Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych wedi cael eich enwebu yn gynrychiolydd personol i rywun, bydd angen ichi brisio'r holl asedau (eiddo, eiddo personol ac arian) yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt, er mwyn cyfrifo faint o Dreth Etifeddu sy'n ddyledus. Mae Treth Etifeddu'n daladwy dim ond os yw ystâd y person ymadawedig werth fwy na £312,000 (blwyddyn dreth 2008-2009).
Bydd angen i chi brisio asedau ystâd yr ymadawedig cyn gwneud cais i'r Gwasanaeth Llys am gael ysgwyddo rheolaeth dros ei ystâd (sef 'gwneud cais am brofiant' neu weithiau 'wneud cais am grant cynrychiolaeth / cadarnhau'). Os oes Treth Etifeddu i'w thalu ar yr ystâd, ni roddir profiant fel arfer hyd nes y bo rhywfaint o leiaf o'r dreth wedi'i dalu.
Mae gwahanol ffurflenni i'w llenwi, yn dibynnu ar werth yr ystâd. Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflenni treth perthnasol, bydd angen ichi hefyd lenwi'r ffurflen brofiant berthnasol; a ddangosir isod hefyd. Gallwch ddysgu mwy am sut i wneud cais am brofiant yn ein herthygl gysylltiedig.
Fe welwch ddolenni i'r ffurflenni hyn isod.
Y wlad lle roedd yr ymadawedig yn byw |
Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol nad oes Treth Etifeddu i'w thalu ('ystadau eithriedig') |
Ffurflenni gofynnol os yw'n debygol y bydd Treth Etifeddu i'w thalu |
---|---|---|
Cymru neu Loegr |
Ffurflen gais am brofiant PA1 Ffurflen Treth Etifeddu IHT205 |
Ffurflen gais am brofiant PA1 Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 Ffurflen IHT421 'Crynodeb profiant’ |
Yr Alban |
Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') a ffurflen C5 os bu farw ar neu cyn 6 Ebrill 2004; fel arall ffurflen C1 yn unig |
Ffurflen C1 ('Rhestr Eiddo') Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 |
Gogledd Iwerddon |
Ffurflen Treth Etifeddu IHT205 yn unig |
Ffurflen Treth Etifeddu IHT400 Ffurflen IHT421 'Crynodeb profiant' |
Mae ffurflenni atodol ychwanegol gyda IHT400. Defnyddiwch nodiadau cymorth IHT400 i'ch helpu chi benderfynu pa rai y bydd angen ichi eu llenwi.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid talu'r Dreth Etifeddu o fewn chwe mis i ddiwedd y mis pryd y bu farw'r ymadawedig, fel arall bydd llog yn cael ei godi ar y swm sy'n ddyledus.
Gellir gohirio treth ar rai asedau, gan gynnwys tir ac adeiladau (gan gynnwys cartref yr ymadawedig) a'i thalu mewn rhandaliadau cyfartal dros 10 mlynedd, ond codir llog yn y rhan fwyaf o achosion.
Gallwch dalu'r Dreth Etifeddu sy'n ddyledus gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:
Unwaith i chi dalu'r holl Dreth Etifeddu (ac unrhyw log sy'n ddyledus), gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM roi 'tystysgrif clirio' i chi i gadarnhau nad oes mwy o dreth i'w thalu (yn amodol ar rai amodau). I ofyn am y dystysgrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen IHT30. Gallwch ofyn am y dystysgrif hefyd os ydych yn talu trwy randaliadau.
Os bu farw'r person o fewn saith mlynedd i roi rhodd, neu drosglwyddo asedau i gwmni neu ymddiriedolaeth dewisol, bydd yr asedau hynny'n cael eu cyfrif fel rhan o'r ystâd ac efallai y bydd Treth Etifeddu'n ddyledus arnynt. Os oes Treth Etifeddu'n ddyledus, y person neu'r 'trosglwyddai' a dderbyniodd y rhodd neu'r asedau sydd fel arfer yn gorfod talu'r Dreth Etifeddu. Bydd unrhyw Dreth Etifeddu a dalwyd adeg trosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth neu gwmni yn cael ei hystyried. Byddai angen i'r cynrychiolydd personol adael i'r bobl berthnasol wybod os oes Treth Etifeddu'n ddyledus.
I weld y mathau o ymddiriedolaeth mae’r rheolau hyn yn berthnasol iddynt, darllenwch ein herthygl ynghylch trosglwyddiadau oes isod. Hefyd gallwch ddarllen mwy ynghylch Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau neu roddion oes ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu: 0845 3020 900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).