Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar flwydd-daliadau ymddeol

Ers Ebrill 2007 y mae’r ffordd rydych chi'n talu treth ar flwydd-dal ymddeol wedi newid. Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth, ceir dyddiadau cau ar gyfer hawlio gordaliadau yn ôl.

Beth yw blwydd-dal ymddeol?

Telir blwydd-daliadau ymddeol o Gontractau Blwydd-daliadau Ymddeol, sef math o gynllun pensiwn y gallai unigolion ei gymryd cyn 1 Gorffennaf 1988. Ar ôl y dyddiad hwn, disodlwyd hwy gan bensiynau personol, ond gall y rheini a ddechreuwyd cyn 1 Gorffennaf 1988 barhau nes i'r unigolyn ymddeol.

Sut oedd eich blwydd-dal ymddeol yn cael ei drethu cyn Ebrill 2007

Cyn 5 Ebrill 2007 câi pob blwydd-dal ymddeol ei dalu gyda’r dreth wedi’i thynnu ar y gyfradd Treth Incwm sylfaenol. Os oedd eich incwm yn ddigon isel i ddim talu treth byddech yn llenwi ffurflen R89 ‘Cais i gael blwydd-dal heb dynnu treth’.

Sut mae'ch blwydd-dal ymddeol yn cael ei drethu nawr

Ar 6 Ebrill 2007, newidiodd y system. Bellach, trethir pob blwydd-dal ymddeol – heblaw Blwydd-daliadau Oes a Brynwyd – drwy'r system Talu Wrth Ennill, yn union fel pensiynau personol neu bensiynau cwmni.

Sut mae'r system Talu Wrth Ennill yn gweithio os cewch flwydd-dal ymddeol

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth i ddarparwr eich blwydd-dal, a fydd yn dweud wrtho faint o dreth i'w thynnu cyn iddo eich talu. Efallai y bydd y cod treth yn gofyn am dynnu treth sy’n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych eisoes yn talu treth ar hyn mewn ffordd arall. Bydd y cod treth yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gan Gyllid a Thollau EM am eich oedran ac am eich incwm cyffredinol.

Cewch ffurflen Hysbysiad Cod P2 Talu Wrth Ennill yn dweud wrthych beth yw eich cod treth. Mae'n bwysig i chi gymryd golwg ar y ffurflen i wneud yn siŵr ei bod yn gywir – os ydych chi'n meddwl bod unrhyw wybodaeth yn anghywir gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM edrych arni eto a chewch ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth. Darllenwch erthyglau perthnasol dan 'Mwy o ddolenni defnyddiol' isod i gael gwybod mwy.

Ffurflen P60

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth cewch Dystysgrif Diwedd Blwyddyn P60. Bydd hon yn dangos swm eich blwydd-dal a'r dreth a dynnwyd. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Cadwch y P60 mewn man diogel rhag ofn y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth neu edrych faint o dreth rydych wedi'i thalu.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth ar Gontract Blwydd-dal Ymddeol

Os ydych chi'n poeni eich bod wedi talu neu yn talu'r swm treth anghywir ar Gontract Blwydd-dal Ymddeol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Cyllid a Thollau EM ar gyfer Contractau Blwydd-daliadau Ymddeol ar 0845 366 7868, sydd ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Os ydych chi’n ffonio o du allan y DU gallwch gysylltu â’r llinell gyswllt ar Ffôn + 44 151 471 8436.

Pan fyddwch yn ffonio'r llinell gymorth dylai'r wybodaeth ganlynol fod wrth law gennych:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu'ch cyfeirnod treth
  • manylion eich blwydd-dal
  • manylion unrhyw incwm arall a gewch, megis Pensiwn y Wladwriaeth neu incwm o fuddsoddiadau

Os byddai'n well gennych ysgrifennu, dyma'r cyfeiriad:

Cyllid a Thollau EM – Contractau Blwydd-daliadau Ymddeol (HMRC RACS)
Leicester and Northants LPO
Saxon House
1 Causeway Lane
Leicester
LE1 4AE

Y dyddiad cau ar gyfer hawlio ad-daliad treth

Os ydych chi wedi bod yn talu gormod o dreth gallwch hawlio ad-daliad treth am hyd at chwe blwyddyn dreth cyn belled â'ch bod yn gwneud yr hawliad erbyn 31 Ionawr tua diwedd y chweched flwyddyn dreth.

Er enghraifft, os byddwch yn gwneud hawliad cyn 31 Ionawr 2012, bydd gennych hawl i gael ad-daliad o Ebrill 2006 ymlaen. Os byddwch yn hawlio ar 1 Chwefror 2012, ni chewch ddim ad-daliad sy'n ddyledus i chi cyn Ebrill 2006, a dim ond yn ôl i Ebrill 2007 y bydd eich cais yn mynd.

Sut y bydd eich ad-daliad treth yn cael ei dalu

Ar gyfer hawliadau am dreth a or-dalwyd ar ôl Ebrill 2007, cewch eich ad-daliad drwy'r system Talu Wrth Ennill.

Ar gyfer hawliadau am dreth a dalwyd cyn Ebrill 2007 bydd ad-daliad yn cael ei anfon i chi. Cofiwch, efallai y bydd angen i chi anfon eich datganiadau blynyddol at Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi.

Treth a blwydd-daliadau oes a brynwyd

Mae blwydd-daliadau oes a brynwyd yn talu incwm wedi'i warantu am oes a gellir eu prynu ag arian o unrhyw ffynhonnell, nid incwm pensiwn yn unig.

Os ydych chi'n cael blwydd-dal oes a brynwyd, mae'n debyg y bydd yn cael ei dalu i chi ar ôl i'r dreth gael ei thynnu ohono ar y gyfradd sylfaenol. Os nad ydych chi'n meddwl y dylech fod yn talu treth arno – neu os ydych yn meddwl y dylech fod yn talu llai o dreth – gan eich bod ar incwm isel, gallwch hawlio ad-daliad. Dilynwch y dolenni i gael gwybod mwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU