Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fydd rhywun yn marw, bydd unrhyw arian sy'n ddyledus iddyn nhw'n cael ei gyfri'n rhan o'u 'hystâd' (popeth sy'n eiddo iddynt neu sy'n ddyledus iddynt ar ôl tynnu unrhyw ddyled sydd ganddyn nhw). Cyfrifoldeb yr ysgutor (os oes ewyllys) neu weinyddwr (os nad oes ewyllys) yw casglu dyledion sy'n ddyledus i'r sawl a fu farw.
Os oedd arian yn ddyledus i'r sawl a fu farw (er enghraifft, am rywbeth yr oedden nhw wedi'i werthu i rywun) a bod cytundeb ysgrifenedig, mae'n bosib y gall yr ysgutor ar ran yr ystâd fynnu bod hwn yn cael ei dalu. Fodd bynnag, os mai trefniant anffurfiol oedd dan sylw, fe all hyn fod yn anodd ei brofi, a go brin y bydd modd adfer y ddyled.
Os rhoddwyd benthyg yr arian i rywun ar sail anffurfiol cyn iddyn nhw farw - hynny yw heb drwydded gan y Swyddfa Masnachu Teg i ddarparu credyd - does dim rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sawl sydd wedi cael benthyg yr arian i'w dalu'n ôl.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd adfer dyled bersonol sy'n ddyledus i rywun a fu farw, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol (ewch i 'ble i gael help a chyngor').
Mae'r sefyllfa gyfreithiol gyda golwg ar ddyledion busnes sy'n ddyledus i'r sawl a fu farw - gan gynnwys cytundebau rhent a hur bwrcas - yn dibynnu ar ai ym mherchnogaeth unigolyn, partneriaeth ynteu gwmni y mae'r busnes. Gall cael trefn ar ddyledion busnes fod yn gymhleth, felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol (ewch i 'ble i gael help a chyngor').
Mae cyngor annibynnol am adfer dyledion ar gael am ddim gan nifer o gyrff megis Cyngor ar Bopeth (CAB), Age Concern a'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (GCC).