Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru marwolaeth

Fel rheol, bydd angen i chi gofrestru marwolaeth rhywun o fewn pum niwrnod. Gall hyn ymddangos yn dipyn o dasg pan fydd rhywun sy'n annwyl i chi wedi marw. Mae'r erthygl hon yn rhoi darlun cyffredinol o beth y bydd angen i chi ei wneud.

Defnyddio ein gwasanaeth rhyngweithiol i'ch helpu i gofrestru marwolaeth

Mae'r ffyrdd o gofrestru marwolaeth yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau dan sylw. Gallwch gael rhagor o gymorth drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Cross & Stitch yn y ddolen isod - bydd yn rhoi gwybodaeth wedi'i theilwra i'ch sefyllfa i chi.

Ble a phryd i gofrestru marwolaeth

Fel rheol, bydd angen i chi gofrestru marwolaeth rhywun o fewn pum niwrnod yng Nghymru a Lloegr. Y ffordd orau o wneud hyn yw mynd i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle bu'r unigolyn farw, oherwydd fel arall gall gymryd mwy o amser i gael y dogfennau gofynnol a gallai hyn beri oedi gyda threfniadau'r angladd.

Bydd y cofrestru'n cymryd rhyw hanner awr; efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad o flaen llaw. Mae manylion cysylltu swyddfeydd cofrestru lleol yn y llyfr ffôn lleol, neu fe allwch chwilio amdanynt ar-lein.

Pwy all gofrestru marwolaeth?

Os bu farw'r unigolyn mewn tŷ neu yn yr ysbyty, gall y canlynol gofrestru'r farwolaeth:

  • perthynas
  • rhywun oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • rhywun sy'n byw yn y tŷ
  • swyddog o'r ysbyty
  • y sawl sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnydd angladdau

Gall y bobl ganlynol gofrestru marwolaethau a ddigwyddodd mewn mannau eraill:

  • perthynas
  • rhywun oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • y sawl a ddaeth o hyd i'r corff
  • y sawl sy’n gyfrifol am y corff
  • y sawl sy'n gwneud y trefniadau gyda'r trefnydd angladdau

Mae'r rhan fwyaf o farwolaethau'n cael eu cofrestru gan berthynas. Fel arfer, dim ond os nad oes perthnasau ar gael y byddai'r cofrestrydd yn gadael i bobl eraill wneud.

Marw-enedigaeth

Fel arfer bydd angen cofrestru marw-enedigaeth o fewn 42 diwrnod, ac o fewn tri mis fan hwyraf. Yn aml iawn gellir gwneud hyn naill ai yn yr ysbyty neu yn y swyddfa gofrestru leol.

Gall rhieni sydd wedi profi marw-enedigaeth gael mwy o gyngor yn ein hadran ar gyfer rhieni.

Y wybodaeth a'r dogfennau y bydd eu hangen arnoch

Dogfennau

Wrth gofrestru marwolaeth, bydd angen i chi gyflwyno'r canlynol:

  • tystysgrif feddygol yn nodi achos y farwolaeth (wedi'i llofnodi gan feddyg)

Ac os ydynt ar gael:

  • tystysgrif geni
  • tystysgrifau priodas/partneriaeth sifil
  • Cerdyn Meddygol y GIG

Gwybodaeth

Bydd angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol i'r cofrestrydd:

  • enw llawn yr unigolyn adeg ei farwolaeth
  • unrhyw enwau a ddefnyddiwyd yn flaenorol, gan gynnwys cyfenw cyn priodi
  • dyddiad a man geni'r unigolyn (y dref a'r sir os ganed ef/hi yn y DU, a'r wlad os ganed ef/hi dramor)
  • cyfeiriad diwethaf yr ymadawedig
  • ei alwedigaeth
  • enw llawn, dyddiad geni a gwaith y partner priod neu'r partner sifil sydd ar ôl
  • a oedd yn cael pensiwn y wladwriaeth neu unrhyw fudd-dal arall gan y wlad

Dogfennau a roddir i chi

Os nad oes post mortem, bydd y cofrestrydd yn rhoi'r canlynol i chi:

