Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno cynnwys pensiwn yn eich ewyllys, neu os cewch chi bensiwn gan rywun sydd wedi marw, efallai y bydd angen talu treth. Mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau unigol ac ar y math o bensiwn neu bensiynau.
Dim ond i chi y caiff Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ei dalu, ac ni ellir ei drosglwyddo i rywun arall pan fyddwch chi'n marw. Fodd bynnag, os gwnaethoch chi ohirio cael eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gan eich cymar neu bartner sifil sy’n goroesi'r hawl i ran o’r swm a ohiriwyd gennych y gwnaethoch ei gronni Pensiwn hwnnw.
Os ydych chi wedi cyfrannu at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gall eich cymar neu bartner sifil gael rhywfaint o’r pensiwn ychwanegol hwn ar ôl i chi farw. Yr enw blaenorol ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth oedd Cynllun Pensiwn ar Sail Enillion y Wladwriaeth (SERPS) neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth.
Bydd unrhyw gynnydd yn eich incwm yr ydych yn derbyn o ganlyniad i farwolaeth eich cymar neu bartner sifil yn cael ei ystyried yn rhan o’ch incwm trethadwy ar ôl ymddeol.
Gan ddibynnu ar reolau'ch pensiwn, mae'n bosib y bydd nifer o fuddion yn daladwy pan fyddwch yn marw, gan gynnwys:
Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn talu buddion marwolaeth 'yn ôl disgresiwn', ac felly, ni fyddant yn rhan o'r ystad at ddibenion Treth Etifeddu. Mae ‘yn ôl disgresiwn’ yn golygu bod y darparwr pensiwn yn rhydd i benderfynu i bwy y mae am dalu’r buddion marwolaeth. Yn aml, bydd yn dilyn dymuniadau’r sawl a fu farw, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny. Os nad yw'r taliad un-swm yn ddewisol, efallai y bydd rhaid talu Treth Etifeddu. Bydd eich darparwr pensiwn yn gallu rhoi manylion am eich pensiwn i chi. Ceir crynodeb isod o enghreifftiau eraill o atebolrwydd treth.
Mae'r rhan fwyaf o bensiynau cwmni yn darparu budd ‘Marw tra bo rhywun yn Dal i Weithio’, sy'n debyg i bolisi yswiriant bywyd. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn marw cyn i chi ddechrau cael eich pensiwn cwmni, bydd unigolyn o'ch dewis (a elwir yn 'fuddiolwr') yn cael taliad un-swm.
Gellir talu'r arian heb dynnu Treth Incwm ohono os nad yw'n fwy na'r 'lwfans oes' sydd ar gael i ddeiliad y pensiwn (£1.5 miliwn ym mlwyddyn dreth 2012-13). Bydd rhaid talu 55 y cant o dreth ar unrhyw swm sy’n uwch na’r lwfans oes. Y buddiolwr fydd yn talu'r dreth hon.
Os byddwch chi'n marw tra byddwch yn dal i weithio, mae rhai cynlluniau pensiwn yn talu pensiwn dibynyddion. Mae pensiwn dibynyddion yn cyfrif fel incwm trethadwy i'r buddiolwr.
Os byddwch yn marw ar ôl dechrau cael eich pensiwn cwmni, bydd unrhyw daliad un-swm gwarchod pensiwn neu warchod blwydd-dal a delir (fel rhan o'r budd marwolaeth) ar ôl i chi farw yn cael ei drethu fel taliad un-swm yn unol â chyfradd arbennig ar gyfer buddion marwolaeth. Y gyfradd Dreth Incwm yw:
Gweinyddwr y cynllun fydd yn talu’r dreth.
Os darperir pensiwn i ddibynnydd, mae hyn yn cyfrif fel incwm trethadwy ar gyfer y dibynnydd hwnnw.
Os byddwch yn marw cyn cael unrhyw fuddion, fel arfer bydd y buddion marwolaeth yn cael eu talu fel taliad un-swm. Mae hwn fel arfer yn cynnwys adenillion y gronfa bensiwn ynghyd ag enillion o unrhyw gynllun yswiriant bywyd.
Os yw’r taliad un-swm – yn ogystal â gwerth unrhyw fuddion o gynllun pensiwn cofrestredig arall – yn fwy na’r Lwfans Oes (£1.5 miliwn ym mlwyddyn dreth 2012-13), bydd y swm dros ben yn cael ei drethu ar gyfradd o 55 y cant. Y buddiolwr fydd yn gorfod talu’r dreth hon.
Hefyd, yn hytrach na chael buddion marwolaeth fel taliad un-swm, gellir eu defnyddio i ddarparu pensiwn i ddibynyddion. Os darperir pensiwn i ddibynnydd, mae hyn yn cyfrif fel incwm trethadwy ar gyfer y dibynnydd hwnnw.
Os byddwch yn marw ar ôl cael buddion, bydd unrhyw fuddion marwolaeth a delir fel incwm pensiwn i ddibynnydd yn cael eu trethu fel incwm yn y ffordd arferol.
Os oedd y cynllun pensiwn yn darparu taliad un-swm, bydd y taliad hwn yn cael ei drethu ar y cyfraddau canlynol:
Gweinyddwr y cynllun fydd yn talu’r dreth hon.
Yr oedd Pensiynau wedi’u Sicrhau mewn Ffordd Arall ar gael o 6 Ebrill 2006 fel opsiwn arall ar wahân i brynu blwydd-dal erbyn y byddwch yn 75 oed.
Yr oedd Pensiwn wedi’i Sicrhau mewn Ffordd Arall yn eich galluogi i fuddsoddi eich cynilion pensiwn ac i dynnu incwm o’ch cronfa o fewn cyfyngiadau penodol y cytunwyd arnynt fel rhan o delerau’r Pensiwn hwnnw. Yr oedd yr incwm hwn yn cael ei drethu fel incwm pensiwn yn y ffordd arferol.
Ar 6 Ebrill 2011 daeth Pensiynau wedi’u Sicrhau mewn Ffordd Arall i ben a ddaeth yn fath o Bensiwn Tynnu Incwm (drawdown pension).
Ar gyfer marwolaethau ar 6 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny hyd at (ac yn cynnwys) 5 Ebrill 2011, fel arfer ni fydd rhaid talu treth ar unrhyw gronfeydd Pensiynau Wedi’u Sicrhau mewn Ffordd Arall os oes un o’r canlynol yn berthnasol:
Fodd bynnag, bydd Treth Incwm yn cael ei thynnu o bensiwn y dibynnydd yn y ffordd arferol.
Ond, os bydd unrhyw un o’r cronfeydd yn cael eu trosglwyddo at ddibenion etifeddu – er enghraifft, i drosglwyddo cyfalaf nas defnyddiwyd ar ôl y farwolaeth i’r plant a’r wyrion – bydd rhaid talu Treth Incwm ar gyfradd o hyd at 70 y cant. Caiff rhywfaint o’r swm hwn ei dalu gan y sawl a fydd yn ‘etifeddu'r’ arian, a rhywfaint gan weinyddwr y cynllun.
Mae'n bosib y bydd rhaid talu Treth Etifeddu ar yr arian hefyd. Bydd unrhyw Dreth Etifeddu ar Bensiynau wedi'u Sicrhau mewn Ffordd Arall yn cael ei chyfrifo ar ôl gosod gweddill ystad y sawl a fu farw yn erbyn y trothwy Treth Etifeddu. Os oes rhywfaint o’r trothwy heb ei ddefnyddio o hyd, bydd rheolau Treth Etifeddu arbennig yn berthnasol.