth fel arfer, a’ch bod chi’n dod i wybod yn ystod y flwyddyn dreth bod arnoch angen llenwi un, dilynwch y ddolen isod i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Rhannu eich Lwfans Personol rhwng swyddi/pensiynau

Cyfraddau a lwfansau Treth Incwm

Gwirio ffigurau cyfoes ar gyfer lwfansau personol gan Gyllid a Thollau EM

Osgoi talu gormod o dreth os nad ydych yn talu treth ar eich prif swydd

Os nad ydych yn talu treth ar eich enillion o'ch prif swydd, ac os nad ydych yn defnyddio eich Lwfans Personol i gyd, gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM ddefnyddio'r hyn sy'n weddill yn eich ail swydd. Os na wnewch hyn, gallech dalu gormod o dreth yn y pen draw. Gallwch rannu eich Lwfans Personol ar draws nifer o swyddi neu bensiynau nes ei fod i gyd wedi'i ddefnyddio.

Enghraifft: mae eich Lwfans Personol yn £8,105 (blwyddyn dreth 2012-13) ac mae gennych incwm PAYE o ddwy swydd - incwm o £3,500 o'ch prif swydd ac incwm o £1,500 o'ch ail swydd. Gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM ddefnyddio £4,605 o'ch Lwfans Personol sydd heb gael ei ddefnyddio (£8,105 llai £3,500) o'ch prif swydd yn erbyn eich incwm o'ch ail swydd fel na fydd yn rhaid i chi dalu treth ar y naill incwm na'r llall.

Rhannu eich Lwfans Personol os ydych chi'n talu treth ar eich prif swydd

Gallwch ddewis rhannu eich Lwfans Personol ar draws mwy nag un swydd neu bensiwn hyd yn oed petai eich lwfansau fel arfer yn cael eu defnyddio i gyd drwy'r brif ffynhonnell incwm. Fodd bynnag, os gwnewch hyn, ni fydd cyfanswm y dreth a dalwch yn newid - ond efallai y bydd yn symlach i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus gennych yn erbyn un cyflog yn unig.

Enghraifft: mae eich Lwfans Personol yn £8,105 (blwyddyn dreth 2012-13) ac mae gennych incwm PAYE o ddwy swydd - incwm o £16,000 o'ch prif swydd ac incwm o £500 o'ch ail swydd. Gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM ddefnyddio £500 o'ch Lwfans Personol yn erbyn eich incwm o'ch ail swydd fel eich bod yn ei dderbyn yn ddi-dreth, a defnyddio'r £7,605 sy'n weddill yn erbyn eich incwm o'ch prif swydd.

Gwirio eich codau treth

Bydd eich cod treth yn dweud wrthych faint o lwfansau sydd gennych chi a beth ydynt. Gwiriwch fod y gwahanol lythrennau a rhifau yn eich codau treth yn gywir. Mae hyn yn bwysig dros ben os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn.

Egluro cofnodion Hysbysiad Cod PAYE cyffredin

Os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn, byddwch yn cael mwy nag un Hysbysiad Cod PAYE. Caiff cofnodion cyffredin a all ymddangos pan fydd gennych fwy nag un cod treth eu hegluro isod.

Cod BR

Byddwch yn gweld hwn ar Hysbysiad Cod PAYE ar gyfer ail swydd neu bensiwn neu rai ychwanegol os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol. Mae cod BR yn golygu eich bod yn talu treth ar 20 y cant ar eich holl incwm pensiwn neu enillion eilaidd neu ychwanegol gan fod eich Lwfans Personol di-dreth eisoes wedi'i ddefnyddio i gyd ar eich prif swydd neu bensiwn.

Er enghraifft, efallai eich bod yn cael £5,000 o ail bensiwn ac yn talu £1,000 mewn treth (20 y cant o £5,000).

Cod D0

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio cod D0 os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch a bod gennych fwy nag un swydd neu bensiwn. Mae cod D0 yn golygu eich bod yn talu treth ar 40 y cant ar eich holl incwm pensiwn neu enillion eilaidd neu ychwanegol gan eich bod eisoes wedi defnyddio eich lwfansau - gan gynnwys eich lwfans cyfradd sylfaenol - yn eich cod treth ar gyfer eich prif swydd neu bensiwn.

Er enghraifft, efallai eich bod yn ennill £15,000 yn eich ail swydd ac yn talu £6,000 mewn treth (40 y cant o £15,000).

Cod D1

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio cod D1 os ydych chi'n talu treth ar y gyfradd uwch a bod gennych fwy nag un swydd neu bensiwn. Mae cod D1 yn golygu eich bod yn talu treth ar 50 y cant ar eich holl incwm pensiwn neu enillion eilaidd neu ychwanegol gan eich bod wedi defnyddio eich lwfansau - gan gynnwys eich lwfans cyfradd sylfaenol - yn eich cod treth ar gyfer eich prif swydd neu bensiwn.

Er enghraifft, efallai eich bod yn ennill £20,000 yn eich ail swydd ac yn talu £10,000 mewn treth (50 y cant o £20,000).

Addasu i'r band 20 y cant

Gallech weld hyn:

  • os oes gennych ddwy neu fwy o swyddi ar yr un pryd
  • os nad yw eich incwm o'ch prif swydd (yr un lle'r ydych yn defnyddio eich lwfansau di-dreth) yn cyrraedd y band treth cyfradd uwch
  • os oes gennych y cod BR ar gyfer eich ail swydd ond bod eich incwm cyfunol o'ch prif swydd a'ch ail swydd yn golygu y dylech fod yn talu ychydig o dreth ar y gyfradd uwch

Enghraifft: mae gennych ddwy swydd ac rydych yn ennill £25,000 yn y ddwy ohonynt. Rydych yn talu treth cyfradd sylfaenol yn y ddwy swydd, gan fod y ddau gyflog ar wahân o fewn y band cyfradd sylfaenol. Fodd bynnag, mae'r incwm cyfunol - £50,000 - yn mynd â chi i'r band treth cyfradd uwch. Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'r addasiad i'r band 20 y cant i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth ychwanegol.

(Os ydych chi'n talu treth cyfradd uwch ar yr incwm o'ch prif swydd neu bensiwn, ni fydd angen yr addasiad - yn hytrach, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod D0 i chi ar gyfer yr ail swydd neu bensiwn a chaiff eich holl incwm ohono ei drethu ar y gyfradd uwch.) Os ydych chi’n talu treth gyfradd ychwanegol, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod D1 i chi ar gyfer eich ail swydd neu bensiwn a chaiff eich holl incwm ohono ei drethu ar y gyfradd uwch. Darllenwch yr adran ‘Os mae’ch incwm yn uwch na £150,000’.)

Enillion eraill (neu bensiwn)

Fe welwch hwn yn cael ei ddefnyddio gyda'ch prif swydd neu bensiwn. Mae'n dweud wrthych eich bod wedi defnyddio rhywfaint o'ch lwfansau di-dreth mewn swydd neu bensiwn arall.

Balans Lwfansau Treth

Fe welwch hwn yn cael ei ddefnyddio gyda'ch ail swydd neu bensiwn. Mae'n dweud wrthych eich bod yn defnyddio rhywfaint o'ch lwfansau di-dreth yn y swydd neu'r pensiwn dan sylw.

Os ydych yn teimlo bod eich cod treth yn anghywir

Os ydych yn teimlo bod eich cod treth yn anghywir, rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl, fel y gallant ei gywiro. Efallai y cewch rywfaint o dreth yn ôl - neu efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ychydig yn fwy.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU