Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael trefn ar faterion treth person ar ôl iddo/iddi farw

Pan fydd rhywun yn marw, mae'n bwysig cael trefn ar eu materion treth ac Yswiriant Gwladol cyn gynted ag y bo modd. Efallai bod treth i'w thalu neu ad-daliad yn ddyledus. Y 'cynrychiolydd personol' (hynny yw, yr ysgutor neu'r gweinyddwr) sy'n rhoi trefn ar faterion treth yr ymadawedig, yn ogystal â gweddill yr ystâd.

Cysylltu â Swyddfa Dreth yr ymadawedig

Pan fydd rhywun yn marw, bydd angen i'r cynrychiolydd personol gysylltu â Swyddfa Dreth yr ymadawedig cyn gynted ag y bo modd. Bydd y Swyddfa Dreth yn dweud wrthych beth i’w wneud ac yn anfon ffurflenni treth perthnasol atoch.

Efallai y gwelwch fanylion Swyddfa Dreth yr ymadawedig ymhlith ei bapurau. Os na, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth agosaf neu Ganolfan Ymholiadau Cyllid a Thollau EM gan roi enw a chyfeiriad yr ymadawedig ac, os oes modd, ei rif Yswiriant Gwladol.

Ffurflenni treth y bydd angen ichi eu llenwi

Os oedd y person yn talu treth trwy PAYE, bydd ei Swyddfa Dreth yn anfon ffurflen R27 'Potential repayment to the estate' atoch i'w llenwi. Gellir llwytho'r ffurflen hon isod hefyd.

Os oeddynt yn talu treth trwy Hunanasesiad, gallwch ddewis llenwi ffurflen R27 yn llawn - neu yn rhannol ac wedyn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad yn syth neu ar ddiwedd y flwyddyn dreth. (Os dewiswch lenwi ffurflen R27 yn llawn, mae'n bosibl y bydd y Swyddfa Dreth dal angen ichi lenwi ffurflen dreth yn ddiweddarach.)

Llenwi Ffurflen R27

Defnyddir ffurflen R27 i gyfrifo a oes unrhyw dreth yn ddyledus neu a oes ad-daliad yn ddyledus. Rhaid i'r cynrychiolydd personol ei llofnodi.

Mae'r ffurflen yn gofyn am incwm ac enillion cyfalaf yr ymadawedig, gan gynnwys:

  • gwaith cyflogedig
  • incwm arall a enillir
  • pensiwn y wladwriaeth a phensiynau eraill
  • blwydd-daliadau
  • budd-daliadau
  • llog banc a chymdeithas adeiladu
  • incwm trethadwy arall, megis rhent o eiddo
  • difidendau'r DU a chredydau treth

Llenwi'r ffurflen dreth Hunanasesu

Mae nodiadau cymorth yn dod gyda'r ffurflen dreth Hunanasesu. Mae'r wybodaeth y bydd yn rhaid i chi ei darparu'n debyg i'r hyn y mae'n rhaid ei darparu ar ffurflen R27, ond gofynnir am y canlynol hefyd mewn perthynas â'r ymadawedig:

  • enillion cyfalaf
  • benthyciadau myfyrwyr sydd ganddo/i heb eu talu
  • taliadau sy'n gymwys i gael ad-daliad treth

Dyddiadau olaf derbyn ffurflenni treth

Mae angen ichi ddychwelyd y ffurflen dreth erbyn yr hwyraf o'r canlynol:

  • 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi
  • tri mis a saith niwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen i chi

Y naill ffordd neu'r llall, bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo treth yr ymadawedig ichi os ydych yn dymuno hynny. Ond os oes treth yn ddyledus, rhaid i chi gofio y bydd angen ichi wneud unrhyw daliad erbyn y dyddiadau cau uchod. Dim ond os derbyniant y ffurflen erbyn y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol y gall Cyllid a Thollau EM sicrhau y gallant roi gwybod ichi faint sy'n ddyledus ar amser a rhoi digon o amser ichi dalu:

  • 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae'n berthnasol iddi
  • dau fis ar ôl cyflwyno'r ffurflen i chi

Os byddwch yn anfon y ffurflen yn ddiweddarach a heb gyfrifo'r dreth, gallwch amcangyfrif unrhyw dreth sy'n ddyledus a chynnwys taliad os yw hynny'n berthnasol. Ond os yw hwn yn llai na'r swm gwirioneddol sy'n ddyledus, byddai llog yn daladwy ar y gwahaniaeth os caiff ei dderbyn ar ôl y dyddiadau cau terfynol. Oni wneir unrhyw daliad erbyn y dyddiad cau terfynol ac os canfyddir bod treth yn daladwy, efallai y byddwch yn gorfod talu cost taliad hwyr yn ogystal â llog.hwyr yn ogystal â llog.

Ffurflen R40

Ffurflen arbennig yw R40 ar gyfer hawlio ad-daliadau treth. Gallwch lenwi'r ffurflen hon yn syth - neu'n ddiweddarach pan fyddwch yn gwybod bod ad-daliad yn bendant yn ddyledus. Gellir cael y ffurflen gan y Swyddfa Dreth neu gallwch ei llwytho isod.

Cysylltu â banciau a chymdeithasau adeiladu

Mae'n bwysig dweud wrth fanciau a chymdeithasau adeiladu cyn gynted ag y bo modd bod deilydd y cyfrif wedi marw oherwydd:

  • bod unrhyw log a delir ar ôl dyddiad y farwolaeth yn eiddo i ystâd yr ymadawedig
  • bydd hawl person nad yw'n talu treth i dderbyn llog di-dreth yn dod i ben; o ddyddiad y farwolaeth bydd y llog ar gynilion yn cael ei drethu

Bydd treth yn cael ei didynnu o'r cyfrif hyd nes y rhoddir trefn ar faterion yr ystâd.

Beth sy'n digwydd gyda lwfansau Treth Incwm?

Bydd yr ymadawedig yn cael ei lwfans personol di-dreth llawn ar gyfer blwyddyn ei farwolaeth. Bydd hefyd yn cael hawl blwyddyn lawn i unrhyw lwfans person dall neu bâr priod yr oedd ganddo'r hawl iddynt am y flwyddyn lawn.

Os nad oedd wedi ennill digon i ddefnyddio swm llawn y lwfansau hyn, gall y cynrychiolydd personol drefnu i'w trosglwyddo i'r partner priod neu sifil sydd ar ôl. Dylent ofyn i'w Swyddfa Dreth am y ffurflenni i wneud hyn.

Yswiriant Gwladol

Os oedd yn gyflogedig

Os oedd yr ymadawedig yn gyflogedig nid oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn daladwy ar unrhyw enillion a dalwyd gan ei gyflogwr ar ôl dyddiad ei farwolaeth.

Os oedd yn hunangyflogedig

Os oedd yr ymadawedig yn hunangyflogedig, bydd angen ichi gysylltu â'r Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn iddynt sicrhau y gellir canslo trefniadau Debyd Uniongyrchol neu drefniadau eraill ar gyfer casglu ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 915 4655 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.00 am i 5.00 pm).

Ymdrinnir ag unrhyw gyfraniadau Dosbarth 4 yn awtomatig trwy'i ffurflen dreth Hunanasesu.

Treth Enillion Cyfalaf (TEC)

Fel y cynrychiolydd personol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu TEC os gwneir arian o werthu eiddo neu eiddo personol yr ymadawedig. Fodd bynnag, cewch eich trin fel pe baech wedi cael yr asedau hynny am eu gwerth ar y farchnad ar y dydd y bu farw'r ymadawedig, felly nid oes angen talu TEC arnynt oni wnaethoch eu gwerthu am fwy na'r gwerth hwn - a dim ond os yw cyfanswm yr enillion yn uwch na'r cyfyngiad a elwir yn 'swm eithriedig blynyddol'. I weld beth yw cyfraddau'r swm eithriedig blynyddol a'r dreth enillion cyfalaf ac i gael gwybod sut i gyfrifo TEC a allai fod yn ddyledus, defnyddiwch y ddolen TEC isod.

Os byddwch yn trosglwyddo ased i fuddiolwr dan delerau ewyllys yr ymadawedig neu reolau diewyllysedd (lle nad oes ewyllys), caiff y buddiolwr ei drin fel pe bai wedi cael yr ased am ei werth ar y farchnad ar y dyddiad y bu farw'r ymadawedig, ac nid oes angen i chi dalu TEC arno.

Bydd cynrychiolydd personol yn cael yr un faint o swm eithriedig blynyddol ag unigolyn am y flwyddyn dreth y bu farw'r ymadawedig, ac am y ddwy flynedd ddilynol (ni cheir dim ar ôl hynny). Y swm eithriedig blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2006-2007 yw £8,800. Codir y TEC ar y raddfa sy'n berthnasol i ymddiriedolaethau - 40 y cant ar hyn o bryd.

Gofynnwch i Gyllid a Thollau EM sut y dylech ddatgan unrhyw enillion y gellid gorfod talu TEC arnynt. Efallai na fydd yn rhaid llenwi ffurflen Hunanasesu os nad oedd yr ymadawedig wedi gwneud hynny.

Delio gyda Threth Etifeddu

Mae Treth Etifeddu'n daladwy os yw'r ystâd - yr arian, eiddo ac eiddo personol a adawyd gan yr ymadawedig - yn fwy na gwerth penodol (ar ôl eithriadau rhag talu'r dreth). Rhaid i'r ysgutor neu weinyddwr sicrhau bod y dreth yn cael ei thalu. Os oes Treth Etifeddu'n daladwy, fel arfer bydd angen ichi dalu o leiaf rhywfaint o hwn cyn y gallwch wneud cais am brofiant. Darllenwch fwy yn ein herthyglau cysylltiedig isod.

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch

Efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi ofyn i gyfreithiwr neu gyfrifydd am gyngor a chymorth. Bydd rhaid talu am y gwasanaeth hwn. Gall swyddfa dreth yr ymadawedig hefyd gynnig cyngor penodol i chi ynghylch beth sydd angen i chi ei wneud. Gallwch hefyd gael help am ddim gan Gyngor ar Bopeth a chan y 'Llinell Gymorth Treth a Phrofiant' (am faterion yn ymwneud â Threth Etifeddu) ar 0845 302 0900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Allweddumynediad llywodraeth y DU