Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â materion ariannol ar ôl profedigaeth: dogfen gwirio

Pan fydd rhywun yn marw, yr 'ysgutor' (os oes ewyllys) neu'r 'gweinyddwr' (os nad oes ewyllys) fel arfer sy'n cael trefn ar eu materion ariannol ac wedyn yn dosbarthu'r hyn sy'n weddill yn unol â'r ewyllys neu gyfreithiau diffyg ewyllys. Mewn rhai achosion, ni fydd angen ysgutor na gweinyddwr.

Pwy all eich helpu chi?

Os ydych yn gweithredu fel ysgutor neu weinyddwr, doeth fyddai siarad â chyfrifydd a chyfreithiwr yr ymadawedig os oes ganddo un.

Pa un a ydych yn cael cymorth gan gyfreithiwr neu beidio, er mwyn delio gyda materion yr ymadawedig a chael mynediad at yr arian, fel arfer bydd angen ichi wneud cais i'r Gofrestrfa Brofiant am 'Grant Profiant' neu 'Lythyrau Gweinyddu'.

Amserlenni

Mae gennych flwyddyn o ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig i gael trefn ar yr ystâd cyn dosbarthu'r asedau. Ar ôl blwyddyn, efallai y byddwch yn gorfod talu llog ar unrhyw asedau nad ydynt wedi cael eu dosbarthu.

Cofiwch fod yn rhaid talu pob bil, dyled a threth cyn y gallwch rannu gweddill arian, eiddo ac eiddo personol yr ymadawedig.

Y dogfennau ariannol y bydd eu hangen arnoch

Mae rhai o ddogfennau'r ymadawedig y bydd angen ichi ddod o hyd iddynt yn cynnwys:

  • materion treth ac Yswiriant Gwladol
  • tystysgrifau a chyfrifon banc, cymdeithas adeiladu a chynilo
  • stociau a chyfranddaliadau
  • pensiynau personol a phreifat
  • budd-daliadau'r wladwriaeth
  • polisïau yswiriant cartref, bywyd, car ac iechyd
  • biliau cyfleustodau
  • biliau eraill heb eu talu
  • gweithredoedd yr eiddo
  • taliadau morgais
  • taliadau rhent
  • taliadau cerdyn credyd a cherdyn siop
  • taliadau ar fenthyciadau a dyledion ffurfiol eraill

Os oedd yr ymadawedig yn hunangyflogedig neu'n bartner busnes, bydd angen ichi hefyd gasglu dogfennau sy'n ymwneud â'u busnes.

Cael mynediad at arian y person a fu farw

Fel arfer, dim ond yr ysgutor neu'r gweinyddwr fydd yn cael mynediad at arian yr ymadawedig a bydd angen nifer o ddogfennau arnoch i wneud hyn. Ond, mae rhai eithriadau.

Materion treth yr ymadawedig

Mae'n rhaid i rai ystadau dalu Treth Etifeddu. Rhaid i rywfaint neu'r cyfan o'r dreth hon gael ei dalu cyn y bydd y llys yn rhoi Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu.

Efallai hefyd bod ad-daliad treth yn ddyledus i'r ymadawedig, neu efallai bod rhywfaint o dreth i'w thalu.

Os ydych yn gwerthu eiddo neu asedau eraill yr ymadawedig am elw, bydd rhaid talu Treth Enillion Cyfalaf os yw'r elw a wneir dros werth y farchnad ar ddyddiad y farwolaeth (nid y dyddiad caffael) yn fwy na throthwy cyfredol Treth Enillion Cyfalaf.

Taliadau eraill y bydd yn rhaid i chi eu gwneud o bosibl

Efallai hefyd y bydd angen ichi dalu:

  • rhent neu forgais ar gartref yr ymadawedig
  • costau angladd
  • biliau eraill sy'n dal i fod yn ddyledus
  • dyledion ffurfiol sy'n ddyledus gan y sawl a fu farw
  • yswiriant ar gartref yr ymadawedig
  • taliadau eraill i ddiogelu asedau'r ystâd

Arian y gallech ei gasglu

Mae arian sy'n ddyledus i'r ymadawedig yn rhan o'u hystâd. Efallai y gallwch hawlio:

  • ad-daliadau treth
  • yswiriant bywyd
  • arian o gynlluniau pensiwn
  • arian o gynilion neu bensiynau sydd wedi mynd ar goll neu yr anghofiwyd amdanynt
  • cyfalaf o fusnes yr ymadawedig
  • dyledion ffurfiol sy'n ddyledus iddynt

Fodd bynnag, does dim rhaid i'r sawl sydd wedi cael benthyciadau anffurfiol gan yr ymadawedig eu talu'n ôl.

Trefnu eich materion ariannol cyn ichi farw

Fe'ch cynghorir i gael trefn ar eich materion ariannol a gwneud ewyllys. Bydd hyn yn arbed mwy o loes i'ch perthnasau pan fyddwch yn marw ac yn sicrhau bod eich arian, eich eiddo a'ch eiddo personol yn cael eu rhannu yn unol â'ch dymuniadau chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU