Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau pan fyddwch yn gweithio gall ddigwydd eich bod yn talu gormod o Dreth Incwm. Gall hyn ddigwydd yn enwedig os byddwch yn newid swyddi'n aml neu fod gennych fwy nag un swydd ar yr un pryd. Os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth gallwch gymryd rhai camau syml er mwyn gwneud cais am ad-daliad.
Efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth:
Codau treth a Thalu Wrth Ennill (PAYE)
Cyhoeddir eich cod treth gan Gyllid a Thollau EM a chaiff ei seilio ar wybodaeth sydd gan Gyllid a Thollau am eich incwm a'ch hawl i lwfansau. Fe welwch y cod ar eich Hysbysiad Cod PAYE. Anfonir hwn atoch fel arfer cyn dechrau'r flwyddyn dreth. Efallai caiff ei anfon atoch ar adegau eraill os bydd rhywbeth wedi newid.
Nid yw pawb yn cael Hysbysiad Cod, ond gellir dod o hyd i’r cod ar eich P45 neu eich slip cyflog hefyd. Mae'n dweud wrth eich cyflogwr beth yw eich lwfansau llog di-dreth a faint o dreth i'w ddidynnu o'ch cyflog cyn i chi gael eich talu. Gelwir y ffordd hon o dalu treth yn Talu Wrth Ennill.
Os oes gennych amryw swyddi neu waith a'ch bod yn cael pensiwn, efallai bod gennych fwy nag un cod treth. Mae'n bwysig gwybod beth mae'ch cod treth yn ei olygu fel y gallwch wneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Bydd y modd y byddwch yn adhawlio treth a gafodd ei ordalu eleni a blwyddyn ddiwethaf yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os ydych yn gweithio
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM pam eich bod yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth. Efallai y bydd popeth sydd arnynt ei angen i wirio'ch hawliad ganddynt yn barod. Os na, cewch wybod pa ddogfennau i'w hanfon. Bydd unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus eleni yn cael ei dalu gyda'ch cyflog. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn ddiwethaf i chi.
Os ydych chi wedi dod yn ddi-waith neu wedi ymddeol
Os buoch chi'n gweithio ond eich bod wedi dod yn ddi-waith neu wedi ymddeol yn ddiweddar, darllenwch y canllaw isod i gael gwybod sut i hawlio eich ad-daliad treth.
Ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM gan gynnwys dogfennau perthnasol am eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, megis:
Byddant yn ymchwilio i'ch ymholiad, yn cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post.
Terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad treth drwy PAYE
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael y dreth yr ydych wedi ei ordalu yn ôl ar yr amod eich bod yn hawlio ar amser.
Terfynau amser ar gyfer ad-hawlio treth PAYE
Blwyddyn dreth | Daeth y flwyddyn dreth i ben ar | Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn: |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth wrth Hunanasesu, cliciwch ar y ddolen isod er mwyn cael gwybod sut i'w adhawlio.
Os oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi bydd Cyllid a Thollau EM yn ei ad-dalu un ai drwy:
Terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad treth drwy Hunanasesu
Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad yn cael eu dangos yn y tabl isod. Os nad ydych chi’n gwneud hawl o fewn y terfyn amser byddwch yn colli allan ar unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi. Ond os mae Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad gallwch gael amser ychwanegol.
Terfynau amser ar gyfer ad-hawlio treth drwy Hunanasesu
Blwyddyn dreth | Daeth y flwyddyn dreth i ben ar | Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Darparwyd gan HM Revenue and Customs