Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi ar incwm isel a'ch bod wedi prynu buddsoddiad blwydd-dal oes gallech fod yn talu Treth Incwm pan nad oes angen i chi wneud hynny. Os yw hyn yn wir, gallwch gofrestru er mwyn cael y llog yn ddi-dreth. Gallwch hawlio ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd gennych hefyd.
Os ydych chi wedi prynu blwydd-dal oes, bydd 20 y cant o dreth yn cael ei ddidynnu fel mater o drefn o'r elfen incwm y byddwch yn ei dderbyn ohoni. Fodd bynnag, os yw lefel eich incwm yn gyffredinol yn golygu nad ydych yn drethdalwr gallwch wneud cais i gael derbyn incwm blwydd-dal oes a brynwyd yn ddi-dreth.
Er mwyn hawlio bydd angen i chi lenwi ffurflen R89 Cais i dderbyn blwydd-dal heb dynnu treth. Os ydych chi'n dal blwydd-dal oes ar y cyd, mae angen i chi lenwi ffurflen R86 Cais i dderbyn blwydd-dal ar y cyd heb dynnu treth.
Anfonwch y ffurflen at bwy bynnag sy'n talu'ch blwydd-dal. Gallwch lwytho'r ffurflenni isod.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth ar eich blwydd-dal oes a brynwyd bydd angen i chi lenwi ffurflen R40 Ffurflen Ad-daliad Treth. Bydd rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn y credwch y bu i chi dalu gormod o dreth ynddi.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn cael y dreth yr ydych wedi ei ordalu yn ôl ar yr amod eich bod yn hawlio ar amser.
Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl
Mae’r terfynau amser ar gyfer hawlio ad-daliad yn cael eu dangos yn y tabl isod. Os nad ydych chi’n gwneud hawl o fewn y terfyn amser byddwch yn colli allan ar unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus i chi.
Blwyddyn dreth | Daeth y flwyddyn dreth i ben ar | Mae’n rhaid i chi hawlio erbyn: |
---|---|---|
2008-09 | 5 Ebrill 2009 | 5 Ebrill 2013 |
2009-10 | 5 Ebrill 2010 | 5 Ebrill 2014 |
2010-11 | 5 Ebrill 2011 | 5 Ebrill 2015 |
2011-12 | 5 Ebrill 2012 | 5 Ebrill 2016 |
Gall eich incwm a'ch lwfansau treth newid o flwyddyn i flwyddyn - ac yn ystod y flwyddyn. Felly efallai y gwelwch fod eich incwm yn cynyddu ac nad yw'ch lwfansau treth bellach yn ddigonol.
Os yw hyn yn digwydd, mae'n bwysig dweud wrth eich darparwr blwydd-dal yn syth, er mwyn iddynt ddechrau tynnu treth o'ch taliadau. Fel arall, efallai y bydd gennych fil treth ar ddiwedd y flwyddyn.
Er mwyn cael cymorth wrth adhawlio ar gyfer incwm blwydd-dal oes a brynwyd gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Blwydd-dal Ymddeol ar 0845 366 7868. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.
Os ydych chi’n ffonio o du allan i’r DU gallwch gysylltu â’r llinell gymorth ar +44 151 471 8436.
Ers Ebrill 2007 mae pob math arall o flwydd-dal ymddeol (pensiynau personol a ddechreuwyd cyn Gorffennaf 1988) wedi cael eu trethu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE) felly dylech fod yn talu'r swm cywir o dreth os oes unrhyw dreth yn ddyledus.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs