Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd rhywun yn marw heb wneud ewyllys, dywedir eu bod wedi marw yn 'ddiewyllys'. Os digwydd hyn, mae'r gyfraith yn nodi pwy ddylai gael trefn ar faterion yr ymadawedig a phwy ddylai etifeddu'r ystad (eiddo, eiddo personol ac arian). Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.
Pan fydd rhywun yn marw heb adael ewyllys, bydd y gwaith o roi trefn ar ei ystad yn gymhleth. Gall gymryd amser maith hefyd - misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed mewn achosion cymhleth iawn.
Os yw'r materion yn gymhleth neu os teimlwch fod angen cymorth arnoch, mae'n syniad da ymgynghori â thwrnai cyn gynted ag y bo modd. Doeth fyddai dangos iddynt yr holl wybodaeth a dogfennau sydd gennych am eiddo, eiddo personol a materion ariannol yr ymadawedig. Yn y cyfamser, efallai y bydd yn syniad da rhoi rhai eitemau gwerthfawr bychain o'r neilltu i'w cadw'n ddiogel.
I ddod o hyd i dwrnai, gallwch ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr neu eu ffonio ar 0870 606 6575 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am - 5.00pm).
Fel arfer, gan berthynas agos, megis y partner priod, plentyn neu riant, fydd yr hawl cyfreithiol i gael trefn ar ystad yr ymadawedig.
Er mwyn gallu rhoi trefn ar ystad person, fel arfer bydd angen i chi wneud cais i'r Gofrestrfa Brofiant am 'Grant Llythyrau Gweinyddu'. Gallwch ofyn i'ch twrnai eich helpu i wneud cais am grant neu gallwch wneud cais personol.
Ar ôl cael y grant, rydych yn dod yn 'weinyddwr' ar yr ystad. Mae'r grant yn darparu tystiolaeth i fanciau, cymdeithasau adeiladu a sefydliadau eraill fod gennych hawl i gael mynediad at yr arian a oedd yn cael ei ddal yn enw'r ymadawedig a'r hawl i'w ddosbarthu. Cyfeirir yn aml at y broses fel 'cael profiant', er bod y term hwn, yn dechnegol, yn berthnasol pan fo ewyllys wedi'i gwneud.
Cofiwch os oes Treth Etifeddiant i'w thalu ar yr ystad, rhaid talu rhywfaint neu'r cyfan o'r swm hwn cyn y rhoddir grant. Darllenwch y manylion yn ein herthyglau cysylltiedig 'Gwneud cais am brofiant' a 'Prisio ystad ar gyfer Treth Etifeddiant'.
Os yw ystad yr ymadawedig o dan £5,000, a heb gynnwys unrhyw dir, eiddo neu gyfranddaliadau, efallai y gellir delio gyda'r ystad heb gael grant. Hefyd, efallai na fydd angen grant os yw'r ystad i gyd yn cael ei dal yn enw cydberchnogion ac yn trosglwyddo'n awtomatig i'r cydberchennog sydd ar ôl.
Os bydd rhywun yn marw heb ewyllys, ceir rheolau i bennu pwy sy'n etifeddu'r ystad. Mae'r canlyniad yn dibynnu ar amgylchiadau personol yr ymadawedig.
I'r rheini a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fuont farw, y cyntaf sydd â hawl i'r ystad fydd eu priod neu eu partner sifil, er na fyddant o reidrwydd yn etifeddu'r cyfan. Bydd y swm y byddant yn ei etifeddu yn dibynnu ar faint sydd yn yr ystad, a pha berthnasau gwaed sy'n fyw.
Newidiwyd y rheolau ynghylch etifeddiaeth ym mis Chwefror 2009, felly ceir rheolau gwahanol yn awr sy'n dibynnu ar os bu'r ymadawedig farw cyn neu ar ôl 1 Chwefror 2009.
Mae'r rheolau hyn yn gymhleth, ond mae gwybodaeth ar gael gan y Gwasanaeth Profiant.
Os nad oeddech wedi priodi nac yn bartneriaid sifil cofrestredig, fyddwch chi ddim yn cael cyfran o ystad eich partner yn awtomatig os na fyddant wedi gwneud ewyllys.
Os nad ydynt wedi darparu ar eich cyfer mewn rhyw ffordd arall, eich unig ddewis yw gwneud hawliad dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 - gweler yr adran nesaf.
Os teimlwch nad ydych wedi cael darpariaeth ariannol resymol gan yr ystad, efallai y gallwch hawlio dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975. I wneud hawliad, rhaid i chi fod â math arbennig o berthynas gyda'r ymadawedig, megis plentyn, gŵr neu wraig, partner sifil, dibynnydd neu berson a oedd yn cyd-fyw ag ef neu hi.
Os oeddech yn byw gyda'r ymadawedig fel partner ond heb fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil, cofiwch y bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi'ch 'cynnal naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr ymadawedig' - gall profi hyn fod yn anodd os oedd y ddau ohonoch wedi cyfrannu at eich bywyd gyda'ch gilydd.
Bydd angen i chi hawlio o fewn chwe mis i ddyddiad y grant llythyrau gweinyddu.
Mae hwn yn faes eithaf cymhleth ac efallai na fydd hawliad yn llwyddiannus. Fe'ch cynghorir i gael cyngor gan dwrnai. Byddent yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.
Ceir gwybodaeth gan y Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddiant. Ffôn: 0845 302 0900. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.