  • Tystysgrif ar gyfer Claddu neu Amlosgi (a elwir yn 'ffurflen werdd'), sy'n rhoi caniatâd i gladdu'r corff neu i wneud cais am amlosgi'r corff
  • Tystysgrif Cofrestru Marwolaeth (ffurflen BD8), a roddir at ddefnydd yr adran nawdd cymdeithasol os oedd yr unigolyn yn cael pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau (darllenwch yr wybodaeth ar gefn y ffurflen, ac os yw'n berthnasol, llenwch y ffurflen a'i dychwelyd)

Gallwch brynu un neu fwy o Dystysgrifau Marwolaeth ar yr adeg hon; bydd y pris yn amrywio o'r naill awdurdod lleol i'r llall. Bydd eu hangen ar yr ysgutor neu'r gweinyddwr wrth iddynt roi trefn ar faterion yr unigolyn.

Bydd y cofrestrydd hefyd yn rhoi llyfryn 'Beth i'w wneud ar ôl marwolaeth' i chi. Mae hwn yn rhoi cyngor am faterion profiant a materion gweinyddol eraill y bydd angen eu gwneud ar yr adeg hon. Gallwch hefyd lwytho copi oddi ar y we isod.

Os oes angen cynnal post-mortem, bydd y crwner yn cyflwyno unrhyw ddogfennau angenrheidiol cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny.

Os ceir camgymeriad ar gofnod marwolaeth, gellir newid neu ychwanegu manylion. Yn ddelfrydol, y sawl a gofrestrodd y farwolaeth ddylai drefnu hyn gyda'r swyddfa lle cofrestrwyd y farwolaeth. Mae'n bosib y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i brofi bod camgymeriad wedi'i wneud.

Symud corff o Gymru neu Loegr

Does dim cyfyngiad ar symud corff o fewn Cymru a Lloegr, ond os bydd arnoch eisiau symud corff i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel neu dramor, bydd angen i chi roi gwybod i'r crwner yn yr ardal berthnasol.

Bydd angen ffurflen arnoch i wneud hyn, ac mae ar gael gan y crwner neu'r cofrestrydd. Wedyn, bydd angen i chi roi'r ffurflen orffenedig i'r crwner, gan amgáu unrhyw dystysgrif claddu neu amlosgi a roddwyd i chi eisoes.

Bydd y crwner yn cydnabod iddo gael yr hysbysiad hwnnw, ac yn dweud wrthych pryd y gallwch symud y corff – fel rheol, 4 diwrnod llawn ar ôl cael yr hysbysiad. Ond, fel rheol gellir cyflymu'r broses gyfan mewn sefyllfaoedd brys.

Os caiff marwolaeth ei chyfeirio at grwner

Mewn nifer fach o achosion - pan nad yw achos y farwolaeth yn glir, neu os yw'r farwolaeth yn ddirybudd neu'n amheus - bydd y meddyg, yr ysbyty neu'r cofrestrydd yn cysylltu â chrwner. Wedyn, rhaid i'r crwner benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad pellach. Ni all y cofrestrydd gofrestru'r farwolaeth nes bydd y crwner wedi dod i benderfyniad.

Pethau eraill y mae angen eu gwneud

Ni ellir gwneud popeth ar unwaith, yn enwedig gan fod hon yn adeg anodd iawn i bobl ymdopi â hi, ond mae'n bwysig gwneud y canlynol:

  • sicrhau bod pawb sydd angen gwybod yn gwybod
  • trefnu i gyfarfod â thwrnai'r ymadawedig a darllen yr ewyllys cyn gynted ag y bo modd; bydd hyn yn datgelu unrhyw ofynion arbennig o ran yr angladd ac yn rhoi enwau'r ysgutorion
  • dechrau trefnu'r angladd
  • casglu ynghyd yr holl wybodaeth a'r dogfennau y bydd eu hangen arnoch

I gael rhagor o fanylion, darllenwch ein herthyglau perthnasol isod; ceir rhestr wirio hefyd i'ch helpu drwy'r broses.

Allweddumynediad llywodraeth y DU