Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn etifeddu eiddo, rhaid gwneud rhai penderfyniadau - efallai y byddwch am ei werthu, ei rentu neu fyw ynddo. Bydd angen i chi gael gwybod hefyd a oes unrhyw dreth i'w thalu ar yr eiddo. Os ydych yn etifeddu rhan o eiddo, bydd rhaid i chi wneud penderfyniadau ar y cyd gyda'r perchennog neu berchnogion eraill.
Gallwch etifeddu eiddo (neu ran o un) mewn tair ffordd
Beth bynnag oedd y sefyllfa berchnogaeth, mae gwerth cyfran yr ymadawedig yn cael ei gyfrif fel rhan o'i ystâd at ddibenion Treth Etifeddu.
Mae ein herthyglau cysylltiedig yn trafod hyn yn fanylach, ond dyma rai pwyntiau allweddol i'w hystyried:
Os ydych yn etifeddu rhan o eiddo a bod perchennog arall yn dal i fyw ynddo, bydd angen i chi gytuno gyda'ch gilydd a all ef/hi barhau i fyw yno ac o dan ba delerau (efallai y bydd ei hawl i aros yno wedi'i bennu yn yr ewyllys) neu a fydd yr eiddo'n cael ei werthu.
Os ydych yn etifeddu eiddo gyda thenant ynddo, mae gennych gyfrifoldebau fel landlord. Bydd rhaid ystyried eu hawliau cyfreithiol os ydych am werthu'r eiddo.
Os oes unrhyw rai o'r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, dylech ymgynghori â chyfreithiwr.
Unwaith i'r eiddo drosglwyddo i chi, gallwch gofrestru'ch perchnogaeth gyda'r Gofrestrfa Tir. Does dim rhaid i chi wneud hyn onid yw'r eiddo'n cael ei werthu neu ei forgeisio, ond hwn fydd yn rhoi'r prawf gorau o berchnogaeth. Bydd hefyd yn gwneud pethau'n symlach wrth ddelio gyda'r eiddo yn y dyfodol.
Talu Treth Enillion Cyfalaf
Mae Treth Enillion Cyfalaf yn cael ei thalu pan fydd rhywun yn gwneud 'enillion' (elw) uwchben lefel benodol wrth werthu asedau. Fodd bynnag, pan fydd rhywun yn marw, nid oes rhaid talu'r dreth ar unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo hyd at ddyddiad y farwolaeth.
Os byddwch yn ei werthu'n ddiweddarach, efallai y bydd yn rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw ers dyddiad y farwolaeth - ond ni fydd hyn fel arfer yn berthnasol os ydych yn gwerthu eiddo a etifeddwyd yr ydych wedi bod yn byw ynddo fel eich prif gartref ers i chi ei etifeddu.
Os penderfynwch gadw a meddiannu fel cartref eich eiddo'ch hun ac eiddo a etifeddwyd, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth os ydych am enwebu un fel eich prif gartref. Fel arfer nid oes raid talu Treth Enillion Cyfalaf ar elw a wnewch o werthu'ch prif gartref, ond bydd rhaid ei thalu ar elw a wneir o werthu cartref arall. Oni fyddwch wedi gwneud enwebiad, a'ch bod yn gwerthu un eiddo'n ddiweddarach, bydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried yr holl ffeithiau i benderfynu ai'r eiddo hwnnw oedd eich prif gartref mewn gwirionedd.
Gallwch newid eich meddwl yn ddiweddarach ynghylch pa un yw eich prif gartref enwebedig, ond mae'n rhaid i chi hysbysu'r Swyddfa Dreth. Mae cyfyngiadau amser yn berthnasol.
Os ydych yn etifeddu eiddo gyda morgais, chi fydd yn gyfrifol am y taliadau misol er nad ydych yn byw yno. Oni wneir y taliadau, gellid adfeddiannu'r eiddo a'i werthu i dalu'r morgais.
Os ydych yn poeni am daliadau morgais, mae'n bwysig cael cyngor yn syth. Gall cynghorydd eich helpu gyda'ch opsiynau a/neu negodi gyda'ch benthyciwr.
Os penderfynwch osod yr eiddo ar rent, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud o incwm y rhent. Bydd rhaid i chi hefyd gydymffurfio â'r cyfreithiau perthnasol ar ddiogelwch yr eiddo a rhywfaint o'r cynnwys.
Mae ymddiriedolaeth yn ffordd o ddal a rheoli arian neu eiddo ar gyfer pobl nad ydynt yn barod neu nad ydynt yn gallu rheoli'r arian neu'r eiddo eu hunain. Os gadewir eiddo i chi mewn ymddiriedolaeth, fe'ch gelwir 'y buddiolwr'. Yr 'ymddiriedolwr' yw perchennog cyfreithiol yr eiddo. Maent yn gyfreithiol-rwym i ddelio gyda'r eiddo yn ôl cyfarwyddiadau'r ymadawedig yn ei ewyllys.
Gall etifeddu eiddo fod yn gymhleth, ac felly mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.
Gallwch hefyd gael cyngor di-dâl ac annibynnol gan nifer o sefydliadau megis Cyngor Ar Bopeth (CAB)