Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib y gallwch gael taliad untro neu daliadau rheolaidd os ydych wedi cael profedigaeth.
Cyfandaliad untro yw'r Taliad Profedigaeth, ac fe'i seilir ar gyfraniadau yswiriant gwladol (YG) eich diweddar ŵr neu'ch diweddar wraig. Arferid ei alw'n Daliad Gweddw.
Taliad rheolaidd yw'r Lwfans Profedigaeth, a delir am 52 wythnos ar ôl profedigaeth. Fe'i seilir ar gyfraniadau yswiriant gwladol (YG) eich diweddar ŵr neu'ch diweddar wraig. Arferid ei alw'n Bensiwn Gweddw.
Mae Lwfans Rhiant Gweddw yn daliad rheolaidd y mae’n bosib y gallech ei gael os ydych yn rhiant sydd wedi colli eich gŵr, gwraig neu bartner sifil a bod gennych blentyn neu berson ifanc (16 neu dan 20 oed) sy’n dibynnu arnoch a’ch bod yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Arferid ei alw’n Lwfans Mam Weddw.
Dim ond yng Nghymru, Lloegr a'r Alban y gellir cael y Taliad Profedigaeth a'r Lwfans Profedigaeth a Lwfans Rhiant Gweddw.
Mae’r ddolen Budd-daliadau Profedigaeth isod yn darparu mwy o wybodaeth ar y taliadau a lwfansau hyn.
Gallwch lwytho becyn Budd-daliadau Profedigaeth mewn ffurf PDF. Mae nodiadau gyda’r ffurflen i’ch helpu i’w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.
Dylech wneud cais ar unwaith. Os na wnewch chi hyn, efallai y byddwch chi'n colli eich budd-dal.
Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld y ffurflen. Ceir gwybodaeth am sut i lwytho hwn am ddim ar banel de'r dudalen hon.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes